Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crynodeb gan y Parchg. Noel Davies o anerchiad y Dr. Emilio Castro, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi'r Byd, i Bwyllgor Canolog y Cyngor a gyfarfu yng Ngenefa ym mis Medi y llynedd. YNG NGRYM YR YSBRYD GLÂN Er bod llawer o feirniadu wedi bod ar y Gymanfa yn Canberra, fe'i gwnaed yn amlwg hefyd nad oes ffordd yn ôl yn y mudiad ecwmenaidd. Byddwn yn herio'n gilydd, byddwn yn chwilio am ffyrdd gwell a mwy effeithiol o wasanaethu'r eglwys fydeang, ond gwnawn hynny oddi fewn i rialiti credu gyda'n gilydd a pherthyn i'n gilydd, sy'n rhoddion oddi wrth Dduw. Cydnabyddwn ein bod mewn traddodiad newydd. pennod ecwmenaidd lIe mae cymundeb yr Ysbryd yn rialiti sy'n ein dwyn at ein gilydd ac yn ein cadw gyda'n gilydd. Wrth i ni baratoi ar gyfer Canberra buom yn gweddïo gyda'n gilydd, "Tyrd, Ysbryd Glân." Mae'n briodol, felly, i ni ofyn heddiw: A ydym wedi dysgu rhywbeth? A ydyw'r Gymanfa wedi'n cymell i ymrwymiad newydd o ganlyniad i'n galwad Gristnogol a'n cydfyfyrio ar yr Ysbryd Glân? Mae yna arwyddion y cawsom ein harwain i gydnabod ein bod o dan ysbrydoliaeth yr Ysbryd. DYHEAD DWFN AM UNDEB Yn gyntaf, yr ymchwil am undeb yr Eglwys mewn cydgymundeb a chydgymdeithas (koinonia). "Y mae'r Ysbryd Glân yn ein galw i gydberthynas o gariad ac ymrwymiad. Y mae'n galw'r eglwysi i ymrwymiad newydd i'r ymchwil am undeb gweledig ac i genhadaeth fwy effeithiol". O ddarllen adroddiadau'r Gymanfa argraffwyd arnaf fod yna ymdeimlad newydd o ddiffyg amynedd mewn perthynas ag undeb yr eglwys. Y mae dwy ffynhonnell i'r dyhead yma. Yn gyntaf, y mae ymwybyddiaeth gynyddol o werth undeb yr eglwys fel sacrament, symbol ac offeryn sy'n gwasanaethu pwrpas Duw 'o ddwyn yr holl greadigaeth i undod, gyda Christ yn ben". Yn ôl datganiad wnaed ar undeb yr eglwys, "Yr eglwys yw'r rhagflas o'r cymundeb â Duw ac â'n gilydd". Y mae rhagflas, fel aperitif, yn creu awydd am fwy. Am ein bod yn disgwyl am addewidion yr Una Sancta, yr un eglwys sanctaidd, yr ydym i fod gyda'n gilydd o gylch un bwrdd yr Arglwydd. Yn ail, y mae'r diffyg amynedd yn tarddu o'r ymwybyddiaeth fod hygrededd tystiolaeth yr eglwys yn y fantol. A hynny mewn byd lle mae angen galwedigaeth yr eglwys i weinidogaeth y cymod yn fwy nag erioed. O dan arweiniad yr Ysbryd rydym wedi sylweddoli mai cymundeb â Duw ac â'n gilydd (koinonia) yw'r undeb a geisiwn. Y dyhead yma am bresenoldeb cyflawn Duw yn ein bywyd yw tarddle'r gri am gael rhannu'r cymun gyda'n gilydd. Dyhead ydyw am ddirgelwch cymundeb cariad. Ond nid undeb anweledig ydyw yn unig. "Cydnabyddwn", medd un o adroddiadau Canberra, "gyda diolchgarwch i Dduw fod yr eglwysi oddi fewn i'r mudiad ecwmenaidd yn rhodio gyda'i gilydd mewn cyd-ddealltwriaeth, cytundebau diwinyddol, cyd-ddioddef, cyd-weddïo, cyd-dystiolaethu a chyd-wasanaethu wrth iddynt dyfu'n nes at ei gilydd". Undeb ydyw, felly, sy'n effeithio ar bob arwedd o'n bywyd fel eglwysi Iesu Grist. Undeb gweledig ydyw, ond undeb sy'n fynegiant o ddyfnder ein cymundeb ysbrydol yn nirgelwch Duw'r Drindod. Yn ymarferol y mae hyn yn golygu bod sefyll ochr yn ochr â'n gilydd, ymweliadau â'n gilydd, rhannu addoliad ac adnoddau litwrgaidd a cherddorol a bod yn agored i'n gilydd, yn angenrheidiol i'n pererindod ecwmenaidd. Nid oes llawer o ddiben cael cytundeb ar ddogfen fel Bedydd, Ewcharist a Gweinidogaeth onid yw'n treiddio i mewn i feddyliau pobl Dduw. Dyma paham y mae addysg Gristnogol ecwmenaidd yn sylfaenol. YR YSBRYD A'R GREADIGAETH Yn ail, yr Ysbryd ar waith yn y byd. "Gweddiwn y bydd i Ysbryd Duw arwain Cristnogion i weledigaeth newydd o deyrnasiad Duw .fely gallwn dystio i deyrnasiad cariad a gwirionedd, cyfiawnder a rhyddid, cymod a heddwch" (Neges Canberra 1991). Roedd thema'r Gymanfa yn wahoddiad i feddwl am bresenoldeb yr Ysbryd Glân yn yr holl greadigaeth, oddi allan yn ogystal ag oddi fewn i'r eglwys. Bydd yr Ysbryd yma yn ein galluogi i feddwl "both/and" tra'n bod ni yn arbenigo ar "either/or" mewn cynifer o sefyllaoedd: "yr Ysbryd yn adnewyddu cariad yr eglwys a chydlyniad y ddynoliaeth; yr Ysbryd yn adnewyddu cyfiawnder yr eglwys ac egni moesol y ddynoliaeth; yn Ysbryd yn adnewyddu gobaith yr Eglwys a dyheadau'r ddynoliaeth' (Krister Stendahl yn ei lyfr, Energy for Life).