Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GORNEL WEDDI BYWYD "Ysbryd Duw a'm lluniodd, ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw" (Job 33:4) "Yr wyf wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn eu holl gyflawnder" (Ioan 10:10). "Y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw" (Col. 3:3). Arglwydd, creawdwr ein bywyd, offrymwn i ti ein mawl a'n haddoliad, am i ti ein llunio'n gywrain ar dy ddelw, am i ti anadlu ynom dy fywyd, ac am i ti'n coroni â gogoniant ac anrhydedd. Ond cyffeswn i ni ddifwyno dy ddelw ynom, dewis angau yn hytrach na bywyd, a thrwy ein pechod a'n gwrthryfel golli'r gogoniant a roddaist i ni. Arglwydd, gwaredwr ein bywyd, trugarha wrthym a maddau i ni; estyn dy law i'n tywys yn ôl atat ac at lawnder y bywyd newydd a ddarperaist i ni yn dy Fab Iesu Grist. Rhown ddiolch i Dduw am freintiau a bendithion ein bywyd beunyddiol. Ti, Arglwydd, a greaist bob peth ac yr wyt yn rhoi i ni yn ôl ein hanghenion. Rhown ddiolch i ti am ein bywyd ac am y nerth a ddaw i ni bob dydd oddi ar dy law: am gyrff a meddyliau iach, am ddwylo i weithio a gwaith i'w gyflawni, am lygaid i weld a chlustiau i glywed, am gysuron cartref a theulu, am gyfeillgarwch ac am gwmni, am ryddid ac am lawenydd. Ti yw rhoddwr holl fendithion y bywyd hwn, ond gyda'th roddion yr wyt yn rhoi dy hun dy anian, dy gwmni, a'th ddiddanwch. Diolchwn i ti a molwn dy enw. Rhown ddiolch i Dduw am gyfoeth a bendithion bywyd yng Nghrist Ti, Arglwydd, a ddaethost atom yn dy Fab er mwyn i ni gael bywyd a'i gael yn ei holl gyflawnder. Rhown ddiolch i ti am gyfoeth y bywyd yn Iesu Grist: am iddo ef ddod yn gyfaill ac yn waredwr i ni, am brydferthwch ac esiampl ei fywyd, am her ei ddysgeidiaeth, am iddo'n caru i'r eithaf er i ni ei wrthod, ei wadu a'i groeshoelio; am iddo farw i ni gael byw, a darostwng ei hun i ni gael ein dyrchafu; am ei fuddugoliaeth ar angau, am ei deyrnasiad ynom a throsom, ac am ei fywyd atgyfodedig yn llenwi a sancteiddio'n bywyd ni. Diolchwn i ti a molwn dy enw. Rhown ddiolch i Dduw am obaith ac addewid y bywyd tragwyddol Yr wyt ti, Arglwydd, yn ein cadw'n ddiogel mewn bywyd ac mewn angau. Rhown ddiolch i ti am addewid Iesu Grist o fywyd tragwyddol i bawb sy'n ymddiried ynddo: am y sicrwydd nad angau yw diwedd bywyd, am i ti baratoi lle i ni yn dy drigfannau a bywyd uwch yn nefoedd dy ogoniant; am y gwyddom y daw amser pryd yr atebir pob cwestiwn, y sylweddolir pob gobaith, ac y cyfarfyddwn eto â'r rhai a gollwyd dros dro; am dy gariad anfeidrol yng Nghrist Iesu na all nac angau nac einioes ein gwahanu oddi wrtho: Diolchwn i ti a molwn dy enw. Gweddïwn am ras i fyw i Grist ac i dyfu yn ein bywyd Cristnogol Yr wyt ti, Arglwydd, yn ein hawlió i ti dy hun ac yn ein galw i ddilyn Iesu Grist dy Fab. Cynorthwya ni â'th ras i fyw yn deilwng o'n galwad: yn ein gwaith gwna ni'n eirwir a gonest; yn ein hymwneud â'n gilydd gwna ni'n garedig; yn ein siarad gwna ni'n dyner ac yn ddoeth; yn ein meddyliau gwna ni'n bur; yn ein gweithredoedd gwna ni'n anhunanol. Cymer feddiant o bob rhan o'n bywyd a thrwy dy Ysbryd llanw ni â grym a gorfoledd bywyd Iesu Grist ein Harglwydd. Yn ei enw ef y gofynnwn hyn. AMEN.