Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y mae unrhyw un y cyffyrddodd y dyn â diferlif ag ef, heb iddo olchi (NIPTO) ei ddwylo mewn dwr, i olchi (PLUNO) ei ddillad, ymolchi (LOUO) â dwr a bod yn aflan hyd yr hwyr" (Lefiticus 15:11). Yr hyn sy'n ddiddorol am yr adnod hon yw bod y fersiwn Roeg ohoni yn y Sept- wagint (y cyfieithiad Groeg o'r Hen Desta- ment Hebraeg) yn cynnwys y tair brif ferf Groeg o'r wyth a arferir yn y Testament Newydd am olchi. NIPTO yw'r gair a arferir am olchi rhan o'r corff y dwylo neu'r traed neu'r wyneb; PLUNO yw'r gair am olchi pethau dillad neu rhwydi (Luc 5:2); a LOUO yw'r gair a arferir am olchi'r corff yn llwyr, sef bathio. O gofio hyn, nid yw'n syn- dod fod y gair Groeg BAPTIZO (trochi, y Saesneg "dip") yn aml yn cael ei ddefn- yddio gyda'r gair LOUO ac yn un arall o'r wyth gair Groeg am olchi (Luc 11:38). Suddo'r corff mewn dwr yw'r hyn a olyga bathio i ni heddiw a dyna ran o beth a olyga yn yr Hen Destament lle defnyddid yr afonydd a'r môr i'r pwrpas. Darganfu'r Groegiaid a'r Rhufeinwyr faddonau cynnes yn gynnar yn eu hanes hwy ac erbyn y cyfnod Rhufeinig roedd baddonau cyhoeddus i'w gweld ym Mhalesteina. Mae'n hysbys fod rhai Iddewon parchus yn hoffi defnyddio'r baddonau hyn a cheir hen chwedl sy'n hawlio fod neb llai na Gamaliel wedi defnyddio baddon Aphrodite yn Acre ar un achlysur. Hefyd, roedd ystafell faddon ar gael ar gyfer yr offeiriaid yn nheml Herod ac mae Marc 7:1-4 yn lled awgrymu fod mwy a mwy o bwysau yn cael ei roi ar bobl gyffredin i olchi (NIPTO) eu dwylo cyn bwyta ac ymolchi (BAPTIZO) ar ôl dychwelyd o'r farchnad, er nad oedd baddonau yn bethau cyffredin i'r werin. Pan orchmynwyd i Namaan "ymolchi (ffurf ar y gair LOUO yn y Septwagint) saith waith yn yr lorddonen" (II Bren, 5:10) "aeth i lawr, ac ymdrochi (BAPTZO) saith waith" yn yr afon (II Bren. 5:14). I'r afon yr aeth merch Pharo hithau (Ecsodus 2:5), i "ym- drochi" yn ôl y Beibl Cymraeg Newydd er mai LOUO yw'r ferf yn y Septwagint. Ond G IR LOUO-Bathio nid pawb allai ddod o hyd i afon neu faddon i fathio, ac felly roedd bathio iddynt hwy yn golygu chwilio am Ie preifat i olchi'r corff i gyd, a'r ffordd arferol o wneud hyn oedd drwy dywallt dwr dros y corff "neu trwy gymhwyso dwfr at yr holl gorff" (William Edwards) gan ddefnyddio LOUTRON (Effes. 5:26) ar gyfer dal y dwr. Dyna sut y bu i Dafydd, tra'n cerdded ar hyd do'r palas, weld Bathseba yn ymolchi (LOUO) islaw (II Samuel 11:2). Ac mewn lle preifat o'r neilltu y bu Ruth yn "ymolchi (LOUO) ac ymbincio" (B.C.N., Ruth 3:3) ar gyfer Boas. Yn y Testament Newydd daw'r berfau LOUO a NIPTO at ei gilydd yn loan 13:10: Dywedodd lesu [wrth Pedr], "Y mae dyn sydd wedi ymolchi drosto (ffurf o'r ferf LOUO) yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi (NIPTO) dim ond ei draed." Darlun sydd yma o berson yn y Dwyrain wedi cael bath cyn cychwyn o'i gartref. Wrth gerdded mewn sandalau agored ar hyd ffyrdd llychlyd ni fyddai'n hir cyn bod ei draed yn faw i gyd a phan gyrhaeddai pen ei daith byddai angen eu golchi eto ond dim ond y traed! Gorchwyl y gwas lleiaf oedd gwneud hyn pan gyrhaeddai deithiwr tŷ crand ond roedd yn orchwyl yr ymgymerodd yr Arglwydd ag ef yn yr Oruwch Ystafell ar adeg pan oedd ei ddisgyblion yn gyndyn i ymostwng i waith mor israddol. Cymerodd yr lesu'r badell a'r tywel a dechrau golchi (NIPTO, 13:5-6) traed y disgyblion. Yn ôl ei arfer, aeth Pedr dros ben llestri a gwrthod caniatâd i'r lesu olchi (NIPTO, 13:8) ei draed o gwbwl ar y dechrau, ond hawlio'n ddiweddarach ei fod yn golchi ei ddwylo a'i ben hefyd! Ymateb yr lesu oedd ei fod eisoes wedi cael bath (LOUO) ac felly fod golchi (NIPTO) ei draed yn ddigon iddo! Gan fod LOUO yn cael ei arfer am olchi'r corff i gyd (cymh. Actau 9:37), dichon fod y defnydd o'r gair yn Actau 16:32 yn arwy- ddocáol ac yn tanlinellu mor dost fu'r gur- fa a gafodd Paul a Silas gan yr awdurdodau yn Philipi (Actau 16:23). Yr oedd y briwiau a gawsant yn gyfryw ag oedd yn galw am faddo'r corff i gyd ac nid dabio ychydig o ddwr yma ac acw. O gofio am y berthynas naturiol a welir rhwng LOUO a BAPTIZO pan sonnir am fathio, nid yw'n syndod fod William Edwards yn dadlau mai at fedydd y cyfeirir pan sonnir am olchi (LOUO a LOUTRON) yn Effesiaid 5:26, Titus 3:5 a Hebreaid 10:22. Boed hynny fel y bo, y mae'r ysgolheigion (ceidwadol a rhyddfrydol) yn cytuno mai camddarlleniad sy'n dweud fod lesu Grist trwy ei waed yn ein golchi oddi wrth ein pechodau; ein rhyddhau a wna (Datguddiad 1:5). "Nid oes gwahaniaeth ond o un llythyren yn y gwreiddiol rhwng 'ryddhau' (LUO) a 'golchi' (LOUO)" (William Edwards) ond mae pob testun Groeg cyn y nawfed ganrif yn clodfori'r hwn sydd yn ein caru ni ac a'n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â'i waed. Â dwr, nid â gwaed, y cysylltir y ddefod o lanhau yn y grefydd Iddewig ac felly nid at y ddefod honno y cyfeirir yn yr adnod hon ond at y ddefod o aberthu. D. HUGH MATTHEWS LLYFR 0 WASANAETHAU Cyhoeddwyd llyfr o wasanaethau ar gyfer plant/ieuenctid gennym llynedd, sef 'Cyhoeddi'r Gair', ac mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol. Nifer cyfyngedig o gopïau sydd ar ôl, ac mewn ymateb i hynny, yn hytrach na'i ailgyhoeddi, penderfynwyd cyhoeddi ail gyfrol, sef 'Cyhoeddi'r Gair 2'. Mae yna lawer o ddeunydd eisoes wedi dod i law. Os oes gennych unrhyw ddeunydd perthnasol, boed yn wasanaethau cyflawn, sgetsus, gweddïau, cerddi, a.y.y.b., tybed a fyddech yn barod i ystyried eu cyfrannu at y llyfr. Does dim angen i chi ofidio am eu diwyg-mae gennym bobl a fydd yn eu gosod ar y cyfrifiadur ac yn cywiro unrhyw wallau. Gan ddisgwyl ymlaen i glywed gennych. D. ALED DAVIES Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol, Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, Ysgol Addysg C.P.G.C., Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2UW.