Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ı ı 1 ı ı DEWI W. THOMAS O'r braidd y dychwelodd neb o'r Wyddgrug heb iddo neu iddi glywed crybwyll Daniel Owen, Rhys Lewis ac efallai Thomas Bartley. Iddo ef, fel y gwyr darllenwyr Cristion yn dda, y priodolir y geiriau uchod. Gwyr pob un ohonynt hefyd nad cyfeiriad at leicio gwneud rhywbeth dymunol sydd yma ond cyfeiriad at ddioddefaint arteithiol y tu hwnt i ddychymyg neb ohonom dioddefaint Crist ar y Groes. I'ch atgofio, caniatewch imi esbonio mai'r sefyllfa oedd fod Thomas a Barbara Bartley am ymuno â'r seiat, a William Hughes y gweinidog yn eu holi. I ddy- fynnu'r awdur: "Yr oedd yn amlwg ers meityn, fel y clywais fy mam yn dweud, nad oedd Mr. William Hughes yn deall ei gwsmer; ac wedi aros eiliad neu ddau gwnaeth un cais arall i gael Thomas i ryw bwynt, ac ebe fe,- 'Thomas Bartley, wnewch chi ddweud wrtha i, beth oedd yn galw am i lesu Grist farw trosom?' 'Wel, cyn belled ag yr ydw i yn dâllt, ebe Thomas, 'doedd dim ar affeth hon y ddaear yn galw am iddo farw droston ni ond fod o'i hun yn leicio gneud hynny.' Yn ei ffordd onest a gwreiddiol y mae'n debyg fod Thomas yn nes ati na llawer un a ailadroddodd sibolethau uniongred am farwolaeth ein Gwaredwr. Y mae gwahaniaeth rhwng adleisio datganiadau uniongred a chredu, a chan fod Thomas Bartley yn credu digon yn naioni a chariad Duw i'w efelychu a gwneud ei ewyllys, yn hytrach nag ymfodloni ar ei gyfarch â banllefau o "Arglwydd! Arglwydd!" y mae'n debyg ei fod yn fwy uniongred na llawer o ddiwinyddion praff. Ar wahân i hynny, y mae sail ddiwinyddol yn yr Ysgrythur i'r gwirionedd a ddenwyd o enau Thomas Bartley. Wedi sôn amdano ei hunan fel y bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid, yn y 10fed bennod o'r efengyl yn ôl Luc, y mae'r Arglwydd lesu'n mynd rhagddo i ddweud: "Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w dderbyn eilwaith. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi." Mewn geiriau eraill "am fod o'i hun yn leicio gneud hynny." gwneud GWAHANU'R SYLWEDD Y mae Athrawiaeth y Drindod yn rhan o'n hetifeddiaeth ni dirgelwch goruwch- resymol y Tri yn Un, y barnodd "yr Awstin mawr hwnnw", fel y cyfeiriodd yr Esgob Richard Davies ato, y byddai'n haws i blentyn a welai'n cario dwr y môr i dwll yn y tywod sychu'r môr nag iddo ef ei ddeall. O'r braidd y llwyddai neb arall ychwaith; ond gellir bod yn sicr nad yw'r anthem a elwir yn Gredo Athenasius yn cyfeiliorni wrth gyfarwyddo fel hyn: "Nid cymysgu ohonom y Personau na gwahanu'r Sylwedd." Y mae lle i ofni i ddiwinyddion fod yn euog o wahanu'r Sylwedd, gan gredu bod agwedd y Tad, ar y naill Iaw, a'r Mab, ar y llaw arall, at bechadur, yn wahanol, fel pe na bai gennym, yn ogystal, Athrawiaeth yr Ymgnawdoliad. Onid cariad yw Duw yng nghyflawnder ei Fod? Amheuaf weithiau a ydym wedi derbyn y gwirionedd sylfaenol hwn yng Nghymru. Onid dyna yw ystyr y ffaith fod y term diwinyddol "Yr lawn" yn cyfateb i'r term Saesneg Atonement. Nid ydynt yn gyfystyr. Onid yw'r syniad fod elfen o'r Duwdod yn hawlio iawndal yn golygu bod diffyg yng nghariad anfeidrol Duw? rhywbeth gwahanol iawn i'r "leicio gneud" y soniai Thomas Bartley amdano? Onid rhagfarn yn deillio o athroniaeth Groeg, na oddefai i neb gredu y gallai Duw ddioddef, sy'n gwahanu'r Sylwedd, gan hawlio bod y Mab yn dioddef yn lle'r Tad drosom ni? Ai felly yr ydym i ddeall ei bod hi'n rhaid i Fab y dyn gael ei ddyrchafu, a'r gosodiad cyfarwydd: "Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol"? Nid cyfiawnhad drwy weithredoedd dynion, na chyfiawnhad mewn unrhyw ystyr, mewn gwirionedd, yw sail ein gobaith, ond ein bod yn cael ein hargyhoeddi gan Grist, yr unig Dduw ymgnawdoledig, fod ei gariad mor fawr nes ei fod yn barod i'n derbyn fel ag yr ydym, od oes gennym ffydd yng Nghrist, a hynny'n gwbl ddiamod, ac eithrio'r un amod ein bod yn barod iddo'n gwneud yn debyg i lesu Grist ei hunan, trwy nerth ei ras a dylanwad yr Ysbryd Glân. RHODD WIRFODDOL "Yr Arglwydd yw fy mugail" oedd geiriau'r Salmydd, ac y mae'r Gwr a fu gynt o dan hoelion Dros ddyn pechadurus fel fi, yn adleisio'i eiriau: "Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid." Rhodd wirfoddol oedd hi, fel y dywedodd Thomas Bartley. Yr oedd hi'n rhodd anfeidrol hefyd. Honna loan yn ei Efengyl i'r Arglwydd ddweud: "Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod dyn yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion." Ond er mai efe a ddywedodd hyn, gwyddai Pantycelyn am gariad mwy na hynny, gan ddatgan a wyddai yn y geiriau: Ti fuost farw, rhyfedd yw! Er mwyn cael o'th elynion fyw. Yn bendifaddau yr oedd hi'n rhodd ddigonol, nid fel iawn i newid agwedd y Tad digllon, ond fel amlygiad o anterth y Cariad digyfnewid a all newid agwedd a holl gymeriad y pechadur. Dywedodd Luther yn rhywle nad aberth dyn i Dduw ym mherson dynol Crist yw angau'r Groes, eithr aberth, sef hunanaberth, y Duw sanctaidd, i ddyn pechadurus, nes bod lluoedd heblaw'r Apostol wedi tystiolaethu ac yn dal i dystiolaethu: "Ond gobaith Duw yw'r cyfan Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogeth y cymod. Hynny yw, yr oedd