Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddim i'w ddweud wrth y fasnach feddwol. "Geilw Satan arnom i yfed ac anghofio. Geilw Duw arnom i yfed a chofio." Dadleuai'n gyson o blaid "gwirionedd cydweithrediad yn erbyn celwydd cystadleuaeth". Nid anhrefn y goedwig ond cyfraith y teulu yw gwir natur Teyrnas Crist. Cyflwynodd un o'i Iyfrau, The Word and the Work (1925) i'r di-waith, "gyda chydymdeimlad a pharch." Collfarnodd ecsploetio Prydain ar dlodion India yn y dauddegau. Fe all gwr clyfar a bydol ddyfeisio dadleuon rhagorol "to justify a course of action which will increase his income. Yr hyn sy'n taro dyn wrth ddarllen Democracy and the Dog Collar yw'r tebygrwydd rhwng 1921 a 1991. Meddai Studdert Kennedy: ni ddylai siawnsfentrwyr cyfoethog allu hawlio llogau o 20% i 30%, a melltithio'r gweithwyr am geisio llawer llai o godiad cyflog am wneud gwaith caled ac annymunol. Drachefn yn 1921 gwelai obeithion Llafur yn suddo o dan "a continual barrage from the vested interests, backed by the Press they control." Yn 1921 o hyd, gwrthdystiodd yn erbyn y twrw parhaus a drefnid ac a godid yn erbyn y gwasanaethau cyhoeddus gan gyfoethogion na ddymunent i'r gwasanaethau hynny Iwyddo, ond a roddai eu bryd yn hytrach ar grynhoi elw buan iddynt eu hunain. Bu farw Studdert Kennedy cyn cyrraedd ei chwech a deugain oed. Yr oedd wedi ei losgi ei hun allan. Parhaodd yn ddarllenydd dyfal ar ôl dilyn cwrs disglair yn Trinity College, Dulyn. Tystiodd William Temple ac eraill o'i gyfeillion agos mai darllen y llyfrau trymaf ar unrhyw bwnc a astudiai oedd arfer Studdert Kennedy. Sut oedd yn ffendio'r amser? Fynychaf yn oriau mån y bore. "Efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo." A llaweroedd a fu'n ewyllysgar i orfoleddu yn ei oleuni ef. ATEBION I'R CWIS YSGRYTHUROL 1 Yr oedd wedi lladd Eifftiwr ac wedi deall bod Pharo yn ceisio ei einioes (2:11-15).. 2. (a) Jethro; (b) Saith (3:1; 2:16). 3. Seffora (2:21). 4. "Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch" (3:14). 5. Gwaed, Llyffaint, Llau, Pryfed, Marw'r Anifeiliaid, Cornwydydd, Cenllysg, Locustiaid, Tywyllwch, Marwolaeth y Cyntafanedig. (Pen. 7-10). 6. "Deuddeg ffynnon ddwr, a deg a thriugain o balmwydd" (15:27). 7. Aaron a Hur. Deugain diwrnod a deugain nos (24:12-18). 8. (a) O bres; (b) Aaron a'i feibion (27:19-21). 9. Offrwm ercymod dros eu bywyd (30:15). 10. Byddai colofn o gwmwl yn disgyn ac yn aros wrth y drws (33:9). Yn ddiweddar apwyntiwyd Marian Lloyd Roberts yn Weithiwr Cenhadol yn ardal Rhosllannerchrugog. MENTER MEWN CENHADU MARIAN LLOYD ROBERTS Mae 'mhen i'n troi! Ble mae rhywun yn dechrau? Roedd rhyw lais bach yn dweud wrthyf "Dechreua wrth dy draed", ond tydi hi ddim mor hawdd â hynny yn nac ydi? Ym mis Mawrth y llynedd dechreuais ar y gwaith hwn oedd yn cynnig sialens a her newydd i mi. Am y mis cyntaf nid oedd gennyf swyddfa na chartref yn y Rhos felly fe ddibynnais yn helaeth ar garedigrwydd ffrindiau a theulu ac roedd Little Chef, Rhostyllen yn gyfleus iawn, gan nad oes Caffi yn y Rhos! CYNORTHWYO CENHADU Wrth fynd o gwmpas fy ngwaith, weithiau gofynnir y cwestiwn hwn i mi, 'A be'n union ydach chi'n neud?" Mae pobl yn gwybod beth yw dyletswyddau gweinidog yn gyffredinol, ond "Gweithiwr Cenhadol"? Dyma un o'r cwestiynau anoddaf i'w ateb mewn ffordd, oherwydd mae'r gwaith mor eang. Rwyf yma i gynorthwyo'r eglwysi yn eu cenhadu a'u hefengylu, ac mae gennyf gyfrifoldeb arbennig am yr ieuenctid a'r plant. Dyna fo yn fyr ond mae llawer o bethau yn deillio o hyn fel y gellwch ddychmygu. Bwrdd Cenhadaeth ac Undeb Eglwys Bresbyteraidd Cymru sy'n fy nghyflogi gyda chymorth yr Henaduriaeth leol, sef Henaduriaeth Dwyrain Dinbych. Mae deg o gapeli yn Nosbarth Rhiwabon ble rwy'n gweithio, ac er fy mod yn helpu'r capeli hyn gyd, penderfynwyd canoli y rhan fwyaf o'r gwaith yn y Rhos. (Diolch byth! meddwn innau neu fyddwn i byth yn dod i ben!) Yn y Rhos mae nifer o eglwysi o enwadau eraill a cheisiaf gydweithio â hwythau er mwyn sicrhau bod ein tystiolaeth Gristnogol a'n cenhadaeth yn unedig. Bellach mae tîm da o weithwyr yma wedi cyfnod o fod heb yr un gweinidog na ficer, mae yma yn awr Weinidog Presbyteraidd, Weithiwr Cenhadol, Ficer ers mis Mai a Gweinidog Bedyddwyr ers mis Medi, heb anghofio hefyd Swyddog Byddin yr lachawdwriaeth. Mae'n bwysig pwysleisio nad wyf yn gweithio ar fy mhen fy hun. Rwy'n cydweithio'n agos iawn â'r Parchg. Rhys ab Ogwen Jones, Gweinidog Presbyteraidd yn yr ardal, yn ogystal â Gweinidogion Cymraeg eraill, ac mae Pwyllgor Llywio wedi ei ffurfio i fod yn gefn i mi. MEITHRIN PERTHYNAS Treuliais lawer iawn o amser ar y dechrau y mynychu cyfarfodydd, ymweld â phobl-ceisio creu cysylltiadau newydd. Mae gwaith ysgolion wedi bod yn bwysig o'r dechrau a chefais groeso a chefnogaeth mewn nifer helaeth o ysgolion y cylch. Gan fod gennyf gyfrifoldeb arbennig dros blant a ieuenctid bydd yr ysgolion yn chwarae rhan bwysig iawn yn fy ngwaith. Bu'r misoedd cyntaf hyn yn gyfnod o setlo lawr mewn ardal newydd a dod i adnabod rhai o'i thrigolion. Credaf bod meithrin perthynas â phobl yn hanfodol mewn cenhadaeth ac mae ennill eu hymddiriedaeth yn sicrhau y bydd modd cyd-weithio. Roedd cerdded lawer y 'Stryt' yn y Rhos a sylweddoli nad oedd Caffi yma yn dipyn o sioc i mi! Felly, dyma feddwl ar unwaith tybed na allai eglwysi'r cylch