Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'r Ysbryd ar waith yn trawsnewid y greadigaeth gyfan yn y deyrnas sydd i ddod. Felly, y mae ynom optimistiaeth sy'n tarddu yng ngwaith y Duw byw. Ond y mae croes Crist yn ein hatgoffa o rialiti drygioni yn y byd. Ni allwn fod yn naif; bob amser y mae posibilrwydd fod saith ysbryd arall yn barod i feddiannu'r ty gwag (Luc 11.26). Ond y mae gwaith yr Ysbryd yn ein cymell i chwilio am y saith mil 0 ffyddloniaid nad ydynt eto wedi ildio i Baal (I Brenhinoedd 19:18). Rhoddodd y ddau brif siaradwr yn Canberra sylw arbennig i'r rhyddid hwn sy'n eiddo'r Ysbryd: "Sanc- teiddir popeth gan yr Ysbryd Glân, o ddechreuadau'r greadigaeth, pan roedd yn hofran uwchben y dyfroedd, ac yn awr yn natur, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn y ddynoliaeth, ym mhob bod ac ym mhob enaid byw Nid oes gennym hawl i gyfyngu ei symudiadau na'i anadlu, na'i rwymo mewn cadwyni a weiren bigog" (Y Patriarch Parthenios). "Y mae Ysbryd y Duw tosturiol hwn wedi bod gyda ni oddi ar amser y creu. Duw roddodd enedigaeth i ni a'r bydysawd cyfan drwy'r anadl fywiol, gwynt y bywyd Cawn brofiad o Ysbryd Bywiol Duw yn ymdrechion ein pobl dros ryddid, yn eu cri am fywyd, ym mhrydferthwch a rhodd natur" (Yr Athro Chung o Corea). Y cwestiwn a godir gan hyn yw: sut mae adnabod yr Ysbryd ymhlith yr ysbrydion i gyd? Yr ateb i ni yw Iesu Grist, oherwydd nid ydym ni yn adnabod unrhyw ysbryd ond yr un a ddatguddiwyd gan Dduw yng Nghrist. Felly, gwelwn yr ymdrech dros gyfiawnder yn y byd fel ymdrech ysbrydol, lle mae'r Ysbryd yn ein cyfeirio at Iesu Grist, yn yr hwn y gwelwn, oddi fewn i hanes, y datguddiad llawn o gariad gwaredigol, egni creadigol a phresenoldeb cysurlon. ADNEWYDDU A THRAWSNEWID Yn olaf, Yr Ysbryd yn Sancteiddio. "Wrth i niymrwymo'n hunain i edifeirwch parhaol, felly, galwn ar bawb i rannu yn yr ymrwymiad hwnnw ac i weddïo am rym adnewyddol yr Ysbryd Glân i adnewyddu ynom ni,fel unigolion a chymunedau, ddelw Duw" (Neges Canberra 1991). Yr Ysbryd sy'n cael ei ddatguddio yn yr ymdrech dros gyfiawnder, heddwch a chyfanrwydd y greadigaeth yw'r un Ysbryd sy'n galw'r eglwys i undod ac adnewyddiad mewnol. Drwy thema'r Gymanfa cawsom ein gorfodi i dystio i'r Ysbryd sy'n trawsnewid personau, yr eglwys a'r byd. Y mae'r trawsnewid personol hwn yn digwydd oddi fewn i gymuned yr eglwys. Y mae'r broses hon o dröedigaeth, edifeirwch, iachâd, sancteiddhad, tyfiant yn yr Ysbryd, adeiladu koinonia (cymdeithas, cymundeb, partneriaeth) rhannu mewn addoliad a dathlu, a chydnabod yn llawen waith yr Ysbryd yn cynnal a thrawsnewid y cread, yn broses barhaol o weddnewidiad. Wrth i ni osod blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol bydd yn rhaid i ni i geisio dirnad, gorau fedrwn ni, lle mae'r Ysbryd yn chwythu yn ein plith ac i sicrhau fod gwaith y Cyngor yn ymateb yn llawn i'r procio hwn. Os ydym i ysgrifennu pennod newydd yn ein hanes ecwmenaidd bydd yn rhaid i ni weithredu'n gadarn mewn perthynas â materion hollol ymarferol sy'n ein poeni. Ond rhaid gwneud hynny'n union am ein bod yn cael ein galw i ymateb i gynhyrfiadau ffres Ysbryd Duw yn ein plith. Yn fwy na dim, rhaid i ni lunio patrymau newydd ar gyfer bywyd y Cyngor fydd yn sicrhau i ni ryddid a gofod i gofleidio prociadau newydd yr Ysbryd a brofasom gyda'n gilydd ar ein pererindod ddiweddar. Felly, yng ngeiriau neges Canberra, "Wrth i ni barhau ar ein siwrnai tuag at undod yr eglwys a'r ddynoliaeth, o dan jrenhiniaeth Duw, gweddiwn, gyda phobl ar draws y byd: Tyrd, Ysbryd Glân, Tyrd, ddysgawdwr y gostyngedig, farnwr y balch. Tyrd, obaith y tlawd, adfywiad y blinderus, achubydd y drylliedig. Tyrd, brydferthwch gogoneddus popeth byw, unig iachawdwriaeth pawb meidrol. Tyrd, Ysbryd Glân, trugarha wrthym, gwisga'n gostyngeiddrwydd â'th rym. Digona'n gwendid â llawnder dy ras. Tyrd, Ysbryd Glân, adnewydda'r greadigaeth gyfan". (Neges Canberra 1991) Y Parchg. Noel Davies yw Ysgrifennydd Cyffredinol Cytun: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru. GWEDDI ABADES OEDRANNUS Arglwydd, gwyddost ti yn well na mi fy mod yn mynd yn hýn, ac y byddaf ryw ddydd yn hen. Gwared fi rhag yr arfer ffôl o gredu y dylwn ddatgan fy marn ar bob pwnc ac ar bob achlysur. Rhyddha fi oddi wrth y dyheu am gywiro amgylchiadau pobl eraill. Diogela fy meddwl rhag mynd i ailadrodd manylion dibwys yn ddiddiwedd; bendithia fi â'r ddawn i ddod i bwynt. Cyfoethoga fi â'r gras a'r amynedd i wrando ar gwynion pobl eraill; ond selia fy ngwefusau rhag traethu am fy mhoenau a'm blinderau i fy hun: maent ar gynnydd, a'm hoffter o rygnu arnynt yn amlhau. Dysg imi'r odidog wers y dichon fy mod ar brydiau'n camsynied. Cadw fi'n rhesymol felys. Ni chwenychaf gael fy nghyfri'n sant-mae'n galed i gyd-fyw â rhoi ohonynt: coron ar waith y gwr drwg yw surni henaint. Gwna fi'n ystyriol heb fod yn dymherus; yn gymwynasgar heb fod yn awdurdodol. Gyda'm cyfran helaeth o ddoethineb trueni fyddai peidio'i lawn ddefnyddio; Ond ti a wyddost, Arglwydd, y bydd angen ychydig gyfeillion arnaf ar derfyn y daith. AMEN. (Cyfieithiad y Parchg. Owen Williams, Tal-y-Bont)