Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nl ALL NAC ANGAU NAC EINIOES Go brin fod unrhwybeth yn fwy anodd yng ngwaith y weinidogaeth na delio â phrofedigaeth. Yn naturiol mae'r achlysuron hyn yn gallu amrywio. Fe fydd marwolaeth rhywun mewn tipyn o oedran neu berson sydd wedi dioddef yn hir fel arfer yn haws ymdopi â hi ac yn fwy dealladwy i'r teulu ac yn fwy derbyniol ganddynt. Ar y llaw arall gwahanol iawn yw'r ymateb farwolaeth sydyn neu farw person ifanc. ER COF ANNWYL AM John Jones Cwm Mmvr Abercwm Hunoddyn dawel O safbwynt y gweinidog, y mae adna- byddiaeth neu ddiffyg adnabyddiaeth yn gallu bod yn ffactor allweddol wrth weini cysur mewn achosion fel hyn, ac mewn dyddiau lle mae cymaint o bobl heb gysylltiad â chapel neu eglwys, neu fod y cysylltiad wedi'i esgeuluso ers blynydd- oedd, mae'r anhawster yn cael ei ddwysáu. Mae bron pob gweinidog wedi cael cais gan drefnwr angladdau gladdu pobl nad oes ganddo'r syniad leiaf amdanynt nac am eu teuluoedd. Gwn fod rhai yn gwrthod gwneud, ond fel dywedodd un gweinidog wrthyf un tro-un y mae gennyf lawer o barch ato- Mae'n ddyletswydd Gristnogol arnom gladdu'r meirw. Rwy'n trio cofio'r geiriau hynny bob tro daw ffôn ben bore yn gofyn mi gladdu rhywun y breuodd ei gysylltiad â chapel ers blynyddoedd ond bod ei deulu wedi teimlo mai addas fyddai cael gweinidog Anghydffurfiol Cymraeg gymryd y gwasanaeth. Yn bersonol gallai ddim dweud fy mod yn cael yr achlysuron hynny yn fwy anodd na chladdu rhai o blith f'aelodau fy hun. Wedi'r cwbl mae cymaint o'n haelodau, oherwydd eu cysylltiad llac â'r capel, yn gallu bod cystal â dieithriaid mewn gwirionedd, a pherson ffol fyddai'n dadlau fod ffydd a chred llawer y tu fewn i'r eglwys gymaint a hynny'n wahanol lawer y tu fas. SEFYLL AR WAHAN Wrth ymweld â'r teulu cyn dydd yr angladd, ceir rhywfaint o wybodaeth am yr ymadawedig a hefyd syniad go dda am 3AGAD GOFALON deimladau'r teulu yn eu profedigaeth. O wrando'n astud gellir synhwyro beth ddylid ei ddweud a beth i'w osgoi. Hefyd, mae'r diffyg adnabyddiaeth yn aml yn ein galluogi sefyll ryw gymaint ar wahân a thrwy hynny osgoi gor-ddweud a sicrhau gwasanaeth urddasol. Efallai fyddai rhai am ddadlau na ellir cysoni sefyll ar wahân â'r cydymdeimlad a'r sensitifrwydd Cristnogol y mae'r achlysur yn galw amdano; onid yw bod yn ddidoledig yn gyfystyr â bod yn ddifater? Mae'r ffin yn gallu bod yn denau, efallai, ond mae 'na ffin serch hynny, a byddwn am ddadlau ei bod hi'n bosibl sefyll ar wahân heb fod yn oer a dideimlad. A phwy a all wadu nad yw adnabyddiaeth yn dod â'i phroblemau 'Rhai o'r angladdau lleiaf Cristnogol i mi fod ynddynt oedd y rheini IIe aeth y gweinidog i eithafion yn y canmol.' arbennig ei hun? Mae'n debyg lawer ohonom gael y profiad o wasanaethu mewn angladd ffrind neu rywun y buom yn arbennig hoff ohono: pa mor wrthrychol y gellid fod ar yr adegau hynny? Rhai o'r angladdau lleiaf Cristnogol mi fod ynddynt, os caf ddweud, oedd y rheini IIe bu'r gweinidog os rhywbeth yn rhy agos at yr ymadawedig ac o ganlyniad wedi mynd eithafion yn y canmol. Fel dywedodd un wág wrthyf wedi gwasanaeth o'r fath: 'Ces dipyn o sioc glywed gymaint oedd rhiweddu'r hen Jim ddoe. Cofiwch rwy'n credu fyddai Jim wedi cael tipyn mwy o sioc pe bydde fyntau wedi clywed!' O'r ychydig brofiad sydd gen i o ddelio gyda theuluoedd y tu fas i gylch yr eglwys ar adegau o brofedigaeth, yr hyn mae ,Y SUGAIL nhw'n dymuno yn syml ydi help yn eu cyfyngder, person sy'n gallu dangos ei fod yn deall yr hyn y mae nhw'n mynd trwyddo, a'r sicrwydd y cynhelir gwasanaeth angladdol, gyda sensitifrwydd ac urddas, a'r gymwynas olaf yn cael ei thalu i'w hanwyliaid gyda pharch. Wedi'r cwbl dyma'r profiad mwyaf dirdynnol sydd yn rhaid unrhyw un ei wynebu mewn bywyd. Pa faint mwy dirdynnol heb ffydd ystyrlon mewn atgyfodiad a bywyd tragwyddol? Yn aml y mae rhywun yn dysgu gwersi pwysig mewn gwyleidd-dra, wrth syl- weddoli gymaint o aberthu anhunanol, gofal tyner a chariad dwfn sydd yn digwydd ar aelwydydd sydd bob pwrpas yn ddigrefydd, a'r ymdrechion diffuant sicrhau bywyd gwâr o dan amgylchiadau digon anodd. Yr Atgyfodiad Piero della Francesca FFYDD SEML Mae bod mewn sefyllfaoedd o'r fath a gwrando ar bobl gyda'u syniadau rhyfedd am Dduw, yr ysbrydol a bywyd wedi marwolaeth, ond gan sylwi hefyd ar eu hymddiriedaeth syml yn y Duw sy'n drech na holl amgylchiadau bywyd ac sy'n eu cynnal nhw yn eu profedigaeth, wedi fy ngorfodi feddwl o ddifrif am yr hyn rwyf innau'n ei gredu mewn perthynas ag angau ac ag 'amodau' bywyd tragwyddol. Ond yn y diwedd ac wrth ddelio a'r diwedd, ni ellir gwneud dim ond pwyso ar gariad graslon a thrugarog y Duw trag- wyddol, a'r addewid nad oes dim o fewn y greadigaeth a all ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw fel y'i datguddiwyd yng Nghrist Iesu.