Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Portread o'r offeiriad, y caplan, y pregethwr a'r awdur 1 dylanwadol G.A. Studdert Kennedy. IORWERTH JONES Fel caplan yn Rhyfel 1914-18 y daeth Studdert Kennedy i amlygrwydd. Ei arfer o gludo sigarennau gydag ef i bob man i'w cynnig i'r bechgyn a roes iddo ei ffugenw 'Woodbine Willie'. O'i brofiad personol o ryfel tystiodd, "War is the most obviously wicked thing I know War is undiluted filthy sin. Geiriau un a anrhydeddwyd fwy nag unwaith am ei wroldeb yw'r rhain. Cynyddodd ei enwogrwydd ar ôl y Rhyfel i dri chyfeiriad yn neilltuol: fel offeiriad plwyf eneiniedig, fel siaradwr cyhoeddus huawdl ac fel awdur dylanwadol. BUGAIL A PHROFFWYD Bu'n ficer yng Nghaerwrangon ac wedyn ynghanol Llundain. Daeth William Temple i'w nabod yn dda. Cyn hynny, o glywed am ei ddywediadau herfeiddiol, amheuai ei ddoethineb. Ond wedi dod i gyffyrddiad personol ag ef dros gyfnod fe wnaeth y datganiad (ac un o arweinwyr Cristnogol meddylgar ei genhedlaeth sy'n llefaru), "the finest priest I have ever known. Yn ôl y Canon J.K. Mozley yr oedd yn llawn cymaint o fugail ag o broffwyd. Gofid mawr iddo fuasai methu parhau ei waith fel offeiriad plwyf, yn enwedig ymhlith y tlodion. Galwyd arno'n gynyddol i ddelio â phersonau unigol. Gwerthfawrogid ei fewn- welediad a'i gydymdeimlad. Gosododd amryw eu gofidiau arno. Yr oedd ganddo galon fawr, haelionus, yn ogystal â meddwl cyflym, miniog. Meddai ddawn eithriadol i annerch torfeydd o ddynion mewn iaith blaen, fyw a threiddgar. Gwahoddwyd ef yn fynych hefyd i arwain encilfeydd ar gyfer grwpiau dethol. Medrai addasu ei arddull at ei wrandawyr, ond hyd yn oed mewn encil fe wnai osodiadau fel, "Nid oes gan Dduw urddas, gyhyd ag y caiff ennill enaid." Eithr at ei gilydd nid oedd ei anerchiadau i dduwiolion mor rymus A'r rhai a draddodai i gynulleidfaoedd cymysg. Yn y byd yr oedd ar ei orau, nid ar wahân iddo. Y SANCTAIDD A'R SECWLAR Gwaith peryglus yn ei olwg oedd ceisio codi mur rhwng y sanctaidd a'r secwlar. Nid dau beth gwahanol oedd crefydd ac economeg, meddai, ond dwy wedd i'r un peth-y tu mewn a'r tu allan. "Os honnwn fod Crist yn bresennol ym Mara'r Cysegr, ond yn absennol o fara'r stryd yr ydym yn gwadu gwirionedd yr Ymgnawdoliad." Cyhoeddodd Iyfr ardderchog ar Weddi'r Arglwydd, The WicketGate (1923). Copi o argraffiad 1935 sydd gen i. O fwrw golwg drosto eto cofiaf dros y blynyddoedd yr ysgytwad a gefais o ddarllen ei sylwadau ar yr hyn a alwai ef yn felltith Cristnogaeth Oes Victoria y rhaniad rhwng y sanctaidd a'r secwlar: "Dim ond un Dydd oedd yn eiddo i Dduw; dyddiau bydol oedd y lleill. Dim ond un Llyfr oedd yn eiddo i Dduw; Duw a wyr pwy biau'r lleill. Dim ond un Tŷ oedd yn eiddo i Dduw; eiddo'r landlord neu'r cythraul oedd gormod o'r lleill-ac nid oedd fawr o wahaniaeth yn rhy aml." Yr oedd ei brofiadau personol ar feysydd cad Ffrainc a Fflandrys, ac ynghanol dinasoedd Lloegr wedyn, wedi gwneud realydd ohono, heb arlliw o sentimental- eiddiwch arwynebol. "Pan ddywedaf wrth fachgen bach yn y slymiau fod Duw'n Dad iddo gofynnaf i mi fy hun yn amal beth y mae'n ei wneud o'r geiriau, pan fo'r tadau y mae ef yn eu nabod yn feddw fel rheol, ac yn curo eu gwragedd." Nid oedd nemor dudalen yn yr un o'i Iyfrau, meddai, nad oedd yn ymgais i ateb cwestiynau a hyrddiwyd ato mewn cyfarfodydd cyhoeddus, neu mewn sgyrsiau wedyn. Nid oes ryfedd i'w Iyfrau ennyn cymaint o sylw. Cyhoeddwyd Lies yn niwedd 1919. Galwyd am bedwar argraffiad yn 1920. Argraffiad 1932 sydd gen i y pymthegfed. Poblogrwydd nid annhebyg fu i fwy nag un o'i Iyfrau eraill. Gyda'r mwyaf cymeradwy o'i gynnyrch cynharaf oedd ei farddoniaeth yr hyn a alwai ef yn Rough Rhymes. Cyhoeddwyd o leiaf bedwar casgliad gwahanol o'r 'rhigymau' hyn. Enghraifft o'r rhai a ddaeth i fri yw: 'Peace does not mean the end of all our striving, Joy does not mean the drying of our tears, Peace is the power that comes to souls arriving Up to the light where God himself appears. El WLEIDYDDIAETH Nid oedd ynghlwm wrth unrhyw blaid wleidyddol, ond amlwg yw ei gydymdeimlad â'r Mudiad Llafur. Gwelir hyn yn arbennig yn ei Democracy and the Dog Collar (1921). Hwn yw ei Iyfr mwyaf politicaidd. Nid oedd yn delfrydu'r gweithwyr. "Imperialwyr yw llawer o weithwyr Lloegr," meddai. "Dyna pam y mae cynifer yn pleidleisio yn erbyn Llafur. Dyfynnodd Philip Snowden: pe bai'r gweithwyr yn gwario ar gefnogi cyhoeddusrwydd i'w hochor hwy yr ugeinfed ran o'r arian a wastraffant ar ddiota a gamblo fe ddinistrid yn fuan fonopoli cyfalafiaeth ym myd y cyfryngau. Ychwanegodd Studdert Kennedy, "Fe fyddai'n well gan y gweithiwr cyffredin yn Lloegr ichi ymyrryd â phopeth yn hytrach na'i gwrw." Nid oedd ganddo