Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfrau Newydd 2 Golygyddol 3 Bendithion Bugeilio 4 Hvwel T. Jones Lledaenu'r Gair 5 leuan T. Jones Y Mae Afon 6 Evan Davies Mochyn Bach 7 Michael Taylor O'r Pedwar Gwynt 8 Arlunydd y Garw a'r Grasol 9 D. Densil Morgan Yr Esgob a'i Lyfr 11 Croesair Cristion 12 John Penri: Ffanatig Yntau Merthyr? 13 R. Tudur Jones Huw Wynne Griffith 16 Erastus Jones Adnoddau Addysg Grefyddol 17 J. Wynne-Jones 18 Glyndwr Williams Gair o'r Gair 20 D. Hugh Matthews Gwynfyd y Pur eu Calon 21 Tudor Davies Cerddi 22 Y Gornel Weddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: Brynmor Jones, 25 Danycoed, Aberystwyth SY23 2HD. Ffôn: 0970-623964. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: John Gwilym Jones Ysgrifennydd y Pwyllgor: D. Hugh Matthews. Cylchrediad a Hysbyseblon: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth SY23 2AU. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen. Abertawe. Ffôn: 0792-652092 Y TAD, Y FAM A DUW Cododd ton o banic ar draws cymdeithas yn ystod yr wythnosau diwethaf yn sgil yr achosion erchyll o drais a thorcyfraith ymhlith plant a phobl ifanc a bu pob Twm, Dic a Harri gohebwyr papur newydd, gwleidyddion, cymdeithasegwyr, addysg- wyr a chrefyddwyr-wrthi'n brysur yn dadansoddi'r argyfwng ac yn chwilio am wraidd y drwg. Gyda digon o dargedau i anelu atynt gosodwyd y bai ar y sefyllfa economaidd, ar ddiweithdra, ar bolisïau'r llywodraeth, ar y heddlu, ar ddiffyg disgyblaeth yn y cartref, ar chwalfa'r teulu, ar ddiffyg arweiniad moesol gan ysgolion ac eglwysi, ar ddylanwad trais ar y teledu, ar fideos aflednais. CYFUNIAD 0 FFACTORAU A'r naill yn beio'r llall hawdd iawn oedd cuddio rhag y gwir poenus fod bai ar bob un ohonom, neu yn hytrach, mai cyfuniad o ffactorau economaidd, addysgol, moesol, ysbrydol a theuluol-sy'n gyfrifol am ansawdd ein cymdeithas gyfoes. Y mae digon o dystiolaeth fod torpriodas a chwalfa'r teulu yn effeithio'n enbyd o andwyol ar feddwl ac ymddygiad plentyn. Y mae sawl astudiaeth gymdeithasegol wedi dangos pwysigrwydd y cyfuniad o ddylanwad y tad a'r fam ar fagwraeth plentyn; y naill yn cynrychioli disgyblaeth, cryfder, awdurdod a diogelwch, a'r llall yn cynrychioli tynerwch, anwyldeb, gofal ac agosatrwydd. Ond nid o fewn y teulu yn unig y mae angen gwarchod y cydbwysedd hwn. Mewn polisi llywodraeth ac o fewn bywyd cymdeithas rhaid cael trefn a thynerwch, grym a gofal, cyfiawnder a chydymdeimlad-yr elfennau tadol a mamol fel ei gilydd. O fewn cymdeithas gystadleuol ple mae'r farchnad ac elw yn rheoli popeth, y mae'r elfennau o dynerwch, gofal a chonsarn am bobl yn mynd i golli. Pe sawl gwaith y clywsom y feirniadaeth fod y llywodraeth bresennol yn gwbl ddi-hid o anghenion pobl, yn enwedig y gwan a'r tlawd, ac yn euog o greu cymdeithas ddidostur, hunanol, pawb- drosto'i-hun? Mewn geiriau eraill, rhodd- wyd y pwyslais i gyd ar rym, cyfraith ac awdurdod, sef yr elfennau a gysylltir â delwedd y tad a chollwyd golwg ar ofal, cynhaliaeth a chydymdeimlad, sef yr elfennau mamol, benywaidd. Y GWRYWAIDD A'R BENYWAIDD Y mae nifer o ddiwinyddion ac ysgolheigion beiblaidd wedi canfod y ddwy haen-y gwrywaidd a'r benywaidd yng nghrefydd y Beibl ac yn y traddodiad Cristnogol. Ar y naill Iaw, ceir pwyslais ar drosgynolrwydd Duw y Duw sydd uwchlaw ac ar wahân i'w fyd, na all dyn mo'i weld na'i amgyffred, ond sy'n datguddio'i hun trwy ai air. Yn ôl y pwyslais hwn awdurdod pell, anweledig yw Duw, yn datguddio'i hun yn hanes ei bobl, yn llefaru ei air trwy ei broffwydi, yn mynegi ei ewyllys trwy ei orchmynion, yn barnu, yn disgyblu, yn cosbi. O ddilyn yr haen hon canfyddir Duw fel Brenin ac fel Tad. Awdurdod, ufudd-dod, ofn ac euogrwydd yw'r elfennau yn ymwybydd- iaeth dyn ohono. Hon yw'r haen a fynegir yn nysgeidiaeth Paul ac mewn rhai ffurfiau ar Brotestaniaeth gyda'r pwyslais ar ufudd- dod i'r gair, ar gyfiawnder, ar bechod ac euogrwydd, ar edifeirwch, ymostyngiad a ffydd. Ar y llaw arall, ceir yn y Beibl ac o fewn ffydd yr oesau y pwyslais cyferbyniol ar fewnfodaeth Duw-ei bresenoldeb yng nghanol ei fyd, ei agosrwydd at ei bobl, ei dynerwch, ei drugaredd a'i gariad. Sonnir amdano'n bresennol yn y deml, yn gwahodd pobl i syllu ar ei ogoniant, i gymuno ag ef ac i dderbyn ei ras. Yn lesu Grist daw'r gogoniant dwyfol i'r amlwg: 'y gair a drigodd yn ein plith a ni a welsom ei ogoniant ef.' O ddilyn yr haen hon canfyddir yr elfennau mamol, benywaidd yn natur Duw graslonrwydd, gofal, tynerwch, cysur, addfwynder. Hon yw'r haen a fynegir yn rhai o'r Salmau, yn niwinyddiaeth loan ac mewn ffurfiau cyfriniol ar grefydd, gyda'r pwyslais ar ysbrydoledd, dirgelwch, sacramentau a sumbolau fel cyfryngau cymundeb â Duw. Yn fras, gellid ystyried y traddodiad Catholig fel mynegiant o'r haen hon. CADW CYDBWYSEDD Y pwynt na ellir ei anwybyddu yw fod y ddwy haen i'w gweld yn glir o fewn y Beibl yn ogystal ag o fewn diwinyddiaeth. Tuedd diwinyddion erioed fu eu polareiddio a'u gosod mewn gwrthdrawiad â'i gilydd. Y canlyniad fu dogmatiaeth ddall ac anni- oddefgarwch o'r ddeutu. Ond os yw'r Beibl yn ystyried y ddau bwyslais yn gyflenwol ac yn cadw balans rhyngddynt, onid dyna hefyd yw tasg diwinyddiaeth? Fel y mae angen partneriaeth rhwng tad a mam mewn teulu sefydlog, onid oes rhaid wrth gydbwysedd rhwng yr elfennau tadol a mamol yn ein bywyd ysbrydol? E. ap. N.R.