Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CrWhm CYLCHGRAWN YR EGLWYSI Agenda 2 R. Geraint Gruffydd Llamu eto fel lloi 3 Euros Wyn Jones Carfanau Crefyddol 4 Alun Tudur Bagad Gofalon 7 Y Bugail 'Large was his Bounty' 8 E.H. Griffiths Golygyddol 10 Tabw Casi Jones yn holi Ifan Gruffydd 11 Rhedwyr Duw 15 E. Stanley John Sefwch i gael eich rhifo 17 Morgan D. Jones Cyrsiau Ysgolion Sul 19 Adolygiadau 20 Dewi Aled Hughes, J. Talfryn Jones, Maurice Loader Te Deum 23 Elfed ap Nefydd Roberts Llun y Clawr: Ifan Gruffydd. (Trwy gwrteisi S4C) Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr, Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: Dr. D. Densil Morgan, Yr Ysgol Ddiwinyddiaeth, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG. Ffôn: (01248) 351151, Ffacs (01248) 382551. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Aled Davies. Trysorydd: Brynmor Jones, 25 Danycoed, Aberystwyth SY23 2HD. Ffôn: 0970-623964. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli: John Gwilym Jones Ysgrifennydd y Pwyllgor: D. Hugh Matthews. Cylchrediad a Hysbysebion: Alun Creunant Davies, 3 Maes Lowri, Aberystwyth SY23 2AU. Ffôn: 0970-612925 Argraffwyr: Gwasg John Penri, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. Ffôn: 0792-652092 Agenda Gwestai Gwadd: R. GERAINT GRUFFYDD CYN TROEDIO'R TIR HEULOG Un o'r papurau dyddiol y byddaf yn eu darllen neu'n hytrach yn carlamu trwyddynt yw Times Llundain. Er nad yw cystal papur ag y bu, yn fy marn i, y mae'n dal yn fwy at fy nant na'r un o'r papurau 'trymion' eraill. Un o golofnwyr rheolaidd y Times yw Matthew Parris, sy'n sgrifennu colofn wythnosol yn ogystal â braslun dyddiol, fwy neu lai, o Dy'r Cyffredin. Y mae Parris ei hun yn gyn Aelod Seneddol Torïaidd. Y mae hefyd, fe ymddengys i mi, yn newydiadurwr eithriadol o wych. Ddechrau Mawrth yn ei golofn wythnosol fe ddewisodd Parris sôn am wasanaeth conffirmasiwn mab bedydd iddo yn Rhydychen-yr ail dro erioed, meddai ef, iddo ysgrifennu am grefydd. Dweud yr oedd na allai ddygymod â'r agwedd negyddol a ddatgelir yn rhai o ddywediadau 'celyd' lesu Grist. Y mae'n dyfynnu pedwar dywediad o Efengyl Matthew (5:22, 18:34-5, 24:48-51, 25:41) sy'n dweud fod pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd, neu sy'n gwrthod maddau iddo, neu sy'n ymwrthod â'i gyfrifoldeb i ofalu am ei gyd-ddynion, neu sy'n troi eu cefn ar ddisgyblion Crist pan fônt mewn angen, mewn perygl o gael eu cosbi am byth. Nid anghytuno â'r gofynion y mae Parris, eithr dweud nad oherwydd ofn cosb y dylai pobl eu cyflawni ond oherwydd fod y gofynion eu hunain yn dda. Bu cryn drafod ar golofn Parris mewn dau rifyn dilynol o'r Times, ac mae'n ymddangos i mi i'w ddadleuon gael eu hateb yn deg ond yn gadarn gan Esgob Rhydychen ei hun ymhlith eraill. Bûm yn meddwl cryn dipyn am y digwyddiad wedi hynny, fodd bynnag, a dod i'r casgliad fod Parris, gyda'i ddeallusrwydd a'i sensitif- rwydd arferol, wedi rhoi ei fys ar un o'r prif ffactorau onid y prif ffactor sy'n rhwystro pobl rhag wynebu galwad yr Efengyl heddiw. Yr hyn na all Parris ddygymod ag ef-ac yn hyn o beth y mae'n cynrychioli llu mawr o'r un genhedlaeth yn fod y fath beth â deddf ar waith yn y byd moesol yr ydym yn byw ynddo. Hynny yw, y mae Parris a'i genhedlaeth yn dechnegol yn ANTINOMIAID, yn bobl sy'n ymwrthod â deddf. Y drafferth ynglŷn â safbwynt o'r fath yw ei fod yn gwbl afrealistig. Yn y lle cyntaf y mae dyn yn ddrwg drwyddo, fel y gwelir yn ddigon eglur pan fo'n cael ei roi mewn sefyllfa o rym dilyffethair: tybed sawl miliwn o farwolaethau y bu Josef Stalin, Adolf Hitler a Mao Tse-Tung rhyngddynt yn gyfrifol amdanynt yn ystod ein canrif waedlyd ni? (Ac os cynigir yr esgus mai unigolion seicopathig oeddynt-fel yr oeddynt yn ddiau-meddylier â pha gefnogaeth y daethant rym ac yr arosa- sant mewn grym). Yn yr ail Ie, y mae Duw'n gyfiawn yn ei hanfod ac yn mynnu galw dyn gyfrif am ei ddrygioni: hynny yw, yn hwyr neu'n hwyrach, fe fydd pawb ohonom yn gorfod talu am y drwg a wnaethom. Eithr, yn drydydd, y mae Duw hefyd yn gariad yn ei hanfod, ac er mwyn ein harbed rhag canlyniadau ein drygioni fe anfonodd ei Fab ddioddef y canlyniadau hynny yn ein lle. Yr oedd y dynged a'n hwynebai oher- wydd ein drygioni mor erchyll fel nad oedd dim ond ymgnawdoliad a marwolaeth Mab Duw drosom a allai ein harbed rhagddi. Yn bedwerydd, fodd bynnag, er mwyn gallu manteisio ar y waredigaeth a enillodd Crist inni, y mae'n rhaid inni dderbyn dedfryd Duw ar ein cyflwr drygionus, ac yna droi at Grist mewn ffydd a chymryd ein dysgu ganddo sut i fyw a sut feddwl. Ond y cam cyntaf bob amser yw cydnabod y gwir am ddifrifoldeb ein cyflwr. Dyma'r mur y mae'n rhaid mynd trwyddo cyn troedio tiriogaeth heulog ac eang yr iachawdwriaeth. A dyma ysywaeth, y mur y mae Matthew Parris a'i genhedlaeth yn benderfynol o droi eu cefn arno. 'Rwy'n cofio cael sgwrs unwaith ag athro gwyddoniaeth o'r Almaen a oedd hefyd yn Gristion. Wrth sôn am gyflwr cymdeithas yn y gorllewin, y gair a ddefnyddiodd oedd 'decadent'. 'Roeddwn yn meddwl ar y pryd fod hwnnw'n air rhy gryf, ond erbyn hyn nid wyf mor siwr. Dau gysur sydd: yn gyntaf, nid yw tranc cymdeithas yn golygu nad oes ywmared sicr i'r unigolyn sy'n ei geisio; ac yn ail, gall Duw, os myn, adnewyddu'r gymdeithas yn ogystal â'r unigolyn.