Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Os oes yna ddarllenwyr sy'n amau gwerth bugeilio, carem dystio i'r budd a gefais i drwy'r gwaith a'r gyfeillach rasol.' BENDITHION BUGEILIO Claf mewn ysbyty yn Llundain oeddwn pan dderbyniais rifyn Ionawr/Chwefror o Cristion. Y Parchedig Derwyn Morris Jones, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedd wrthi yn bugeilio'i braidd ac yn ddigon caredig a goleuedig i rhoi copi o Cristion i weinidog a oedd ymhell o'i gynefin. Mae'n arferiad i 'rhoi rhywbeth' wrth ymweld â chlaf mewn ysbyty. Beth i'w rhoi yw'r broblem yn aml. Dyna'r bugail Derwyn wedi cynnig syniad newydd efallai i fugeiliaid! Hyfryd oedd derbyn llenyddiaeth Cymraeg; hyfrydwch mwy oedd ei ddarllen. Daliwyd fy llygad yn syth gan y pennawd ar dudalen tri, Bugail neu Offeiriad? Cefais gyfnod o naw wythnos mewn tair ysbyty, a phump ohonynt yn Ysbyty St. George's, Llundain. Ni theimlais yr angen am offeiriad dros y cyfnod. Beth arall fyddech yn disgwyl i Ymneilltuwr ddweud? Nid oes i ni offeiriad Ond Iesu Grist ei Hun. Ond gwerthfawrogais y bugeilio a fu'n gymorth amserol ac yn seiadu cynhaliol. HYWEL T. JONES DERBYN A GWERTHFAWROGI A oes gwerth mewn bugeilio? Bûm yn dderbynnydd yn yr ysbytai y tro hwn, fel mewn cyfnodau eraill, ac yn dderbynnydd eto wedi mi ddychwelyd adref. Os oes yna ddarllenwyr sy'n amau gwerth bugeilio, carem dystio i'r budd a gefais i drwy'r gwaith a'r gyfeillach rasol. Profais o'i werth pan oeddwn yn agos i gartref yn Ysbyty Glangwili. Gwerth- fawrogais ef yn fwy wedi i mi bellhau o gartref a mynd Gaerdydd. Dyfnhaodd y gwerthfawrogiad eto wedi'r pellhau pellach Lundain. Mynych ym mrig yr hwyr, a mi yn unig Diolch i'r bugeiliaid a aeth i'r drafferth ac a wnaeth yr amser. Mae bendith yn y presenoldeb ac yn rhannu geiriau a dymuniadau a gweddïau, ac yn y cydio dwylo. Ceir bendith yn y gair llafar ac ysgrifenedig, a'r gair mor aml yn sianel i'r Gair i dorri trwodd. Pwy all fesur gwerth bugeilio? Mae yn gluddyd nerth cysurol cymhellol, a gweithiol. Mae yn effeithiwr yr ewyllys, yn dwyn ynni treiddgar i'r tueddfryd, yn ysbrydoli, yn ysgogwr gallu treiddgar. Mae yn rhan bwysig o wasanaeth iacháu. Mae yn agoriad gariad symud, i werth- fawrogiad, i ymgartrefu, ac i berson i blygu a phenlinio. Mae yn agorfa adnabydd- iaeth, gyfeillach a chymundeb. Mae'n addas i bontio agendor a llanw gwacter. Mae yn gyfrwng i lesu i amlygu ei bresenoldeb a'i ddiddordeb a'i ofal; i'r Ysbryd argyhoeddi ac i gysuro; i'r Tad i agor ei freichiau croesawgar; i'r Eglwys wasanaethu'r Bugail Da. Dylai fod yn sylfaenol yng ngwasanaeth Eglwys lesu Grist, canys mae yn estyniad o'r ymgnawdoliad, yn gyhoeddiad o'r Immanuel Y mae Duw gyda ni. RHOI A RHANNU Synnwyd fi braidd dros fy arhosiad fel claf yn Ysbyty St. George's, Llundain, at barodrwydd sister neu staff-nyrs hyn ddyfod ataf ofyn, 'A fyddet yn fodlon cael gair â .? Byddai gair yn help.' Ie, cais fugeilio am fod yno weledigaeth o'r angen a phrofiad o'r gwerth iachusol. Derbyniad croesawgar a gwerthfawrogol oedd ymateb y cleifion hefyd. Syndod mawr i mi oedd cael cais gan Foslemiad ifanc i geisio calonogi ei dad Pacistani Moslemaidd! Calonogi oedd y cais, nid cenhadu. Ydyw hi'n bosib Gristion i wasanaethu neu galonogi, heb genhadu? Pa bryd, wrth wasanaethu, nad yw'r credadun yn cenhadu? Cefais rannu gyda'r dad yr hyn oedd gennym yn gyffredin a chefais y llawenydd o'i weld yn codi o'i wely gan ddiosg ei falen ac ymdrechu i wella a mynd adref at ei deulu yn ddyn calonog. Cyn belled ac y gwn i dyma'r unig dro i mi gael fy nghynnwys yn bersonol mewn gweddi Foslemiad. Cefais hefyd weld ei lawenydd wrth iddo sylwi arnaf yn gwella wedi'r awr gyfyng. Ymha Ie mae hyn yn ffitio i'r patrwm? Efallai fod yna ddarllenwr yn barod â'i ateb!! Bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi. Y Parchg. Hywel T. Jones yw Gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbedr Pont Steffan a'r cylch.