Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o'r Y COMISIWN MAWR APHORME Cyfle Mae'n amlwg fod yr Apostol Paul yn gweld y bywyd Cristnogol yn nhermau brwydr rhwng y da a'r drwg a dichon mai dyna pam y mae yn hoff o ddefnyddio geiriau milwrol gan eu bod i'w gweld dro ar ôl tro yn ei Iythyrau. Gair milwrol, yn y bôn, hefyd yw'r gair APHORME a ddefnyddir yn Rhufeiniaid 7.8 (ac a welir chwe gwaith arall yn y Testa- ment Newydd bob tro mewn epistolau a briodolir i'r Apostol): 'Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy y gorchymyn, a weithredodd ynof fi bob trachwant' (B.C.). 'Eithr pechod, wedi cael cychwyniad trwy y gorchymyn, a weithiodd yn rymmus ynof fi bob trachwant' (Cyfieithiad William Edwards). 'A thrwy'r gorchymyn hwn cafodd pechod ei gyfle, a chyffroi ynof bob math o chwantau drwg' (B.C.N.). 'Rhoddodd y gorchymyn broc i bechod ac enynnodd pechod ynof bob math o drachwant' (aralleiriad W.B. Griffiths yn Yr Epistol at y Rhufeiniaid, 1955). Dadleua Paul mai'r Gyfraith a roes i ddyn wybodaeth am bechod ond bod pechod wedi cymryd mantais o'r Gyfraith a gwneud APHORME ohono. 'Achlysur' pechod yw'r Gyfraith i'r Apostol, ac nid 'achos' pechod. Cyfuniad yw APHORME o'r geiriau APO ('oddi wrth') a HORME ('ymosodiad,' 'cyrch') ac meddai William Edwards mai ei ystyr llythrennol yw 'lle o'r hwn y gwneir rhuthr, neu ymosodiad.' Atega Dafydd G. Davies hyn yn ei esboniad ar y llythyr at y Rhufeiniaid, Dod a Bod yn Gristion: Y mae'r gair 'cyfle' (APHORME) yn un diddorol ac arwyddocaol yn y cyswllt hwn. Ei ystyr gwreiddiol ydyw 'man cychwyn' ('base of operations') a defnyddir ef am fyddin yn dechrau ymosod. Nid syn i rywrai gyfeirio ato fel 'pont' y gall byddinoedd pechod ymdeithio drosti wrth ymosod ar y dioddefwr. Efallai mai'r gair gorau i'w ddefnyddio i drosi APHORME fel term milwrol yw'r gair Saesneg bridgehead y gair a ddefnyddir pan yw byddin wedi cael glanfa ar dir gelyn a chyfle oddi yno i ehangu ei gafael a choncro a difa'r wlad oddi amgylch. Nid awgrymu a wna Paul yn Rhufeiniaid 7.8 fod y Gyfraith yn ddrwg, ond cwyno fod pechod yn meddu'r ddawn i droi rhywbeth da i'w fantais ei hun. Gyda phechod pob amser yn barod i ymosod ar ddyn a'i ladd yn y pendraw y mae'r Apostol yn dadlau fod y Gyfraith yn rhoi man cychwyn (bridgehead) i'r ymosodiad hwn gan fod natur gwrthnysig dyn yn peri iddo ddewis gwneud yr hyn a waherddir yn hytrach na'i osgoi. Y mae'r Gyfraith yn dangos beth sy'n ddrwg a phechod yn twyllo pobl i'w gofleidio yn hytrach na chilio rhagddo. Gwyddai'r Apostol hyn i gyd yn dda o'i brofiad ef ei hunan: 'Oherwydd trwy'r gorchymyn cafodd pechod ei gyfle (APHORME), tywyllodd fi, a thrwy'r gorchymyn fe'm Iladdodd' (B.C.N. adnod 11). Yn Epistol Cyntaf Timotheus y mae'r Apostol eto yn rhybuddio am y perygl o roi cyfle i bechod i niweidio'r Deyrnas. Y tro hwn awgrymu a wna y gall ymddygiad difeddwl gweddwon ifainc yn yr Eglwys rhoi man cychwyn (APHORME) i ymosodiad Satan ar y Ffydd. Dyna pam yr ysgrifennodd: 'Fy nymuniad, felly, yw bod gweddwon iau yn priodi a magu plant a chadw ty, a pheidio â rhoi cyfle (APORME) i unrhyw elyn i'n difenwi. Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn (B.C.N. I Timotheus 5.14). Ymhellach, meddai Paul, rhwystro'i elynion ef ei hunan (y ffug apostolion) rhag cael tir i sefyll arno, a man cychwyn i'w hymosodiad hwy arno ef fel apostol, oedd ei fwriad yntau pan wrthododd â bod yn faich ar aelodau'r eglwys yng Nghorinth hyd yn oed pan oedd mewn gwir angen. Derbyniodd gymorth oddi wrth 'y brodyr a ddaeth o Facedonia' ac ymdrechodd i'w gynnal ef ei hunan drwy ddilyn ei grefft fel gwneuthurwr pebyll 'rhag bod yn dreth arnoch' (II Corinthiaid 11.7ff). Gwnaeth hyn yn benodol 'er mwyn dwyn eu cyfle (APHORME) oddi ar y rhai sydd yn ceisio cyfle (APHORME) i gael eu cyfrif ar yr un tir â minnau' (B.C.N. II Corinthiaid 11.12). Ond os yw pechod a Satan a gelynion personol yn gallu manteisio ar gyfleoedd a ddaw i'w rhan hwy, yn yr un modd, meddai'r Apostol, gall y Deyrnas fanteisio ar fannau cychwyn i'w hymosodiad hithau ar y drwg. Cred fod ei fywyd ef ei hunan wedi rhoi cyfle i bobl Corinth i ymffrostio yn yr hyn y gall yr Efengyl ei gyflawni. Ond wrth fentro'i roi ei hun fel enghraifft, pwysleisia 'Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto, ond rhoi cyfle (APHORME) yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni (B.C.N. II Corinthiaid 5:12). Neges y cyfan yw ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i beidio â rhoi .i bechod a drwg unrhyw fath o gyfle (bridgehead) yn ein bywydau; ond, ar yr un pryd, rhaid i ni wneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn creu cyfle (yn ennill man cychwyn) i'r Efengyl. D. HUGH MATTHEWS CYFROL 0 ATGOFION Trwy golofnau'ch cylchgrawn hoffem wahodd cyfraniadau i'r gyfrol o atgofion y bwriadwn ei chyhoeddi am ein tad, Y Parchg. E. Dewi Davies, (1911-1980). Bu'n weinidog yn ardaloedd Pontneddfechan; Clydach, Cwm Tawe; Llanddarog a Llanarthne; Penrhos a Chwmgiedd yng Nghwm Tawe, ac yn ardal Llangybi, Ceredigion, rhwng 1937 ac 1976. Teitl y gyfrol fydd 'ARIAN BYW', ac rydyn ym awyddus i gynnwys darnau digri a difri a fydd yn rhoi darlun cyflawn a chywir ohono fel bugail a dyn. Gwahoddwn gyfraniadau o unrhyw hyd, ar bapur neu ar dâp. Gwerthfawrogir pob cyfraniad, a chydnabyddir y cyfraniadau trwy nodi enw'r sawl a'i danfonodd, os mai dyna ddymuniad y cyfrannwr. Cedwir yr hawl i addasu neu dalfyrru os bydd angen. Derbynnir eich cyfraniadau i'r gyfrol gan: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug (Mold) Clwyd CH7 1TH neu Delyth Humphreys, Bryn Aber, Llangadfan, Trallwm (Welshpool), Powys SY21 OPN. Byddem yn gwerthfawrogi cael unrhyw gyfraniad i law mor fuan ag sydd modd. EIRLYS GRUFFUDD, Yr Wyddgrug.