Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwasg Argraffu o'r 16eg ganrif ton, ac oddi yno i Norton, gerllaw Daventry, yna i dŷ John Hales yn Coventry. Dyna pryd yr ymddeolodd Waldegrave. Dymunai'r argraffydd newydd, John Hodgkins, symud y wasg i Fanceinion. Ond fe'i daliwyd ef a'i ddau was a'u symud i Dwr Llundain i geisio gorfodi cyffesion ganddynt trwy eu harteithio. Ond yn y cyfamser llwyddodd Penri i argraffu'r olaf o draethodau Martin yn nhy Roger Wigston, Wolston Priory, gan osod teip y rhan olaf ohono ei hunan. Erbyn hyn yr oedd yr awdurdodau yn prysur ddarganfod cyfrinachau'r wasg ac amryw o'r rhai a fu'n gysylltiedig â hi o tan glo ganddynt. Er bod yr awdurdodau'n bur sicr yn eu meddyliau mai Penri oedd Marprelate, yr oedd Penri ei hun yn gwadu hynny. Nid yw hynny wedi rhwystro rhai i gytuno â'r farn honno. Ond anodd iawn yw llyncu'r ddamcaniaeth. Yn wir, y mae Penri'n dweud ei fod yn anghymeradwyo dulliau llenyddol Martin. Os felly, beth oedd yn ei gymell i gymryd rhan yn y fath antur beryglus? Ai er mwyn cael cyhoeddi ei draethodau ei hun? Ai er mwyn plesio rhyw noddwr Piwritanaidd anadnabyddus y gwir Martin? Nid yw'n hawdd ateb. Yn yr oes honno yr oedd 'cablu urddas' (chwedl John Elias) yn beth mentrus iawn, yn herio'r patrwm cymdeithasol pan oedd pwys mawr yn cael ei roi ar 'wybod eich lle'. O leiaf, y mae gwaith Penri gyda'r wasg gudd yn dystiolaeth i ysbryd mentrus y dyn. Y GWERSYLL YMWAHANOL Yn wyneb y bygythiad tra difrifol a oedd yn ei wynebu, ciliodd John Penri i'r Alban ac ymhen ychydig amser daeth Eleanor, ei wraig, ar ei ôl. Yno cafodd groeso gan yr arweinwyr Presbyteraidd a chan fod yr Alban yn deyrnas annibynnol, yr oedd y tu hwnt i grafangau ei erlidwyr. Ond daeth cyfnewidiad arwydocaol i'w farn yn ystod ei arhosiad yno. Erbyn 1590 yr oedd y mudiad Presbyteraidd yn Lloegr yn ymchwalu o dan bwysau erlitgar y llywodraeth a'r arweinwyr eglwysig. Pallodd ffydd Penri ym mharodrwydd y wladwriaeth i sicrhau'r diwygiad eglwysig y dymunai ei weld. Yr oedd bob amser wedi sefyll ar adain chwith y mudiad Piwritanaidd a cham bychan yn ei hanes ef oedd symud i'r gwersyll Ymwahanol, sefy blaid fechan a oedd yn credu na ddylid disgwyl wrth y wladwriaeth ond diwygio'r Eglwys 'heb aros wrth neb', fel y dywedodd Robert Browne. un o brif arloeswyr y safbwynt hwn. Yn ein hiaith ni Cristion heddiw, cefnodd Penri ar Bresbyteriaeth a throi'n Anni bynnwr. Penderfynodd ddychwelyd i Lundain tua diwedd Medi 1592 a phan wnaeth ymunodd â'r eglwys gynulleidfaol a oedd newydd gael ei sefydlu yno o dan weinidogaeth Francis Johnson. Eglwys tan y groes oedd honno. Symudai o Ie i Ie i gynnal ei hoedfeuon ac ni wyddai pa oedfa fyddai ei holaf. Ar 21 Mawrth 1593 bradychwyd Penri gan ficer Stepney, Anthony Anderson, a'i garcharu. Pan oedd Penri'n cael ei holi gan yr ustusiaid o flaen ei brawf terfynol, dywedodd amryw bethau arwyddocaol. Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd wedi ei ethol i swydd yn yr eglwys, dywedodd mai ei amcan 'bob amser' oedd dychwelyd i Gymru i ymarfer ei dalent yno. Os felly, rhaid tybio fod ei gyfraniad at yr ymgyrch Biwritanaidd yn Lloegr, ac yn arbennig yr ymhel â'r wasg gudd a Martin Marprelate, yn ffordd anuniongyrchol i ddylanwadu ar y llywodraeth. A phetai'r ymgyrch honno'n llwyddiannus, gellid gobeithio gweld gwelliant buan yn y ddarpariaeth grefyddol ar gyfer Cymru. Bellach yr oedd wedi cefnu ar y gobaith hwnnw a phenderfynu ar weithredu uniongyrchol yng Nghymru 'heb aros wrth neb'. Fel llawer iawn o Gymry ar ei ô1 fe'i hargyhoeddwyd mai ofer disgwyl i Lundain gymryd Cymru o ddifrif. Dywedodd beth arall awgrymog. Fe'i cysylltiodd ei hun â'r merthyron Protestannaidd fe1 William Tyndale a'r esgob Hugh Latimer. A oedd yn methu trwy ymrestru gyda'r merthyron? Mae'n wir, pan ddaeth ei achos o flaen Mainc y Brenin ar 21 Mai 1593 nad oedd yn cael ei gyhuddo am ei fod yn Biwritan neu'n Bresbyteriad neu'n Annibynnwr, ac yn sicr nad oherwydd ei wladgarwch. Fe1 gelyn crefydd, bradwr a gwrthryfelwr yr oedd ar ei brawf. Ond nid peth dieithr yn hanes crefydd yw i bleidwyr golygiadau anner byniol gael eu cyhuddo a'u cosbi ar yr esgus cyfreithiol eu bod yn dymchwelyd y drefn gymdeithasol. O gasglu'r cwbl at ei gilydd, y mae i Penri le anrhydeddus ymhlith dioddefwyr Cristionogol. Os oedd yn arw ei ymadrodd wrth ymosod ar ei wrthwynebwyr, yr oeddent hwythau'n barod ddigon i'w bardduo yntau. Bod yn anhanesyddol yw disgwyl am gwrteisi ecwmenaidd mewn oes pan oedd pleidiau crefyddol yn colbio ei gilydd gydag egni diflino. Po fwyaf y mae dyn yn ymgydnabod â llenydd- iaeth oes Elisabeth, buan y daw'n amlwg naill ai fod y wlad yn llawn o ffanaticiaid, ymneilltuol ac esgobol, neu bod Penri'n ddieuog o'r cyhuddiad. Os oedd Penri'n ymylu ar rysedd wrth fentro ei fywyd yn ymhel â Martin Marprelate ac â'r wasg gudd, y mae'n deg sylwi fod rhyddid y wasg a rhyddid barn mewn oes ddiweddarach yn dra dyledus i'r bobl a fynnodd leisio eu hargyhoeddiadau costied a gostio. Y mae dyffeio totalitariaeth suful ac eglwysig mewn unrhyw oes ac mewn unrhyw wlad yn beth i'w glodfori. Ac i ni yng Nghymru, beth bynnag yw ein hargyhoeddiadau crefyddol a diwinyddol, peth siabi yw edrych yn ddirmygus ar unrhyw un y bu cyflwr ysbrydol ein cenedl yn faich ar ei gydwybod. Gallwn anghytuno â'i safiad ac â'i athrawiaeth, os mynnwn, a chytuno â'n gilydd ym 1993 i'w anrhydeddu fel un a dalodd y pris eithaf yn ei frwdfrydedd tros yr Efengyl a'i sêl tros sicrhau iechyd ysbrydol ei genedl. Fe dalodd y pris hwnnw pan grogwyd ef yn St. Thomas â Watering ar ddydd Mawrth, 29 Mai 1593.