Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

agor lle o'r fath fyddai'n cynnig gwasanaeth ac ar yr un pryd yn dystiolaeth Gristnogol i bobl yr ardal? Mae ein cyd- Gristnogion yng Nglyn Ceiriog wedi mentro yno trwy sefydlu Canolfan Gristnogol Ceiriog, sydd yn ogystal â bod yn fan cyfarfod, yn gwerthu llenyddiaeth Gristnogol a nwyddau o'r Trydydd Byd. Gweddïwn y bydd Duw yn dangos y ffordd i ni yma yn y Rhos. Rhan bwysig o'm gwaith gyda'r plant a'r ieuenctid yw'r cyrsiau a drefnir yng Nghanolfan leuenctid Coleg y Bala. Mae'n rhaid i mi gyfaddef ei bod yn braf mynd yn ôl o dro i dro ar ôl treulio ymron i bum mlynedd hapus iawn yno. Bydd CIC Rhos yn cael ei sefydlu yn yr Hydref (sef Clwb leuenctid Cristnogol i'r Rhos a'r cylch) a gobeithiwn feithrin perthynas agos â chlybiau cyffelyb mewn ardaloedd eraill. Mae clwb plant yn cyfarfod yma eisoes sef Clwb Hwyl Hwyr a gobeithiwn ehangu ar y gwaith hwn trwy drefnu Clybiau Gwyliau Cristnogol i'r plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Un o'r pethau yr ydyrrt yn canol- bwyntio arno ar hyn o bryd yn y Capel Mawr yw ceisio cael mwy o deuluoedd i fynychu'r oedfaon a cham i'r cyfeiriad LLYTHYRAU GWOBRAU I AWDURON IFAINC CYMRU 1992 Tybed a fyddai modd i ni fanteisio ar eich colofnau i dynnu sylw eich darllenwyr at gystadleuaeth ar gyfer awduron ifainc (15-19 oed)? Noddir y gystadleuaeth ar y cyd gan Gyngor y Celfyddydau, Cyngor Sir Powys a Gŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll. Testun: 2,000 o eiriau neu lai o ryddiaith greadigol (stori, ymyson, dyddiadur, a.y.b.) ar unrhyw destun. Gwobrau: l'r buddugwyr (yn Gymraeg a Saesneg): £ 100 yr un ac ysgoloriaeth i fynychu cwrs ysgrifennu yn Nhŷ Newydd. I ysgolion y ddau enillydd; gwerth £ 100 0 weithdai o dan y cynllun Awduron ar Daith. I'r ail fuddugol (yn Gymraeg a Saesneg): £ 50 yr un ac ysgoloriaeth i fynychu cwrs ysgrifennu yn Nhy Newydd. I'r cywaith gorau o 5-10 darn o ryddiaith gan ysgolion (yn Gymraeg a Saesneg): hwnnw yw sefydlu dosbarth Ysgol Sul i famau ieuanc. 'Rydym yn dod yn fwy ymwybodol ein bod yn rhan o deulu trwy ddod at ein gilydd i gael paned o de ar ôl oedfa'r bore. CYLCH GWEDDI Byddaf yn cynhyrchu Taflen Newyddion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ac yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, "Be'n union mae Marian yn ei wneud?"! Ar ddiwedd y daflen mae pwyntiau i bobl weddïo amdanynt mae gweddi yn ganolog i unrhyw waith efengylu, ac o ganlyniad sefydlwyd cylch gweddi i weddïo dros waith efengylu yn yr ardal. Teitl y daflen newyddion yw "Blas ar fyw" a dyna'r union yr wyf am i bobl ei gael blas ar fywyd llawn trwy adnabod yr Arglwydd lesu Grist. Beth rhagorach na hyn y gallwn ei gynnig i bobl? Un cyfrwng sydd wedi cael ei gynnig i mi ar gyfer hyrwyddo fy ngwaith yw y defnydd o orsaf radio lleol-Sain y Gororau. Darlledir nifer o raglenni Cymraeg o'r stiwdio yng Nghwersyllt ger Wrecsam ac edrychaf ymlaen at gael ehangu'r defnydd gwerth £ 500 o weithdai o dan y cynllun Awduron ar Daith. Beirniaid y gystadleuaeth fydd: yn Gymraeg: Menna Elfyn, William Owen Roberts yn Saesneg: Ruth Bidgood, Gillian Clarke Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Mawrth 1af, 1992. Am fwy o wybodaeth, cysyllter â chyngor y Celfyddydau. ELIN ap HYWEL Swyddog Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau, Stryd yr Amgueddfa, Caerdydd CF1 3NX. 011 yn eu gynnau 'sgarlad Gweld lluniau o esgobion Cymru yn eu gwisgoedd 'sgarlad ("vestments") ar eu ffordd i ddewis (neu fethu â dewis Arch- esgob) yn Llandrindod a'm sbardunodd i feddwl fel hyn. Meddyliais am yr erthygl "Wyneb lesu" yn y rhifyn diwethaf o Cristion allan o "Credu a Chofio: Ysgrifau Edwin Pryce Jones" yn adrodd stori Turgenev mewn breuddwyd yn gweld "rhyw ddyn" yn dod ato yn yr eglwys ac yntau'n teimlo mai'r Crist ydoedd. "Ac yna'n sydyn suddodd fy nghalon a deuthum ataf fy hun. Dim ond yma y sylweddolais mai union wyneb, fel yna wyneb fel wyneb pob dyn yw wyneb o'r cyfrwng pwysig hwn yn y dyfodol agos. Fel Gweithiwr Cenhadol ceisiaf rannu gwybodaeth am adnoddau fydd o gymorth i'r eglwysi yn eu cenhadaeth, gan bwysleisio nad oes gennyf atebion parod slic i'w cwestiynau yn aml iawn! Rydym yn cyd-ddysgu yma trwy gydweithredu ac mae hynny yn fuddiol iawn. Mae'n bwysig fy mod yn calonogi'r Cristnogion lleol fel y medrant ddal ati er gwaethaf yr anawsterau ddaw i'w rhan. Mae'r sawl sy'n fy adnabod i'n dda yn gwybod mai pur anaml y byddaf yn edrych ar yr ochr dywyll i bethau dyma un peth fydd yn sicr o gymorth i mi yn y gwaith. Ond nid rhyw obaith gwag ydyw ond gobaith sy'n deillio o ffydd yn Nuw-gobaith sydd ar gael i bawb ohonom. "A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth i chwi arfer eich ffydd, nes ein bod, trwy nerth yr Ysbryd Glan, yn gorlifo â gobaith." Rhufeiniaid 15 adnod 13. Boed i'r gobaith hwn orlifo yn ein bywydau wrth i ni efengylu yng Nghymru heddiw. Crist". Lawn mor bwysig oedd y cymal a'i dillad fel rhai rhai pawb arall" meddai Turgenev. Ofnaf na allwn edrych ar y llun o'r esgobion yn eu gwisgoedd lliwgar heb gymysgedd o hwyl diniwed a thristwch. 'Roeddent yn agored i fod yn gyff gwawd gan rai rwy'n siwr. Bûm yn meddwl wedyn pe bawn i'n cerdded i'm cyhoedd- iad yn un o'n capeli Anghydffurfiol mewn gwisg felly ac yn arbennig gyda chapan ar fy mhen, chwerthin a wnâi'r gynulleidfa rwy'n siwr. Ond os deuai un o'r esgobion i mewn wedi ei wisgo felly, byddai'r ymateb yn hollol wahanol, heb wên ar wyneb neb. Pam y gwahaniaeth tybed? Gallaf ddeall y gwisgoedd offeiriadol yn Eglwys Loegr ac yn yr Eglwys Babyddol, ond mewn gwlad mor werinol-ac Anghydffurfiol â Chymru, gallant fod yn dramgwydd, nid yn unig i'r Ffydd ond i hybu unrhyw wir eciwmeniaeth neu gydweithio eglwysig yn ein gwlad. Os yw geiriau fel hyn yn mynd i dramgwyddo'r esgobion, offeiriaid yr eglwys a'u haelodau, mae'n ddrwg gen' i ond mae'r dyddiau, fel y dywed yr Ysgrythur, "yn ddrwg" ac nid help i'r Efengyl i Iwyddo yw gweld arweinwyr yr eglwysi yn gwisgo'n wahanol i bobl eraill. "Wyneb fel wyneb pob dyn yw wyneb Crist" meddai Turgenev a llawn mor bwysig yw cofio "a'i ddillad fel rhai pawb arall". HUW ETHALL Caerdydd.