Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

emosiwn anghyffredin. Gan amlaf nid oes ganddynt unrhyw adeiladwaith trefnus ond dibynant yn llwyr ar arweinydd charismataidd. Credant mai ganddynt hwy, a hwy yn unig, y mae'r gwirionedd achubol. Y mae'r Cwlt yn eithafol ac yn fyr hoedlog er fod ambell un yn goroesi trwy ddatblygu'n Sect. Wrth ddefnyddio'r term Cwlt golygir y garfan honno sydd bellaf oddi wrth yr Eglwys Gyffredinol. Er fod y diffiniadau uchod yn benodol, mewn gwirionedd canllawiau ydynt gan ei bod yn anodd iawn ar brydiau gwahaniaethu rhwng Cwlt a Sect a rhwng Sect ac Enwad. CASGLIADAU Wrth ddefnyddio'r diffiniadau uchod gellir edrych ar wahanol gyfnodau yn hanes Cristnogol Cymru a gweld patrymau ymddygiad sy'n ein cynorthwyo i ddeall yn well yr hyn a ddigwyddodd. Yn ogystal â hyn fe'n cynorthwyant i weld beth yw ein sefyllfa yn awr ym 1995. Wedi astudio datblygiad yr Enwadau Ymneilltuol yng Nghymru, y mae dyn yn sylweddoli ein bod wedi colli llawer wrth gefnu ar ein 'Wedi astudio datblygiad yr Enwadau Ymneilltuol yng Nghymru, y mae dyn yn sylweddoli ein bod wedi colli llawer wrth gefnu ar ein gwreiddiau sectyddol.' gwreiddiau sectyddol. Yr ydym wrth droi'n Enwadau wedi ymbarchuso'n ormodol, wedi oeri a cholli llawer o'r afiaeth, yr ynni a'r weledigaeth a berthynai i'n rhagflaenwyr llwydd- iannus. Y mae ein haddoliad yn gyffredinol wedi troi'n ffurfiol, defodol a di-wefr a cichiwn ar unrhyw un sy'n dangos emosiwn. Byddai'n dda pe baem yn ail-feithrin nodweddion gorau ein gwreiddiau sectyddol a bwysleisient offeiriadaeth yr holl saint, disgyblaeth, addoliad bywiog, achub eneidiau a chyfrifoldeb cymdeithasol y Cristion. Pwy oedd agosaf at ddelfryd yr Eglwys Fore tybed, ni Gristnogion Cymru ym 1995, yntau ein rhagflaenwyr yn y 18ed a'r 19eg ganrif? I mi mae'r ateb yn gwbl amlwg. Peth arall a ddaw i'r golwg wrth ystyried y cyfundrefnu hyn yw bod cryfderau a gwendidau yn perthyn i bob un o'r dosbarthiadau uchod. Ond fe ddangosant bod amrywiaeth strwythur ac adeiladwaith o fewn i'r eglwys Gristnogol yn rhoi lle i amrediad eang o ddaliadau a phwysleisiadau, a bod lle o fewn i'r eglwys fyd-eang i amrywiaeth mawr o bobl. Onid peth iach yw hyn? Pan fo'r Eglwys Gristnogol yn llwydd- iannus a ffyniannus y duedd bob amser yw tuag at ym- wahanu, datblygu ac esgor ar batrymau gwahanol o drefn- iadaeth eglwysig. Os felly, onid arwydd o ddiffyg gweledigaeth yw'r drafodaeth ddiweddar am uno a chreu un gyfundrefn Ymneilltuol yma yng Nghymru? Oherwydd pan ddaw adfywiad i'n plith onid un o'r pethau cyntaf a ddigwydd fydd ymwahanu? Ar y llaw arall, os mai arwydd o gryfder Cristnogol yw undod cyfundrefnol oni ddylid cychwyn yn awr ar drafodaeth i greu un Eglwys Gymreig yn cynnwys y Catholigion, yr Eglwys yng Nghymru a'r Ymneilltuwyr?