Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Penri, nad oedd unrhyw gyfiawnhad drosti yn y Beibl. Ond pa drefn arall oedd yn bosibl? Presbyteriad oedd Penri yn ei gred am lywodraeth yr Eglwys. Dyma, yn ei dyb ef, fel ei gyd-Biwritaniaid ar y pryd, oedd y drefn ysgrythurol. Hyd yn hyn, nid ydym wedi taro ar ddim sy'n cyfiawnhau galw Penri'n ffanatig. Y mae'n darlunio cyflwr crefyddol Cymru'n ddigon teg ac yn cyfateb yn fras i'r hyn a wyddom o ffynonellau eraill. A phrin y byddai golygydd Cristion yn ystyried brwdfrydedd tros Bresbyteriaeth yn ffanaticiaeth! Ond beth am arddull Penri wrth gyflwyno ei neges? Dyma enghraifft o'i ysgrifennu, wedi ei drosi, Gwae fugeiliaid Cymru, meddaijehofah. Y maent yn eu bwydo eu hunain ond ni phorthant y praidd. Cymerwch hyn gennyf fi oni chefnwch ar eich diogi, bydd y bywiolaethau a'r cadeiriau heintus yr ydych yn eistedd ynddynt, hynny yw, eich esgobaethau, yn eich chwydu allan. A bydd yr Arglwydd, 'rwy'n gobeithio, yn eu gwneud mor atgas a gwaradwyddus fe1 y bydd dynion sy'n ofni Duw'n arswydo rhag mynd i esgobaethau Dewi, Asaph, Bangor a Llandaf. Ac yr wyf yn hyderu yn yr Arglwydd lesu y gwelir ei eglwys yn ffynnu yng Nghymru pan fydd yr atgof am arglwyddi-esgobion wedi ei gladdu yn uffern, y lle y daethant ohono. Dyna Penri ar ei fwyaf ffyrnig yn ei Exhortation. A gellir tynnu enghreifftiau tebyg o bob un o'i draethodau. Yn rhyfedd iawn, fe'i cawn yn yr un traethawd yn dweud mai ystyriaethau crefyddol dwys yn unig sy'n peri iddo ysgri- fennu mor chwyrn. Y mae'n condemnio'r rheini sy'n tybio mai grym duwioldeb yw ysgrifennu'n ddychanus am esgobion. Rhaid cydnabod fod Penri yn y fan hon yn mynegi rhywbeth a oedd yn ddigon cyffredin mewn llawer oes, sef pleidio fod amcanion aruchel yn cyfiawnhau gerwinder ymadrodd. Ond wedyn, yr oedd dyn fel yr Archesgob Whitgift, gelyn mawr Penri, yn cyfiawnhau carcharu a dienyddio ar yr un tir. Oes felly oedd hi ac nid oes dim allan o'i le i Gristionogion heddiw ddweud y dylai Penri a Whitgift wybod yn well. Neu, a rhoi'r peth mewn ffordd arall, os ydym am alw'r naill yn ffanatic, gallwn ddweud yr un peth am y llall. Y mae haneswyr sy'n tueddu i ysgrifennu'n fychanus am wladgarwch Penri. Ystyriant ei ganmol fel gwladgarwr yn sentimentaliti. Nid wyf yn cytuno. Ni allaf ddarllen ei draethodau ar Gymru heb ymdeimlo â didwylledd a chynhesrwydd ei gariad at Gymru a'i bryder dwfn dros dynged y genedl. Wrth gwrs, gan mai'r hyn a gâi'r flaenoriaeth ganddo oedd arglwyddiaeth Crist a thynged eneidiau, peth cwbl naturiol oedd iddo leisio ei wladgarwch mewn iaith grefyddol. Ond nid oedd dim yn ffuantus yn ei wladgarwch oherwydd hynny. DYFFEIO'R GYFRAITH Nid oes dim dau nad oedd yn fentrus hyd at fod yn ddiofal o'i ddiogelwch personol. Daw hyn yn amlwg yn antur- iaethau'r wasg gudd. Ar ôl cyhoeddi ei lyfr cyntaf, yr Aeauity, gan Joseph Barnes, aeth i gryn helbul gyda'r awdurdodau. Gwir fod y llyfr wedi ei drafod yn Nhy'r Cyffredin a'i fod wedi ei argraffu a'i gyhoeddi'n berffaith gyfreithlon yn ôl gofynion caeth yr oes honno. Ond er hynny cafodd ei wysio o flaen Llys yr Uchel Gomisiwn, y llys a oedd yn bennaf cyfrifol am ddisgyblaeth eglwysig. Cafodd 'Y mae dyffeio totalitariaeth suful ac eglwysig mewn unrhyw oes mewn unrhyw wlad yn beth i'w glodfori. Ac i ni yng Nghymru, beth bynnag yw ein hargyhoeddiadau crefyddol a diwinyddol, peth siabi yw edrych yn ddir- mygus ar unrhyw ùn y cyflwr ysbrydol ein cenedl yn faich ar ei gydwybod.' driniaeth arw ddigon pan holwyd ef gan y Comisiwn. Ond y canlyniad oedd na fynnai unrhyw argraffydd cyfreithlon gyffwrdd rhagor o'i waith. Nid oedd dim amdani ond dyffeio'r gyfraith a chyhoeddi'n ddirgel. Gwr cyfarwydd ag argraffu'n anghyffreithlon oedd Robert Waldegrave, a fu eisoes o dan lach yr awdurdodau oherwydd hynny. Ef oedd argraffydd llyfrau nesaf Penri. Mae'n amlwg fod Penri'n rhywbeth mwy na chwsmer i Waldegrave. Yn wir, y mae'n weddol amlwg mai ef oedd goruchwyliwr y wasg. Gwaith peryglus oedd hwnnw gan mor ddygn yr oedd yr awdurdodau'n ceisio darganfod a chosbi pobl a oedd yn rhedeg gweisg anghyfreithlon. Llwyddodd yr awdurdodau i ddarganfod gwasg Waldegrave a'i hatafaelu pan oedd ar ganol argraffu Exhortation Penri. Felly, yr oedd yn rhaid cael gwasg newydd a chartref diogel iddi. A John Penri a fu'n ymorol am y ddeubeth. Ef oedd yn trefnu i symud y wasg o le i Ie a phan benderfynodd Waldegrave ddewr ymddeol o'r gwaith ym mis Mawrth 1589, Penri a sicrhaodd wasanaeth argraffydd newydd, John Hodgkins. Os oedd llyfrau Penri'n dân ar groen yr Archesgob Whitgift a'r awdurdodau cyfreithiol, yr oedd llyfrau awdur newydd a ddechreuodd gyhoeddi'n awr hyd yn oed yn fwy tramgwyddus. Ffugenw'r awdur hwnnw oedd Martin Marprelate a chodi godre'r preladiaid oedd ei ddifyrrwch. Dibynnai ar biwsio a phryfocio a datgelu sgandalau am y mawrion eglwysig. Er enghraifft, cafodd Marmaduke Middleton, esgob Tyddewi, deimlo min ei watwareg. Mae'n honni fod ganddo ddwy wraig, Elizabeth Giggs ac Alice Prime, a bod y cyhuddiad hwn wedi ei brofi o flaen yr Uchel Gomisiwn. Yn sicr, cafwyd Middleton yn euog o ryw drosedd (nad oes sicrwydd beth yn union oedd) gan y Comisiwn a'i ddiraddio o'i swydd esgobol. Honnai Marprelate fod William Chaderton, esgob Caer, yn bencampwr ar chwarae cardiau am arian mawr a bod John Aylmer, esgob Llundain, yn rhegwr heb ei ail. Câi gryn hwyl yn dinoethi anwybodaeth rhai o'r esgobion ac yn lluosogi enghreifftiau o ysbryd gormesol yr Archesgob Whitgift ac eraill. Ond o dan y pryfocio didostur yr oedd amcan digon difrifol, sef amddiffyn y safbwynt Presbyteraidd a bwrw dirmyg ar geisiadau'r arweinwyr eglwysig i'w feirniadu. Cyhoeddwyd saith traethawd o eiddo Marprelate rhwng 15 Hydref 1588 a chanol Medi 1589. Gwyddai'r awdurdodau fod a wnelo Penri â'r wasg a chyhoeddwyd gwarant i'w gymryd i'r ddalfa. Yr oedd yntau'n fawr ei helbul yn trefnu i symud y wasg o East Molesey i Fawsley, yn sir Northamp-