Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sonnir am Dduw yn preswylio mewn nefoedd pell a'i fod wedi 'dod i lawr' i'n daear ni yn lesu Grist. Dadleuodd Robinson fod y ffrâm draddodiadol hon yn rhwystr i bobl ddeall a chanfod Duw. Nid yw Duw yn trigo mewn nefoedd pell. Y mae'n Dduwsy'n involved yn ei fyd ac y mae i'w ganfod yn y mannau a'r profiadau hynny sydd o bwys tyngedfennol i ddyn areas of ultimate concern. Er bod y dyn modern yn ymddangos ar y wyneb fel pe bai â diddordeb mewn dim. ond arian, eiddo, pleserau, llwyddiant bydol a rhyw, mewn gwirionedd y mae'n gwybod yn iawn mai pethau aros dro yw'r rhain i gyd ac mai'r pethau o bwys terfynol yw ystyr a diben bywyd, ein perthynas â'n gilydd a'n cyfrifoldeb tuag at ein cyd- ddynion a thuag at y byd. A dyma'r union fannau y mae Duw i'w ganfod ynddynt. Ac y mae i'w ganfod yn y mannau hyn oherwydd dyna'r union fannau lle y canfyddir lesu o Nasareth. lesu sy'n ein cyfeirio at bresenoldeb Duw ynghanol cymhlethdod bywyd. 'Roedd deffro i bresenoldeb a gweithgarwch Duw yn eu bywyd a'u profiad eu hunain yn ddargan- Noder: Bydd bloc ar gyfer pob symbol. Felly bydd y llythrennau dd, ng, II etc. yn cymryd dau floc. Dynodir nifer y blociau ar gyfer pob gair. (Gwobr o docyn llyfr gwerth £ 10 am yr ateb cyflawn cyntaf i'w dynnu o blith y rhai a fydd wedi cyrraedd y Golygydd erbyn 1 Mehefin 1993). fyddiad ysbrydol cyffrous i lawer iawn o bobl. GWR 0 FFYDD Y mae llawer o bwyntiau yn Honest to God y gellir ddadlau'r hir ynglŷn â hwy ac ni ellir cytuno â phopeth a ddywed John Robinson o bell ffordd. O flaen popeth yr oedd yn ysgolhaig Beiblaidd a choleddai agwedd hynod geidwadol tuag at ddog- fennau'r Testament Newydd gan ddyddio llawer ohonynt yn gynharach nag a wnai'r mwyafrif o esbonwyr. Yr oedd hefyd yn wr o ffydd ddofn, o ysbrydoledd real ac o bersonoliaeth ddiymhongar a gostyngedig. Meddai mewn pregeth yn Hydref 1980, 'Can fy mod yn teimlo fy hun wedi fy ngwreiddio'n gwbl sicr, yn feiblaidd ac yn athrawiaethol, yn hanfodion canolog y ffydd, y mwyaf argyhoeddedig yr wyf o'r angen i fod yn radical mewn perthynas â'r pethau ymylol.' Dyna yn union oedd arwyddocâd Honest to God. Sicrwydd yr awdur o realiti Duw a barodd iddo fentro mynegi ei argyhoeddiad mewn iaith a delweddau newydd i gy- AR DRAWS 1 Mynd fry ar ryw ddydd lau (8) 7. Chwyn a adewir (5) 8. Gweddillion wedi fflamau (5) 9. Taliadau gwladol (6) 10. Yn ôl traddodiad, anrheg cynta gwraig (4) 12. Cyfarwyddyd William Jones i wraig beth i wneud â'r chips (4) 14. Lle da byth i wneud arian (6) 17. Y darn pump a fu yn ddeuddeg (5) 18. Pryder (5) 19. Pererindod ysgolheigion Sabothol y Gogledd (8) I LAWR 1. Dinas lle'r aeth Paul a Barnabas yn ôl Actau 14, 20 (5) 2. Symudiad dwy fil, yr oedd angen eu golchi, i'r môr (6) 3. Dawn arbennig Esau (4) 4. Siap a llun (5) 5. Sulgwyn (9) 6. Dyma ddangoswyd ar 18 Mai (7, 2) 11. Y lle y daw'r Arglwydd allan ohono, yn ôl Eseia 26, 21 (6) 13. Gorlifiad oddi uchod (5) 15. Cymryd at y dymunol (5) 16. Rhwystro (4) ATEBION CROESAIR MAWRTH/EBRILL Ar Draws: 1. Golgotha; 7. Rhain; 8. Emrys; 9. Grawys; 10. Toll; 12. Tyfu; 14. Gosteg; 17. Arogl; 18. Rhoda; 19. Barabbas. I Lawr: 1. Gwala; 2. Lindys; 3. Obed; 4. Herio; 5. Pregethau; 6. Esblygiad; 11. Modryb; 13. Fiola; 15. Troes; 16. Elwa. Enillydd Croesair Mawrth/Ebrill: J. Morris, 89 Hafod Cwnin, Caerfyrddin, Dyfed. hoeddi'r gwirionedd i bobl yr oes ansicr ac anwadal hon. Er bod deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers cyhoeddi Honest to God, y mae'r dasg hon o gyfathrebu'r ffydd yn parhau yn her i'r eglwys ynghanol y Ddegawd Efengylu hon. Deng mlynedd yn ôl i eleni bu John Robinson farw yn 64 oed wedi brwydr hir â'r cancr. Ychydig o funudau cyn y diwedd adroddodd gyda'i wraig y Colect canlynol: Arglwydd Dduw, noddwr pawb oll sy'n ymddiried ynot, nad oes dim yn nerthol hebot, na dim yn sanctaidd: ychwanega ac amlha dy drugaredd arnom, fel y gallwn, a thi yn llywodraethwr ac yn arweinydd inni, dreiddio trwy bopeth tymhorol fel na chollwn yn y diwedd y pethau tragwyddol. Caniatâ hyn, O Dad nefol, er mwyn lesu Grist ein Harglwydd. Oherwydd ei afael sicr ar Dduw fel llywodraethwr ac arweinydd y mentrodd John Robinson geisio treiddio trwy blisgyn y fateroliaeth a'r siniciaeth a nodweddai ein cyfnod ni. A Iwyddodd ai peidio sy'n fater o farn, ond yn sicr ni chollodd olwg ar y pethau tragwyddol.