Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwaith cynnar yr arlunydd Cristnogol Ffrengig, Georges Rouault (1871-1958) (\r\jmM YCARWÄRCRASOL D. DENSIL MORGAN Prin iawn yw'r arlunwyr modern sy'n dangos unrhyw ddealltwriaeth o'r ffydd Gristionogol, heb sôn am unrhyw gydymdeimlad neilltuol tuag ati. Felly, pleser annisgwyl oedd clywed am yr ar- ddangosfa o luniau cynnar y Ffrancwr Rouault sydd i'w gweld yn yr Academi Brenhinol, Picad- illy, ar hyn o bryd. O holl arlunwyr nodedig yr ugeinfed ganrif ef oedd y mwyaf ymrwymedig ei Gristionogaeth, ac er iddo berffeithio'i themâu ysbrydol yn ddiweddarach yn ei yrfa, 'roedd ei weledigaeth arbennig wedi'i hen grisialu erbyn 1920, sef blwyddyn clo'r arddangosfa hon. Ganed George Rouault ym Mharis ym 1871 i rieni Llydewig. Cafodd blentyndod cythryblus ond etifeddodd ddawn ac awydd i arlunio oddi wrth dad-cu iddo, tad ei fam. Rhoes y gorau i yrfa fel cyw-fferyllydd er mwyn ymrestru'n ugain oed yn yr Ecole des Beaux-Artes yn y brifddinas gan ddangos yn fuan iawn athrylith arbennig. Ei feistr yno oedd Gustave Moreau, artist a fynnodd gan ei ddisgyblion ddilyn eu trywydd eu hunain yn hytrach nag adlewyrchu ei ddulliau ef. CYNNWYS CRISTNOGOL Nod amgen gwaith Rouault o'r dechrau oedd ei gynnwys Cristionogol conffyrmiwyd ef i'r Eglwys Gatholig yn 1891 a chryn fenter ar ei ran oedd dewis pynciau beiblaidd yn destunau, oherwydd y gymhariaeth anorfod â thraddodiad gwych darluniau'r canol oesoedd yn un peth, ac yn fwy byth oherwydd y ffasiwn gwrth-Gristionogol ymhlith ei gyfoeswyr. Ond ni fennai hyn ddim ar Rouault a fyddai'n mynnu, trwy gydol ei oes er boddhad i Moreau, bid siwr aros yn driw i'w weledigaeth ei hun. 'Roedd marwolaeth ei feistr yn 1898 yn gryn ergyd iddo, a byddai'i ymdeimlad o arwahanrwydd, o orfod dilyn trywydd unig, ynghyd â'r sensitifrwydd cynhenid a'i nodweddai, yn ei arwain at greu dullwedd artistig newydd maes o law. Mae'r gwahaniaeth rhwng ei luniau beiblaidd cynharaf o tua 1894-6, sydd, er yn draddodiadol eu naws, yn dangos aeddfedrwydd hynod mewn artist mor ifanc, a'i waith diweddarach o tua 1903 ymlaen, yn drawiadol. Torrasai ei iechyd ym 1902, ond gyda'i adferiad ymhen y flwyddyn rhyddhawyd egnïon newydd, dewisodd destunau newydd yn fwy garw a chwrs y tro hwn, ond yn cydym- ffurfio o hyd â'r weledigaeth ysbrydol a fyddai'n nodwedd o'i holl lafur. Y GWYLLTIAID Clowniaid, acrobatiaid, puteiniad a barnwyr mewn llysoedd, dyna fyddai prifwrthrychau'i sylw o hyn allan. Unodd gyda chyfoeswyr athrylithgar megis Matisse ac mewn arddangosfa enwog ym 1906 bedyddiwyd hwy'n 'Wylltiaid' (Les Fauves) ar gyfrif gerwinder eu lluniau. Enbyd oedd ei glowniaid, y foddfa o liw coch megis gwaed ar eu wynebau a'u dillad; felly hefyd ei acrobatiaid, yn berfformwyr truenus yn syrcas bywyd. Yn wahanol i gyfoeswyr megis Degas a Toulouse Lautrec, ni allai Rouault weld unrhyw ramant ym mywydau'r