Skip navigation

Cristion

 - 

50 Ion./Chwef. 1992

" - ond fod o'i hun yn leico gwneud hynny"

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei
hun, heb gyfrif troseddau dynion yn eu her-
byn, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y
cymod."
Da yw inni gofio hyn yn ystod Degawd
yr Efengylu, a'n cenadwri i bobl "y
ffenomen newydd, sef Cymry ymwybodol
o'u Cymreictod a sydd yn anghredinwyr
proffesedig", y sonia'r Dr. John Davies
amdanynt yn Hanes Cymru, yw: "Felly
cenhadon yn cynrychioli Crist ydym ni, fel
pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Yr
ydym yn deisyf amoch, er mwyn Crist,
cymoder chwi â Duw." A dyna'r
peth-eisiau'n cymodi ni ddynion, yn wyr
a gwragedd, â Duw sydd yn ein newid ni,
nid newid y Cariad digyfnewid.
Gall rhodd ddigonol Duw yng Nghrist
wneud y neb a gredo'n rhan o'r
greadigaeth newydd ac yn ymwybodol o
gariad Crist yn ei annog a'i orfodi, neu yn
ôl un cyfieithiad Saesneg, "ei
lywodraethu". Oedd, yr oedd Crist "yn
leicio gneud", a hynny am ei fod yn rhan
o'r realiti dwyfol y dywedodd Hiraethog
amdano:
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y IIi:
T'wysog bywyd pur yn marw,
Marw i brynu'n bywyd ni:
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu'i glod?
Dyma gariad nad a'n angof
Tra fo nefoedd wen yn bod.
Yr olaf o fyfyrdodau'r Parchedig W. Alwyn Lloyd ar
Y GWYNFYDAU
"Gwyn eu byd y rhai pur o galon, oher-
wydd cânt hwy weld Duw."
Pe baem yn cynnal cystadleuaeth yn ein
cynulleidfaoedd er mwyn canfod pa un o'r
gwynfydau a ddeuai gyntaf i'r cof, y mae'n
sicr mai hwn a fyddai'n ennill bob tro. Y
mae pob plentyn a arferai ddweud adnod,
neu sy'n dal i ddweud ei adnod yn yr oed-
fa, wedi dweud hon rywbryd neu gilydd a
mwy na thebyg wedi ei dweud hi fwy nag
unwaith gan ei bod yn standbei go dda. Ac
y mae hynny'n syndod mawr pan ystyriwn
pa mor anghyraeddadwy yw'r gwynfyd
hwn. Ond y mae un peth yn sicr, nid yw
lesu byth yn gwawdio ein gobeithion.
Beth yw purdeb calon? Y mae'r galon fel
rheol yn y Beibl yn golygu'r holl ber-
sonoliaeth. Y mae'n golygu nid yn unig yr
Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau'r nefoedd
Oedd yn gyfain hyd yn awr:
Gras a chariad megis dilyw
Yn ymdywallt yma 'nghyd,
Y Drindod yn y Groes
emosiynau ond hefyd yr ewyllys a'r
meddwl. Y gair a ddefnyddir yma am
burdeb yw kathros. Yn wreiddiol golygai
lendid neu bod yn lân. Er enghraifft, gallai
gael ei ddefnyddio am ddillad a drochwyd
ac a olchwyd yn lân. Defnyddiwyd y gair
hefyd am ŷd a nithiwyd oddi wrth yr us, am
win neu laeth a oedd heb ei gymysgu â
dwr, neu fetal pur nad oedd yr un mymryn
o aloi yn gymysg ag ef, megis aur pur.
Ystyr gwreiddiol kathros oedd rhywbeth
pur, digymysg.
Felly, fe ellir cyfieithu'r gwynfyd yma fel
hyn: 'Gwyn fyd y dyn sydd â'i gymhellion
yn ddigymysg, oherwydd y dyn hwn a gaiff
weld Duw." Efallai mai'r ddau syniad
llywodraethol yw cywirdeb meddwl ac
unplygrwydd cymhelliad. Yn anaml iawn y
cawn ein hunain yn rhydd o gymhellion
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.
Y GROES A'R DRINDOD
Yn yr Eisteddfod prynais gyfrol ddiddorol
y Canon Glyndwr Williams, Y Tair Coeden.
Yn honno y mae'n cyfeirio at, i'w ddyfyn-
nu: "Un o'r darnau gwydr lliw hynaf yng
Nghymru." Yn Eglwys Llanrhychwyn y
mae'r dam hwnnw i'w weld. Yn ôl yr awdur,
"Fe'i gwelir yn y ffenestr uwchben yr allor
a darlun yw o'r Drindod'. Dengys y,Tad yn
dal pwysau'r Groes a'r Mab ynghrog arni,
a'r Ysbryd ar ffurf colomen yn ei fynwes."
Nid oes yn y dehongliad gweledol hwn
"wahanu'r Sylwedd". Fel y mae'n digwydd
y mae pennill o waith Pantycelyn wedi ei
osod i'w ganu, yn dilyn dau bennill
Hiraethog, yn Emynau'r Eglwys. Y mae hon
eto'n datgan undod Duw yn ei berthynas
â marwolaeth Crist, rhag inni amau bod
rhyw ran ohono nad oedd "yn leicio
gneud". Dyma'r pennill:
O ddyfnderoedd o ddoethineb!
O ddyfnderoedd maith o ras!
O ddirgelion anchwiliadwy,
Bythol uwch eu chwilio i maes!
Mae Seraffiaid nef yn edrych
Gyda syndod bob yr un
Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol-
Duw yn marw dros y dyn.
Ers ymddeol ychydig flynyddoedd yn ôl o
blwyf Uanilar, Ceredigion, bu'rCanon Dewi
Thomas yn byw yn Rhydaman.
"Y pur o galon"
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.