Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hyn. Roeddynt yn hael hefyd, chwarae teg, at bob achos da. Tlodi, rwy'n meddwl, a fu'n gyfrifol i raddau helaeth am ein gwaseidd-dra fel cenedl. Bu Caernarfon yn dref nodedig o ran ei hanes a'i chymeriad hefyd. Bu'r Rhufeiniaid yn Segontium o bryd i'w gilydd am dair canrif a nepell o Gaer Saint saif hen eglwys y plwyf a gyflwynwyd i Beblig, mab Macscn a Helen medde nhw. Eu rhamant hwy a ddisgrifir yn y Mabinogion ym Mreuddwyd Macsen Wledig. Deil castell mawreddog Iorwerth laf i ddenu ymwelwyr o bedwar ban byd i ryfeddu at ei grefftwaith; ac o fewn muriau'r hen dref i saif Eglwys Fair a godwyd yn yr un cyfnod â'r castell ac sydd mor olau a hardd. Yr oedd Wynne-Jones yn gaplan i garchar Caernarfon ac yn rhinwedd ei swydd roedd yn bresennol pan grogwyd Thomas Jones yn 1898 a William Murphy yn 1910 pryd syrthiodd tafod cloch Eglwys Fair wrth ganu'r cnul. Roedd y Ficer yn gaplan hefyd i'r R.W.F. yn y dref ac roedd ganddo air da i'r milwyr bob amser. Ei fab ef ei hun oedd y cyntaf o fechgyn y cylch i syrthio yn y Rhyfel Mawr. Beth mwy a ddywedaf? Bod Caernarfon yn borthladd prysur yr adeg honno a bod yr eglwysi gyda'i gilydd wedi sefydlu a chynnal cartref i forwyr yn y dref. Ac nid gwiw fyddai anghofio'r Pafiliwn enfawr lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1894 a llu o gyfarfodydd a chymanfaoedd am flynyddoedd lawer. Yno bu Lloyd George yn gwefreiddio'i gynulleidfa ar lawer achlysur. Wedyn roedd bri mawr ar y dref fel canolfan y wasg Gymraeg, ac ar un adeg cyhoeddwyd cynifer â phedwar ar ddeg o bapurau a chylchgronnau yno. Dyma felly'r dref unigryw yr edrychwn arni trwy lygaid Wynne-Jones yn ei gylchgrawn o fis i fis. Hi oedd (ac yw) calon cadernid Gwynedd. Y LLENOR Yn 1910 gofynnwyd i Wynne-Jones gyfrannu erthyglau i'r Lẁerpool Courier a gwnaeth hynny'n rheolaidd am gyfnod. Mae gwaith cyson o'r fath yn gofyn am ddychymyg a disgyblaeth nid bychan. Ysgrifennai dan y ffugenw Glendower, a gwnaethpwyd detholiad o'r ysgrifau hyn at eu cyhoeddi mewn llyfr a enwyd Welsh Notes. Dengys y casgliad ehangder gwybodaeth a diddordebau yr awdur. Mae'r iaith yn ddethol, yr arddull yn lân, ac amrywiaeth y testunau'n apelgar. Mewn un ysgrif dyfala a fu'r canwriad wrth y Groes yng Nghaer Saint rhywdro ac mewn un arall tywys ei ddarllenwyr trwy harddwch a hanes Môn. Testun un arall yw Pipes and Cigarettes. Roedd yn smociwr cetyn o argyhoeddiad ac mae'n clodfori cryfder Baco Amlwch. Fel y gallem ddisgwyl trafodir testunau fel addysg yng Nghymru a chyflwr crefyddol y wlad. Cwyd dadl y Datgysylltiad ei phen lawer gwaith a gall Glendower ergydio'r rhai a ystyriai'n elynion i'r Eglwys yn galed a phrofoclyd. Mewn un ysgrif disgrifia'r daith ar y trên i Lundain i'r rali fawr lle bu James Salt yn taranu, ac asbri'r teithwyr er gwaethaf blinder y daith a gerwindeb y tywydd. Yn Welsh Notes mae amryw o ddyfyniadau a chyfieithiadau byr ac fel cyfieithydd y deuthum ar draws WynneJones gyntaf. Roeddym yn astudio Telynegion Maes a Môr Eifion Wyn yn y pumed dosbarth yn Ysgol Sir Aberaeron ac yn y llyfr hwnnw roedd gan Wynne-Jones ddau gyfieithiad o Sul y Blodau ac Ora Pro Nobis. Darllenais hwy lawer gwaith. Mae'r llyfr o'm blaen yn awr yn frith o nodiadau'r athro. Sylwaf ei fod wedi gofyn i'r dosbarth gymharu'r cyfieithiad o Sul y Blodau â'r gwreiddiol a'i fod wedi rhoi'r peth fel hyn yn awgrymog iawn, 'Pa reswm sydd gennych dros ddweud nad yw'r cyfieithiad cystal â'r gwreiddiol?' Yn wir, sut gallai fod? Ni wn beth a ysgrifennais ond byddwn yn barod iawn yn awr i roi marciau uchel i Ficer Caernarfon am ei waith. Ychydig a feddyliais wrth edrych ar ei enw y byddwn innau'n Ficer Caernarfon rhyw ddiwrnod. Yno y'm harweiniwyd maes o law a da iawn gennyf hynny. Dyna ni felly. Yn awr y mae'n aros y tri hyn yr Hen Gower a'i Antur yn Nhrefriw; yr Hen Salt tywysog bröydd a chwarel, a'r Hen Wynne-Jones y gwr dysgedig a ffraeth a enillodd galon y dref trwy ei gymwynasgarwch hael. A'r mwyaf o'r rhai hyn yw na nid oes eisiau cymharu. Digon yw cofio eu bod yn perthyn mwy neu lai i'r un cyfnod, ac iddynt lafurio'n hir a diwyd yn eu maes. Roedd gan y tri ddoniau gwahanol. A minnau wedi mynd i mewn i lafur y tri, dysgais nid yn unig fyw'n ddedwydd gyda'r cof da ohonynt ymhlith y saint, ond hefyd i'w hedmygu a'u caru. HUW WYNNE GRIFFITH (parhad o dud. 16) Diolch am Huw yr ydym heddiw ond heb anghofio mai am Huw a Mair, y bartneriaeth ffrwythlon honno, yr ydym wedi arfer meddwl, ac y byddwn yn meddwl eto. Diolch i Mair am ymgeleddu Huw mor gymwys bob cam, ac am ei chyfraniad mawr ei hun. Bendith arni hi ac ar y genod a'u teuluoedd a'u cyfraniad hwythau yn y byd y bu Crist farw drosto. Rhown y gair olaf eto i Huw ei hun, yn Cristion cyntaf y llynedd: "Heddiw y byddi gyda mi ym Mharadwys'. Dweud mae'r geiriau fod ynafyd arall y tu hwnt i'r byd hwn; y bydd gorau'r byd hwn yno; a bod meidrolion pechadurus trwy ras yn cael mynd yno. Mae Paradwys yn sicr yn rhan o'r newyddion da i'n hoes ni.' (Traddodwyd y deyrnged hon yng Ngwasanaeth Angladdol y Parchg. Huw Wynne Griffìth yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, Dydd Iau, Mawrth 25, 1993).