Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrif ar waith Cymdeithas y Gedeoniaid Rhyngwladol LLEDAENU'R GAIR IEUAN T. JONES Ni ellir gwadu'r ffaith mai trwy bregethiad y Gair y gwelodd Duw yn dda i ddwyn llaweroedd i'w Deyrnas a lledaenu'r Efengyl yng Nghymru yn y gorffennol, a dyna yn wir sy'n parhau i ddigwydd heddiw ledled y byd. 'Ewch i'r holl fyd a pregethwch yr efengyl i bob creadur' (Marc 16:15) oedd gorchymyn Crist i'w ddisgyblion. Ond rhoddodd yr Arglwydd hefyd gomisiwn i'w ddilynwyr i fod yn dystion iddo- Eithr chwi a dderbyniwch nerth, wedi i'r Ysbryd Glân ddyfod arnoch, ac a fyddwch dystion i mi yn Jerusalem a hyd eithaf y ddaear' (Actau 1:8). Nid pawb sydd wedi eu galw a'u donio i bregethu gan Dduw, ond mae disgwyl ar bob Cristion a gafodd brofiad o'r Crist byw atgyfodedig i fod yn dyst ffyddlon iddo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. A dyma lle mae ein galwedigaeth ni fel Gedeoniaid yn dod i mewn. HANES Y GYMDEITHAS Ffurfiwyd y mudiad yn 1899 pan gyfarfu tri o deithwyr masnachol yn Wisconsin, U.D.A. Yr amcan ar y pryd oedd creu cwmnïaeth Gristnogol rhwng pobl a oedd yn teithio ac yn gorfod aros mewn gwestai oherwydd eu gwaith, a chredent y byddai'r cymdeithasu hwn o amgylch y Gair yn eu gwneud yn well tystion i'w Meistr. Yn araf y cynyddodd yr aelodaeth a'r gwaith am rai blynyddoedd. Yna, dechreuwyd rhoi Beiblau mewn gwestai a bu hynny'n drobwynt yn yr hanes. Lledodd y gwaith Ganada yn 1908, ond rhaid oedd aros tan ar ôl yr ail ryfel byd cyn cychwyn y gwaith yn Ynysoedd Prydain yn 1949. Ffurfiwyd y gangen gyntaf yng Nghymru, yng Nghaerdydd, yn 1951, ac erbyn heddiw mae yma 17 o ganghennau a rhyw 263 trwy Brydain. Yn ystod ail hanner y ganrif hon mae'r gwaith wedi lledu yn rhyfeddol i 156 o wledydd y byd, a gellir gweld llaw Duw yn amlwg yn arddel ei Air a'r dystiolaeth. Wrth i'r ugeinfed ganrif garlamu ymlaen mae mwy o deithio a symud gan boblogaethau'r gwledydd, er bod llai o fynychu lleoedd o addoliad yn yr hen wledydd Cristnogol. Dyma lle mae'r Beiblau agored mewn gwestai, wrth ochr gwelyau mewn ysbytai, mewn celloedd carchardai, mewn pocedi disgyblion ysgolion uwchradd a'r lluoedd arfog ac yn y blaen, yn cyrraedd pobl nad ydynt o fewn clyw pregethu o bulpudau ein heglwysi. Pwysleisir, er hynny, mai rhan o'r eglwys, neu 'fraich estynedig genhadol' yr eglwys, yw'r Gymdeithas, gan fod yn rhaid i bob Gedeon fod yn aelod ffyddlon a gweithgar o eglwys leol. Rhaid iddo hefyd fod â phrofiad o Grist a chredu fod y Beibl yn Air Ysbrydoledig Duw. Mae Gwragedd y Gedeoniaid yn cyflawni gwaith pwysig iawn, sef gweddïo'n gyson dros y gwaith ac yn arbennig pan yw'r gwyr yn dosbarthu'r Ysgrythurau. Cyflwynant hefyd Destamentau i'r staff nyrsio mewn ysbytai a gosod Beiblau mewn ystafell- oedd aros meddygon a deintyddion. Erbyn heddiw dosbarthir drwy'r byd rhyw ddwy filiwn o'r Ysgrythurau bob mis mewn nifer fawr o ieithoedd, a rhennir y derbyniadau ariannol, fel am bob copi a ddosbarthir yn y wlad hon rhoddir un am ddim i wledydd tlotaf y byd. YR YMATEB Wrth Ddwyrain Ewrop a'r hen Undeb Sofietaidd agor eu drysau mae'r gwaith wedi lledu fel tân yn y gwledydd hyn, a dyma un hanes a ddaeth i law o Rwsia. Roedd uchel swyddog yn y fyddin Sofietaidd wedi cael orchymyn o Moscow ladd cant o bobl yn Affganistan yn ystod y rhyfel yno. Yna cafodd ei feio am yr anfadwaith a'i garcharu. Collodd ei swydd, ei deulu a phopeth. Roedd wedi treulio saith mlynedd mewn carchar a chyfnod maith eto'n ôl. Yn ei gwsg, beunos, gwelai'r trueiniaid y bu'n gyfrifol am eu marwolaeth a theimlai euogrwydd mawr a dwfn. Pan ymwelodd Gedeoniaid â'r carchar yn Novosibrisk, clywodd yr uchel swyddog yr Efengyl ac edifarhaodd ger bron Duw. Gyda dagrau yn llifo agorodd ei galon i'r Arglwydd lesu Grist. Yn sydyn, teimlodd ei euogrwydd yn cael ei dynnu i ffwrdd a llawenydd a thangnefedd yr Arglwydd yn cymryd ei Ie; yng ngeiriau'r emynydd: Euogrwydd fel mynyddoedd byd Dry'n ganu wrth dy groes.