Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Deng mlynedd ar hugain yn ôl i eleni cyhoeddwyd un o gyfrolau crefyddol mwyaf dadleuol y ganrif- Honest to God, J.A.T. Robinson YR ESGOB A'I LYFR Cyfrol fach clawr-papur o 139 o duddalennau, a fwriadwyd i fod yn un o gyfres o lyfrau 'poblogaidd' o Wasg SCM, oedd Honest to God. Fe'i cyhoeddwyd ar Fawrth 19, 1963 ac argraffwyd 6,000 o gopïau. Ar y diwrnod cyntaf gwerthwyd bob un copi, a chyn diwedd y mis ymddangosodd dau argraffiad arall. O fewn llai na blwyddyn gwerthiwyd dros filiwn o gopïau ac o fewn ychydig flynyddoedd cyhoeddwyd argraffiadau mewn 17 o wahanol ieithoedd. Ni freuddwydiodd yr awdur, John Robinson, Esgob Woolwich ar y pryd, y byddai'r gyfrol fach hon yn ffrwydro fe1 bom ar y ffurfafen eglwysig a diwinyddol, ac yn sicr nid oedd Gwasg SCM wedi dychmygu y byddai'n best seller crefyddol. O safbwynt diwinyddiaeth academaidd doedd dim byd newydd na syfrdanol yn Honest to God. Dadl Robinson oedd bod angen delweddau newydd i sôn am Dduw yn yr oes hon ac awgrymodd y gallai gweithiau Tillich, Bonhoeffer a Bultmann fod o gymorth yn y dasg o lunio iaith a delweddau mwy ystyrlon i'r dyn modern. SYLW'R CYFRYNGAU Pam y cafodd y llyfr y fath dderbyniad? Yr oedd sawl rheswm. Yn y Ile cyntaf, yr oedd yr awdur yn esgob yn Eglwys Loegr ac yn ŵr oedd eisoes wedi dod i amlygrwydd fel arweinydd blaengar. Blwyddyn ynghynt ymddangosodd gerbron llys barn i am- ddiffyn cyhoeddi Lady Chatterley's Lover, D.H. Lawrence. O ganlyniad, rhoddodd y Wasg sylw mawr i Honest to God cyn iddo ymddangos. Cafwyd penawdau megis, Our Image of God Must Go; Bishop Without God; Primate Rebukes Bishop of Woolwich; Call For Resignation of Bishop; Church Divided Over Bishop's Book. Cafwyd adwaith negyddol gan rai crefyddwyr, gan gynnwys yr Archesgob Michael Ramsey a adweithiodd yn fyrbwyll o feirniadol, ond a syrthiodd ar ei fai yn ddiweddarach. Cythruddwyd rhai crefydd- wyr ceidwadol a chyhuddwyd Robinson o 'heresi' a galwyd am ei ymddiswyddiad. Ond tarodd dant ym meddyliau miloedd ar filoedd o bobl ar draws y wlad a chafodd sacheidiau o Iythyrau gwerthfawrogol oddi wrth bobl a gafodd y gyfrol o gymorth enfawr iddynt yn eu pererindod ysbrydol. FFRAM NEWYDD Yr hyn y ceisiodd Robinson ei wneud oedd rhyddhau ein syniad o Dduw o lyffetheiriau hen ddelweddau a syniadaeth oes o'r blaen, neu, i ddefnyddio'i eiriau ef ei hun, 'i ganfod 'ffrâm’ mwy addas ar gyfer ein darlun o Dduw.' 'Roedd y ffrâm draddod- iadol yn perthyn i gyfnod pryd y credai pobl mewn bydysawd tri llawr y nefoedd uwchben, y ddaear yn y canol, ac uffern oddi tanodd. 'Roedd Duw yn trigo yn y nefoedd, dyn ar y ddaear, a'r diafol a phwerau'r fall ar y llawr isaf neu'r seler. Er nad oes neb bellach yn derbyn yr hen gosmoleg hon, mynegir ffydd grefyddol yn union fel pe bai'r hen ffrâm yn dal i fodoli. John Robinson 'Gan fy mod yn teimlo fy hun wedi fy ngwreiddio'n gwbl Sicr, yn feiblaidd ac yn athrawiaethol, yn han- fodion y ffydd, y mwyaf argyhoeddedig yr wyf o'r angen i fod yn radical mewn perthynas â'r pethau ymylol' J.A.T. Robinson.