Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mofyn dwr o ffynnon led cae o'm hen gartref. (Faint o bobl erbyn heddiw a wyr am y gorchwyl hwn?) Daw i'm cof y dwr gloyw glân fel y grisial o'r ffynnon fach ddihysbydd honno. Y mae'r galon yn y Beibl, ac yn arbennig yn nefnydd lesu Grist o'r gair, yn sefyll am y dyn sydd ym mhob un ohonom; cuddiedig ddyn y galon, ei deimladau, ei ddyheadau, ei feddyliau a'i fwriadau, ei gred a'i gymhellion, ei nwydau a nod- weddion amrywiol ei bersonoliaeth. Un o brif nodau purdeb calon yw fod holl gynheddfau personoliaeth mewn cytgord a harmoni perffaith â'i gilydd. Credwn yn gryf, mewn oes o densiynau dyrys, mai Duw yn lesu Grist yng nghalon dyn a all gyfuno a chyfannu personoliaeth. Nid llai na rhyfeddodd yw offerynnau cerdd, fel y delyn a'r piano a'r organ, gyda'u nodau a'u seiniau gwahanol soniarus. Dan law y diwybod a'r annis- gybledig gall eu swn fod yn aflafar i'r eitha, ond dan law y cerddgar a'r meistraidd gall y gerddoriaeth fod yn wefreiddiol ac ysbrydoledig. Mor briodol y canodd y Perganiedydd: Rho fy nwydau, fel cantorion, 011 i chware'u bysedd cun Ar y delyn sydd yn seinio Enw lesu mawr ei Hun: Gwaith Duw yn y galon neu'r enaid yw hyn. Gallu Duw yn unig a all ein puro a'n per- ffeithio; ni allwn ni ddim drwy ein doniau íeUŵ».0^5e^íe^Ä' Y TERFYSGWR DWYFOL Rhy chwannog fuom, Arglwydd da, i'th alw Yn gadarn graig neu'n amddiffynfa gref, Gan redeg atat ymhob tywydd garw, Fel ofnus blant â'u dychrynedig lef. Ynghanol dyffryn cras yr esgyrn sychion, Heb allu teimlo grym dy Ysbryd byw, Aethom o weled chwalu hen obeithion, I'th drafod fel rhyw bell, ddisymud Dduw. Ni fynnem ni dy weld fel Duw y chwyldro Yn bygwth ein llonyddwch oddi fry, Gwell gennym beidio cadw'r drws yn ddatglo, Rhag iti ddod aflonyddu'r ty. Ac eto, onid Ti, derfysgwr grasol Sy'n dymchwel byrddau'n cyfundrefnau ni, Ac ar ein gwarrau'n rhoi dy fflangell ddwyfol l'n dwyn dan iau dy lân ewyllys Di? Morgan D. Jones, Maesteg. a'n gallu ein hunain. Ond mae'n rhaid i ni droi at Dduw, a'i geisio â'n holl galon, nid ei wrthod, na meddwl y medrwn ei osgoi. Y mae ef yn ein ceisio ni. A ydym ni yn ei geisio ef? Cofiwn eiriau'r Crist byw yn Llyfr Datguddiad (3:20), 'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.' Un o brif nodau aruchel yr Efengyl yn lesu Grist yw fod Duw yn ceisio dyn, nid dyn yn ceisio Duw. Dyn yn ceisio Duw yw hanfod 'crefydd', ond Duw yn ceisio dyn yw'r Efengyl. PERFFEITHRWYDD PROFIAD Canys hwy a welant Dduw. Geiriau rhyfeddol sy'n tystio i aeddfedrwydd eithaf y profiad Cristionogol o Dduw; 'gweld Duw'. Nid oes unrhyw brofiad mwy yn bosibl i un, ni all ddal mwy. Dyma'r profiad o wynfyd yn ei gyflawnder. Mae'n amlwg na ddylid cymryd y geiriau hyn mewn ystyr llythrennol. Nid gweld â'r llygad noeth a olygir: 'Nid oes neb wedi gweld Duw erioed, yr Unig un ac yntau yn Dduw, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i gwnaeth yn hysbys,' (loan 1:18). Ystyr y gweld yma, yn ddiamau, yw adnabod Duw ym mawredd ei gymeriad a'i gariad anfeidrol a thragwyddol, a hyn yn wyneb lesu Grist. Ef yw cyfryngwr yr adnabyddiaeth hon. Dyma'r profiad sy'n GAIR EIN DUW Tydi, O! Dduw, a roes i'n rhan Dy air mewn mawr ogonedd, Derbyn ein clod mewn gair a chân: Dy enw fo'n fendigaid, Haleliwia, haleliwia, Haleliwia byth, Amen. Am Grist a'i groes o oes i oes Dy air sy'n sôn amdano; Hedd ddaw i bob ddrylliedig fron A fo'n ymddiried ynddo. Haleliwia, haleliwia, Haleliwia, byth, Amen. Duw, gwisg dy weision oll â'th nerth I draethu'r maith wirionedd, A llanw eu calonnau hwy â mawl I atsain eu gorfoledd. Haleliwia, haleliwia, Haleliwia byth, Amen. G.E. Breeze, Yr Wyddgrug. trawsnewid pob profiad arall a ddichon ddod i ran un ar Iwybrau'r ddaear. Mae'r Gwynfydau, fel y'u gelwir, yn fynegiant o'r profiad o Dduw ym mywyd a chymeriad Cristionogion llawn-dwf: saint Duw, rhai a ddaeth drwy'r puro a'r perffeithio i sicrwydd meddiant llawn yn y man, o'r profiad aruchel a gogoneddus o Dduw yng Nghrist yn ei holl gyflawnder. Yn Epistol Cyntaf loan (llythyr nodedig iawn ei gyfoeth ysbrydol, fel y gwyddom) y mae adnod y bûm yn meddwl llawer amdani'n ddiweddar, er ei gwybod ers blynyddoedd: 'Anwylyd, yr awr hon meibion (plant) Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae,' (1 loan 3:2). Mae'n ddigon posibl fod y geiriau uchod ym meddwl y Ferch o Ddolwar Fach: 'Y danbaid fendigaid Ann' fel y galwyd hi gan J.T. Job, pan ganodd hi y geiriau gorfoleddus: Henffych fore Y caf ei weled fel y mae. Dyma hanfod perffeithrwydd profiad Cristionogion a saint yr oesoedd a'r gobaith gwynfydedig y mae ein bywyd yma yn wag hebddo. A yw ein llygad ysbrydol ni ar agor, a'n clust a'n calon ar agor, i dderbyn y profiad perffaith o 'weld Duw'? 'THE GREAT ESCAPE' (Yr enw uwchben clwb yfed ym Merthyr Tudful) Yma, honnant, yn y gwydryn mae'r ddihangfa rhag pob briw, bydded flerwch doe, yfory neu'r hen heddiw gwag, di-liw. Yn ddiragrith yma y tyrrant yn eu ceir hyd briffordd lefn, gweithwyr Dowlais, Abercanaid, Rhyd-y-car a phentre'r Cefn. Uwch eu gwirod, bob yn dipyn, cludir hwy i rith o wlad lle mae Liz yn beunes gefnog, lle mae Twm yn lordio'i stad. Tua'r hanner nos, dychwelyd am eu gwâl yn feddw-ffraeth, ond er ffoi, cael, fore drannoeth y cadwynau 'r un mor gaeth. John Edward Williams