Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfieithiad o ddisgrifiad George Fox o'i ymweliadau â Chymru yn 1657 GEORGE FOX A CHYMRU HERBERT HUGHES Wrth ddathlu cyfraniadau Williams Pantycelyn, John Wesley a Mozart y llynedd, fe fyddai'n ddibris ohonom anghofio cyfraniad George Fox, sylfaenydd y gymdeithas o bobl a Iysenwyd y Crynwyr, a fu farw yn 1691. "Plant y Goleuni" neu "Cyhoedd- wyr y Gair" oedd ei ddewis deitlau ef, ond erbyn hyn cânt eu 'nabod wrth eu hoff enw: Cymdeithas y Cyfeillion. Oes 'na enw hyfrytach ar enwad Cristnogol na hwnnw? Fe fu Fox ar ymweliad â Chymru o leiaf saith o weithiau. Dyna'r cyfanswm y medrais eu cyfrif o'r gyfrol The Journal of George Fox a olygwyd gan John L. Nickalls (Caergrawnt 1952). Cefais fy swyno o'r newydd gan y gyfrol hon sy'n haeddu ei lle fel un o glasuron yr 17 ganrif, ochr yn ochr â Grace Abounding John Bunyan a hunangofiant Richard Bax- ter; er mae'n bwysig nodi mai nid dyddiadur ydy'r Journal ond llyfr o atgofion wedi eu hadrodd gan Fox ar derfyn ei oes a'u cofnodi gan eraill. Ond mae ei bersonoliaeth gref a'i arddull garlamus ef yn hydreiddio'r cyfan. Mae'r hyn a allasai fod yn gatalog pedestraidd yn fywiog, afaelgar a chofiadwy. Gwir y dywedodd William Penn amdano, "un gwreiddiol hollol; dynwaredwr neb". Dewisais gyfieithu hanes rhai o'r ymweliadau â Chymru yn 1657, a cheisiais fod yn ffyddlon i'r gwreiddiol a chadw asbri'r iaith, a'r atalnodi rhyfedd! O GAER-WENT I ABERTAWE "O fferm y Slow ger Caer-went euthum i Gaerdydd ac yno mae ustus heddwch yn galw amdanaf ac yn dymuno fod han- ner dwsin o bobl yn dod hefo mi i'w dÿ. Ac felly dygais Gyfaill neu ddau a mynd ato, ac fe'n derbyniwyd yn gwrtais ganddo ef a'i wraig; a thrannoeth cawsom gyfarfod yng Nghaerdydd yn neuadd y dref a danfonodd yr ustus tua dau ar bymtheg o'i deulu i'r cyfarfod. A daeth rhai cynhyrfwyr ond roedd gallu'r Arglwydd dros bawb. Felly fe aethom drwy'r wlad i Abertawe a chroesi afon mewn cwch gyda'r uchel siryf ac fe gawsom gyfarfod bendithiol yno, a sefydlwyd cwrdd yno sy'n sefyll hyd heddiw. A thrannoeth euthum i dorri gair â'r uchel siryf ond nid oedd am wrando o gwbl. Oddi yno aethom i gyfarfod arall yn y wlad lle roedd presenoldeb yr Arglwydd gyda ni; ac yna aethom dy dyn pwysig a'n derbyniodd yn gariadus. Ond y bore wedyn nid oedd i'w weld; roedd un a ddaeth ato yn y cyfamser wedi ei wylltio, fel na fedrem gael ato i siarad hefo fo, roedd wedi newid cymaint ond y noson cynt roedd yn hynod gariadus. o Felly fe deithiasom drwy'r wlad a chael cyfarfodydd a chyn- null pobl yn enw Crist at eu meistr nes dod i Aberhonddu, ac yno rhoisom Ie i'n ceffylau mewn gwesty. Ac fe aeth Thomas Holmes a John ap John gyda mi, ac fe'i symudwyd ef i siarad yn y strydoedd. Ac euthum i gerdded allan ychydig i'r caeau, ond erbyn imi ddychwel roedd y dref i gyd mewn cythrwfl; a phan ddeuthum i'r gwesty roedd y siambr yn llawn o bobl ac roeddynt yn siarad yn Gymraeg. Ac fe ddymunais iddynt siarad yn Saesneg ag fe wnaethant, a chawsom drafodaeth rymus, ac ymhen ychydig aethant i'w ffyrdd. Ond gyda'r nos ymgynullodd yr ustusiaid yn y stryd, a thyrfa o bobl, ac fe'u hanogasant i weiddi gan gynhyrfu'r dref fel bod yna gymaint o swn, dros tua dwy awr, na chlywsom ei debyg; ac fe'u hanogwyd i weiddi eto gan yr ustusiaid ar ymadael. Ac ni fu cymaint cythrwfl ymhlith crefftwyr Diana ag a fu'r pryd hwnnw, fel y byddent wedi malurio'n tŷ ninnau'n ddarnau oni bai fod nerth yr Arglwydd wedi eu hatal. A hyn a wnaethant ymhell i'r nos. Ac roedd ganddynt gynllwyn yn eu plith, gan gynnwys gwraig y gwesty, wedi nos, i'n denu allan o'r ystafell arall i fwyta, i ystafell fawr. Ac felly edrychais ar yr ystafell, ac o ganfod y cynllwyn, gorchmynnais i'r wraig ddwyn ein lluniaeth i'n siambr ni, gan fod yno fwrdd digonol, ac nad oeddem am fwyta o gwbl os nad yn ein hystafell ein hunain, a rhoi dewis iddi ei ddwyn inni neu beidio. O'r diwedd fe'i dygodd i fyny mewn tymer nwydwyllt. Yna fe ddeisyfodd ar- nom i adael ei gwesty, ond dywedasom wrthi ein bod wedi