Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Candle in the Darkness, Patrick Thomas, Gwasg Gomer, £ 6.75. tt.151. Pan deledwyd gwasanaeth gorseddu'r Archesgob George Carey yng Nghadeirlan Caergaint, cyfeiriodd y sylwedydd teledu at Awstin Sant o Gaergraint fel yr un a ddaeth â Christionogaeth gyntaf i Brydain yn 597 O.C. Dyna'r math o sylw sy'n codi gwyrchun pob Cymro, Gwyddel ac Albanwr, meddai'r Dr. Patrick Thomas ym mhennod gyntaf y gyfrol ddeniadol hon. Yr oedd Gristionogaeth ar ei ffurf Geltaidd yn bod ymhell cyn dyfodiad Awstin a'i fynachod. Amcan Patrick Thomas, Rheithor Brechfa, Abergorlech a Llanfihangel Rhos- y-corn yn Candle in the Darkness yw codi'r llen ar y Gristionogaeth gynnar hon. Yn 1990 cyhoeddodd ei Iyfryn The Opened Door yn ymdrin â'r un testun a chymaint fu'r derbyniad a gafodd y gyfrol fach honno fel iddo ymroi i gyhoeddi astudiaeth lawnach o rai o brif themáu ysbrydoledd Geltaidd Cymru. Cefndir yr ysbrydoledd hon oedd gwewyr y gymdeithas Frythoneg-Rufeinig o dan ymosodiad y Barbariaid, pryd y gwthiwyd y Brythoniaid a'u crefydd tua'r Gorllewin a'r Gogledd. Y prif elfennau a wêl Patrick Thomas yn y traddodiad hwn yw ymwybyddiaeth o'r 'cwmwl tystion', sef gwyr a gwragedd duwiol Oes y Saint y parhaodd eu dylan- wad a'r cof amdanynt dros y canrifoedd; perthynas glos â natur, consarn am heddwch, parch at y 'mamau sanctaidd' a gynrychiola'r elfen fenywaidd mewn crefydd, a'r pwyslais ar fywyd cymunedol fel mynegaint o gariad Duw o fewn bywyd bob dydd. Mewn dyddiau pan welir cyhoeddi llawer iawn o syniadau llac, disylwedd, ffwrdd-â- hi ynglyn ag ysbrydoledd Geltaidd, y mae'r llyfr hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'n dealltwriaeth o'r pwnc astrus ac annelwig hwn, yn dadansoddi'r ffeithiau hanesyddol yn ofalus, yn osgoi rhamantu di-sail ac yn gytbwys a deallus ei gasgliadau. Wedi ei darlunio'n gywrain gan Janetta Turgel a'i chyhoeddi'n gymen gan Wasg Gomer, dyma gyfrol sy'n fargen am £ 6.75. Cristion Euros Bowen: Priest-poet/Bardd- offeiriad. Gol. Cynthia a Saunders Davies. Gwasg yr Eglwys yng Nghymru. tt. 154. Yn ddiweddar datganodd y llenor a'r ysgolhaig Saesneg, A.N. Wilson, nad oedd yn y Gymraeg unrhyw waith llenyddol werth sôn amdano. Dyna'r math o anwybodaeth a thwpdra yr ydym wedi hen gynefino â hwy oddi wrth y literati Saesneg. Gan na wnaeth A.N. Wilson unrhyw ymgais i ddysgu'r Gymraeg, gobeithio'n fawr y bydd rhywun yn rhoi iddo'n anrheg y gyfrol ddwyieithog hon ar waith y bardd-offeiriad Euros Bowen. Ynddi cyhoeddir detholiad o gerddi Euros Bowen yn Gymraeg a Saesneg. Cyfieithiadau uniongyrchol o'r cerddi Cymraeg yw'r cerddi Saesneg. Y bardd ei hun a gyfieithodd ugain ohonynt a ymddangosodd gyntaf yn ei gyfrol Poems yn 1974, ond ceir deg ar hugain o gyfieithiadau newydd spon gan Cynthia Davies a'r rheini'n gyfieithiadau coeth a chrefftus. Y mae rhai ohonynt yn wirion- eddol wefreiddiol, megis y trosiadau o Brain, Y Clai Sydd Ohoni, Llwch a Gollyngdod, ac yn wir yn ychwanegu at ein gwerthfwrogiad o'r gwreiddiol. Dywed yr Esgob Rowan Williams yn ei Ragair fod y cyfieithiadau hyn yn plymio dyfnder meddylgar y cerddi gwreiddiol ac yn gymorth amhrisiadwy i bobl ddi- Gymraeg werthfawrogi cyfoeth y dychymyg crefyddol Cymraeg heddiw. Yn y gyfrol ceir braslun o yrfa Euros Bowen gan Saunders Davies a phennod hynod werthfawr ar arwyddocâd ei waith gan y Canon A.M. Allchin. The Holy Wells of Wales, Francis Jones, Gwasg Prifysgol Cymru. tt.226. Agwedd arall at ysbrydoledd Geltaidd a hen grefydd y Cymry yw testun y gyfrol hon ar ffynhonnau cysegredig Cymru. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol yn 1954 ond erys yn arweiniad safonol i'r pwnc a da o beth yw ei weld mewn print unwaith eto. Olrheinir arwyddocâd crefyddol ffyn- honnau Cymru a'r cysylltiad rhwng cwlt y ffynnon â llecynnau cysegredig cyn- Gristnogol a'r modd y cofleidiwyd y traddodiad gan Gristnogaeth a'i sanct- eiddio. Tynnodd yr awdur o lu o ffynonellau llyfrau, llawysgrifau a thra- ddodiadau llafar. Trafodir y modd y cysylltwyd ffynhonnau cyn-Gristnogol ag eglwysi cynnar ac â chwedlau am y Saint. Cysegrwyd y mwyafrif ohonynt i seintiau Celtaidd a chysylltwyd hwy â gwyrthiau o bob math. Er i'r Diwygiad Protestannaidd filwrio yn erbyn yr ofergoeliaeth a'r chwedloniaeth a oedd yn gysylltiedig â chwlt y ffynhonnau, ni Iwyddwyd i danseilio'n llwyr ymlyniad y Cymry wrth y llecynnau hudolus hyn. Er nad oes lle yn ein Cristnogaeth gyfoes i ofergoeliaeth a ffug-wyrthiau yr hen ffynhonnau, y maent yn rhan o'n hanes ac yn cynrychioli pennod ddiddorol yn natblygiad crefyddol y Cymry. Os mai arwyddocâd hynafiaethol a thwristaidd yn unig sydd i'r ffynhonnau bellach, y mae'n hynod werthfawr cael cyfrol debyg i hon sy'n eu lleoli ac yn chroniclo'u hanes yn gryno a hwylus. Y mae ail ran y llyfr yn cynnwys rhestr lawn o holl ffynhonnau Cymru fesul Sir ac yn gatalog hwylus yn nodi enw, lleoliad ac arwyddocâd pob ffynnon unigol.