Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'[L/&[Î5(§U W/ÄS KIDS [B®QDK]W AND HIS SOUL SINCERE' E.H. GRIFFITHS, Y Rhyl Mae i ni ddyled drom i'r cyfeillion a'r cydnabod hynny a bwysodd ac o bwysodd drachefn nes cael Y Parchedig R. Gwilym Hughes i grynhoi ei atgofion a'u cyhoeddi yn ei lyfr hudolus diweddar: 'DWR DAN Y BONT'. Nid hunan- fywgraffiad yn yr ystyr arferol mohono, ond llyfr byw, diddorol, gwerthfawr gan fardd a phregethwr, emynydd a diwinydd, gwleidydd a hanesydd, ac awdur gwybodus, byrlymus ac afieithus sy'n fras olrhain ei rawd arbennig ei hun o 1910-1994, gyda sylwebaeth graff ar ddigwyddiadau cyffrous y cyfnod megis 'Y Chwalfa' yn Chwarel y Penrhyn, 'Y Pentecost o Lwchwr i Lyn', Y Rhyfel Byd Cyntaf, Y Gwrthryfel yn Nulyn, 'Y Tân yn Llyn', Yr Ail Ryfel Byd, Yr Adfywiad Cymraeg yn Nhegeingl, ac amryw o ddyddiadau ac o ddigwyddiadau eraill. DYDDIAU DA Yn yr hanner cyntaf, y saith bennod gyntaf o'r llyfr, brasgamir dros gyfnodi bore oes, yr ysgolion a'r colegau (1910-1938). Miri iach ei fore oes ym Mryn Difyr, Lonbopty, Bangor, yna i Ysgol Plant Ieuengaf Sant Paul, yna i Ysgol eglwysig Cae Top, ac yna, wedi llwyddo yn arholiad ysgoloriaeth yr un-ar-ddeg oed, yn hen Ysgol Friars enwog. Wedi ymestyn y cortynnau a llwyddo yn arholiadau'r Dystysgrif Ganol a'r Dystysgrif Uchaf mewn Cymraeg, ac wedi llafur gwaith ymchwil ennill gradd M.A. Prifysgol Cymru. Parhau i ddal ati wedyn yn Adran Ddiwinyddol y Coleg ar y Bryn a chwblhau cwrs gradd y B.D., gan arbenigo yn athroniaeth, athrawiaeth a Hanes yr Eglwys, cyn mynd i Goleg Y Bala i hogi ei gryman gogyfer â gwaith y weinidogaeth. Ond llenwir y tudalennau ar y daith â chyfeiriadau at gyn-ysgolorion, cyfoedion, athrawon ac ysgolheigion, a throeon difrif a digrif ar y ffordd. Hen utgorn oedd ei atgof ar ben Lonbopty yn dwyn i'w gof rhai fel y Capten Edwards a'i briod, hen gwpl anllythrennog y byddai fel hogyn addawol iawn yn darllen y 'Liverpool Echo' iddynt gyda'r nos, y bythynnwyr ungoes Thomas Jones a gafodd ddamwain wrth weithio ar Bafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1915. Dr. Evans y mil-feddyg bydenwog, Brynkynallt, perch- ennog yr afalau oedd yn ormod o demtasiwn, hyd yn oed, i blant da Capel Lonbopty, y capel lle byddai 'Dafydd Griffith Amen', wedi'i ailenedigaeth yn nhanchwa ysbrydol 04-05 yn gorfoleddu ac yn porthi'n gyson, a lle byddai'r gwreiddiol a'r difyr Anthropos yn dod ar ei hald. Hen utgorn oedd ei atgof am yr ysgolion yn dwyn i'w gof ddisgyblion fel Huw Wheldon, Pennaeth y B.B.C., y Dr. Carl Witton-Davies, yr ysgolhaig hyglod mewn Hebraeg a'r Hen Destament, W.R.P. George y Cyn-Archdderwydd, ac A.O.H. Jarman y llenor a Phennaeth Adran Gymraeg Coleg Caerdydd yn ei dro. Ac athrawon fel Mr. King cerddorol ond di-Gymraeg onid gwrth-Gymreig, yn Ysgol Cae Top, ac R.E. Hughes (mab y Parchg. R. Môn Hughes a thaid Angharad Tomos) yr athro Cymraeg rhagorol yn Ysgol y Friars, a'i Phrifathro oedd yn gyfuniad rhyfeddol o wyddonydd a chlasurwr, W. St. Bodvan Griffith. Hen utgorn oedd ei atgof am y Colegau yn dwyn i gof lu o Gamalieliaid o hil Hillel y cafodd ef a'i gyfoedion y fraint, yn wir, y rhagorfraint o fod wrth eu traed. Yn gyfoeswyr yng Nghymdeithas neu 'Koinwnia hwyliog y Colegau yr oedd Bleddyn Jones Roberts, Gwilym Bowyer, Harri Gwynn, Robert Owen, Gruffydd John Roberts, Hywel D. Lewis, R. Meirion Roberts, O.M. Lloyd, R.E. Jones etc. Amryw ohonynt ymysg awduron 'Barddoniaeth Baìigor' ac, yn y man rai ohonynt yn brifeirdd, yn brif ysgolheigion, llenorion ac arweinyddion y wlad. Cymdeithas glos, gellweirus, ffraeth a mentrus oedd honno. Yn eu dyddiau hwy y gostyngwyd Baner Jac Yr Undeb o ben Tŵr yr Eryr ac y dyrchafwyd Baner Y Ddraig Goch yn ei lIe, i fod yn fanwl, mistimanars ar Ddygwyl Ddewi, 1932, pedair blynedd cyn y Tân ym Mhenyberth. A rhyw ddegawd cyn blynyddoedd 'meddwol' chwedl Islwyn Ffowc Elis am ei eiddo ef a Thriawd-y-Coleg. Digon yw enwi'r Gamalieliaid oedd yn teyrnasu yn y Colegau ar Y Bryn y dwthwn hwnnw: Syr John a Syr Ifor, Thomas Parry ac R. Williams Parry, James Gibson a T. Hudson-Williams, R.T. Jenkins a Thomas Richards, Gwili, J. Morgan Jones a J.E. Daniel. A thriawd mawr Y Bala: David Williams, David Phillips a G.A. Edwards. Coleg y Bala YNG NGHANOL Y GWAITH Yn ail hanner y llyfr, ceir braslun ym Mhennod 8 a 9 o'i hanes, ar ôl ei ordeiniad yn Salem, Dolgellau, yn gweini yn y ddau Faentwrog (1938-1942), yn Nwyran, Môn (1942-1948), yn 'Hyfrydle', Caergybi (1948-1954), yn 'Bethesda', Yr Wyddgrug (1954-1961) ac yn 'Penmount', Pwllheli (1961-1981).