Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAMU ETO FEL LLOI Achosodd gwestai gwadd rhifyn diwethaf Cristion, Catrin Haf Williams, beth anhawster mi gyda'i cholofn o dan y teitl 'Llamu fel lloi Gwerthfawrogaf y darluniau cyfoethog am gyfrifoldeb dynoliaeth tuag at anifeiliaid a restrir ganddi. Y mae'r darlun o Dduw fel Bugail ei bobl, yn gofalu amdanynt ac yn rhoi ei fywyd drostynt, yn hynod o gyfoethog. Fi fyddai'r diwethaf wadu cyfrifoldeb hwsmonaeth. Ond fel un a fagwyd ar fferm ac a ddysgwyd drin anifeiliaid caf gefnogaeth Catrin Haf Williams brotestwyr milain, unllygeidiog ac anwybodus 'hawliau anifeiliaid' yn ddirgelwch. HAWLIAU! Y cwestiwn sylfaenol mi yw, ba raddau y gellir dweud fod gan anifeiliaid 'hawliau'? Onid creduriaid moesol sydd â hawliau? Yn y Beibl ni ddisgwylir anifeiliaid ymddwyn yn foesol. Dim ond dyn sydd wedi ei greu yn greadur moesol a hynny yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ei greu ar lun a delw ei Greawdwr. Fel creadur moesol disgwylir ef drin ei gyd-ddyn a'i anifeiliaid yn gyfrifol ac yn deg. Ymadrodd diystyr hollol yw 'hawliau anifeiliaid' gan mai dynion a mer- ched moesol yn unig all feddu hawliau. Un hawl a ordeiniwyd ddyn yw drin a thrafod anfeiliaid. 'Gosodaist bob peth o dan ei draed ef; defaid ac ychain Yr argraff a gaf wrth wylio'r protestwyr yw fod 'hawliau anifeiliaid' yn bwysicach na pharchu eu cyd-ddyn. Pa fodd mae cyfiawnhau dyrnu plismyn ac ymosod ar yrwyr loriau ac anfon bomiau trwy'r post er mwyn 'hawliau anifeiliaid' a hyd yn oed cael esgob fendithio loriau o loi a defaid sydd ddirgelwch mi? A yw Catrin Haf yn cymeradwyo'r math hwn o ymddygiad anfoesol tuag at gyd-ddyn? Brefu wna'r ddafad a'r llo a thrydar wna'r adar a chrawcian wna'r broga. Pan fo'r robin yn canu ei gân yn y bore bach nid moli ei greawdwr y mae ond cyhoeddi bob robin arall o fewn cyrraedd, 'fy nhiriogaeth yw hwn, cadwch bant!' ddynoliaeth yn unig y rhoddwyd y cyfrifoldeb o fod yn deml Dduw yng nghanol y cread er mwyn gwneud ei 'hocheneidio' aflafar yn foliant ystyrlon a'i mudandod yn llafar. Dyn yw'r creadur moesol a rhesymol, tra dywed y Salmydd fod yn rhaid farch gael ei 'ffrwyno â genfa.' BOLIAU LLAWN Yr wyf yn dal gofio digon am amaeth- yddiaeth wybod mai'r hyn sy'n rhoi bodlonrwydd anifail yw boliau llawn a glendid o dan eu traed. Wedyn fe 'lama'r gan EUROS WYN JONES Ymgyrchwyr Hawliau Anifeiliaid lloi Er gratiau cyfyng ar gyfer lloi bach fod yn wrthun minnau ar un adeg, eto pan welais y darluniau ar un o raglenni S4C yn ddiweddar sylweddolais nad oeddent mor ddrwg ac y portreadwyd hwy gan y wasg. Yn wir, yr oedd, yr oedd graen arbennig y lloi a welwyd ar y rhaglen arbennig honno yn brawf eglur i mi eu bod yn fodlon eu byd ac yn cael y gofal gorau. Mae'n hawdd barnu mewn anwybodaeth. CYMDEITHAS Y CYMOD YNG NGHYMROJJ TORRI CYLCH CYTHREULIG TRAIS YMATEB CYMDEITHAS Y CYMOD YNG NGHYMRU I 1945-95 Eleni, hanner can mlynedd ar ôl y rhyfel enbytaf a welwyd erioed, bydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn canoli sylw ar y ffordd ddi-drais o wynebu gwrthdaro. Cred ei haelodau fod yr holl ryfeloedd gwaedlyd a liwiodd hanes ein byd, gyda thros gant ohonynt yn digwydd ar ôl 1945, yn tanlinellu'r ffaith ein bod yn dal yng nghrafangau cylch cythreulig o drais. Mynegiant clir ohono yw'r gwario parhaus ar 'amddiffyn' a'r ymarfogi sy'n digwydd heddiw fel paratoad ar gyfer rhyfeloedd posibl yfory. Am faint mwy o flynyddoedd y bydd rhaid i werinoedd dalu'r pris am anrhaith didostur rhyfeloedd? Barna Cymdeithas y Cymod, fel y gwna nifer cynyddol mewn byd ac eglwys, fod rhyfel wedi hen golli ei hygrededd a bod rhaid ymwrthod ag ef fel yr ymwrthodwyd gynt â chaethwasiaeth, a mabwysiadu dulliau di-drais gwrdd ag unrhyw wrthdaro neu fygythiad a ddichon ddigwydd yn y dyfodol. Bydd y Gymdeithas eleni yn gwahodd ei Cyfeiria Catrin Haf at ddeddfau'r Hen Destament am barchu anifeiliaid, ceir darlun trawiadol o'r Testament Newydd a ddylai ein sobri gyd, yn enwedig y protestwyr milain. Yn ei ail lythyr mae Pedr yn sôn am ddynion trahaus sy'n byw borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod: 'Ond y mae'r dynion hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau.' Un pwynt pwysig nad yw Catrin Haf yn cyfeirio ato o gwbl yw effaith pechod ar ddynoliaeth. Oherwydd pechod mae dyn yn camdrin ei gyd-ddyn â'i anifeiliaid. Dim ond yn Oes y Meseia y bydd 'y blaidd yn trigo gyda'r oen a'r llewpard yn gorwedd gyda'r myn, y llo a'r llew yn cydbori oherwydd llenwir y ddaear a gwybodaeth yr Arglwydd' (Eseia 11). Hyd nes daw'r oes honno rhaid ddyn fugeilio'r defaid a gofalu am y lloi a pharchu ei gyd-ddyn. haelodau ac eraill sydd o'r un meddwl edrych mewn dyfnder ar wahanol ag- weddau ar ddidreisedd a bydd y gweithgarwch hwn yn digwydd mewn nifer o gyfarfodydd rhanbarthol hyd a lled Cymru. Yna, fe gyfeirir ffrwyth eu hymchwil Gynhadledd arbennig a gynhelir yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, Mawrth 28-30, 1996. Anerchir gan HILDEGARD GOSS-MAYR, Llywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Ryngwladol sydd yn eang ei phrofiad ym maes gweithredu di-drais, ac a ddaw â gwybodaeth ni yn yng Nghymru am ymdrechion rhai o wledydd eraill y byd orseddu'r ffordd ddi-drais fel rhan o'u diwylliant. Hyderir y bydd llawer o Gymry sy'n rhannu'r un argyhoeddiad a gobaith yn uno yn y gwaith paratoi ac yn y Gynhadledd er mwyn i'r cyfan fod yn gyfraniad Cymreig teilwng i'r symudiad cyfoes at ddiwylliant di-drais. Parchedigion Islwyn Lake ac Erastus Jones: ar ran is-bwyllgor y Gynhadledd Heddwch o Gymdeithas y Cymod yng Nghymru.