Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Masnach ryngwladol sy'n cael sylw yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol 1993, Mai 17-22. Mae'n bwnc cymhleth, ond i Michael Taylor, cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, mae hen hwiangerdd yn ei esbonio'n dda. 'Mochyn bach yn mynd i'r farchnad Cofiais am yr hen hwiangerdd ym marchnad tref fach yng ngogledd Viet-Nam. Mae'n wlad brydferth, yn enwedig pan fo'r caeau padi yn llawn o reis ifanc gwyrdd. Fe allai hi fod yn wlad gefnog, ond ar hyn o bryd mae ei phobl yn dlawd, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. HYFFORDDIANT Cynhyrchu bwyd sy'n cael y flaenoriaeth, fel y gwelais pan euthum i ymweld â chanolfan addysg amaethyddol. Deuai ffermwyr, yn ddynion a merched, o bob rhan o'r dalaith am wythnos o hyfforddiant yn y technegau ffermio newydd a gofal am anifeiliaid, gan gynnwys moch. Dychwelent adre' wedyn am ychydig fisoedd i roi cynnig ar yr hyn a ddysgasent; yna nôl eto rannu profiadau a dweud beth weithiodd a beth na weithiodd. Cwynodd un wraig mai peth gwirion oedd dweud wrthynt am ddefnyddio gwrtaith arbennig. Nid oedd modd ei gludo ar y ffyrdd gwael, a sut bynnag roedd y gwrtaith yn rhy bell i ffwrdd ac yn rhy ddrud wedi i chi gyrraedd yno. Roedd dyn arall wrth ei fodd am iddo gael ei brofi'n anghywir. Roedd e' wedi mynnu bod angen coginio bwyd ei foch. Dywedwyd wrtho y buasai'n llawer gwell iddo beidio. Rhoes gynnig arni ac roedd ei foch yn pesgi'n ardderchog. Daeth ag un porchell i'r farchnad i'w werthu, yn gwichian mewn basged wiail. DAMEG Yn ddiweddarach, ar yr un diwrnod, cyfarfûm â gwraig a oedd yn gobeithio y câi fynd â'i mochyn, neu ei moch bach, i'r farchnad fel hyn cyn bo hir hefyd. 'Doedd ganddi fawr ddim ond ychydig o lysiau i fwydo ei theulu. Roedd ei gwr yn sâl. Trwy gael benthyciad (a ariannwyd gan Gymorth Cristnogol) yr oedd hi wedi medru prynu hwch feichiog. Y cynllun oedd gwerthu MOCHYN BACH MICHAEL TAYLOR Cymorth Cristnogol Mynd â phorcell i'r farchnad hanner y moch bach a defnyddio'r arian i brynu bwyd i'w phlant ac i weddill y moch. Pa bai hi'n gwneud yr un peth eto cael torraid arall a'u cludo i'r farchnad gallai ddechrau talu'r ddyled yn ôl. Y cyfle hwn i fasnachu oedd ei ffon fara hi, yr unig gyfle oedd ganddi ennill bywoliaeth. Dim ond un peth oedd ganddi i'w werthu. Mae hanes y wraig hon yn ddameg o'r sefyllfa sy'n wynebu miliynau o dlodion y Trydydd Byd. Pe baent yn cael cyfle i fynd i'r farchnad a gwerthu eu cynnyrch am bris teg er mwyn gwneud bywoliaeth resymol, ni fyddai angen ein helusen arnynt. Rwy'n meddwl am farchnadoedd y byd yn ogystal â rhai lleol. A wyddech chi, er enghraifft, bod Ethiopia wedi derbyn$3 biliwn o gymorth oddi wrth wledydd fel ein gwlad ni yn ystod 1985, tra bod Affrica yn ystod yr un cyfnod wedi colli$19 biliwn o enillion masnach am fod pris coffi a chopr wedi disgyn? DYMPIO BWYD Gwyddoch, rwy'n siwr, bod y bwyd a gynhyrchir trwy roi cymorthdal i ffermwyr Ewrop yn cael ei ddympio ar farchnadoedd y byd a'i werthu'n rhad. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd, os nad amhosibl, i ffermwyr y Trydydd Byd i werthu'r un cnwd sydd ganddynt a gwneud bywoliaeth. Gallai 'masnach nid cymorth' helpu datrys rhai problemau. Dyna pam y mae Cymorth Cristnogol yn defnyddio'r rhan fwyaf o'r arian a gesglir i gwrdd ag anghenion pobl fel y ffermwyr a gyfarfum yn Viet-Nam. Cedwir canran fach ohono er hynny addysgu ac i ymgyrchu yn ein gwlad ni sicrhau masnach decach gyda'r Trydydd Byd. Bwriad yr hwiangerdd oedd peri i mi chwerthin pan yn blentyn ond trist oedd mi: 'Mochyn bach yn mynd i'r farchnad, mochyn bach yn mynd i'r dre, mochyn bach yn teithio adre, mochyn bach heb ddim i de. Mae byd lle mae'r mawrion yn mynd i'r farchnad ac yn gwneud yr elw i gyd yn debygol o barhau yn fyd annheg ac felly'n fyd di-Dduw Ile mae digon gan rai ohonom a 'dim i de' gan filiynau.