Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Yn rhifyn diwethaf y cylchgrawn Taliesin mae Islwyn Ffowc Elis, un o'n pennaf lenorion, yn rhannu rhai o'i argraffiadau personol ynghylch llenyddiaeth gyfoes Gymraeg. Ysgrif tra diddorol a darllenad- wy sy ganddo, fel y byddwn yn ei ddisgwyl oddi wrth un gyfrannodd gymaint at ffyniant ein llên ar hyd y blynyddoedd, ac un sy'n tafoli'n feistrolgar rai o'r tueddiadau beir- niadol diweddaraf. Fel 'tad y nofel Gymraeg gyfoes' y sonnir amdano gan olygyddion Taliesin ac er iddo fynnu nad beirniad llenyddol mohono, eto mae ôl treiddgarwch nid bychan yn ei sylwadau. Ffowc Elis FFASIYNAU Yn sgîl trafod y gwahanol ffasiynau a gafodd eu harfer gan lenorion yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sonia am y newid a fu mewn 'tabŵs' llenyddol yn ystod yr un cyfnod. Yr hyn na chaniateid lenor Cymraeg ei drafod ddeng mlynedd ar hugain a mwy yn ôl oedd rhyw, ond roedd tragwyddol heol iddo sôn am grefydd. Er nad yw'n cyfeirio at ei waith ei hun, mae'n drawiadol sylwi pa mor greiddiol oedd Cristionogaeth mewn nofelau megis Cysgod y Cryman ac Yn ól i Leifior, y gweithiau a sicrhaodd enwogrwydd Islwyn Ffowc Elis ymhlith darllenwyr Cymraeg. Er bod confensiwn y pryd hynny yn mynnu IIe grefydd mewn unrhyw waith a oedd yn darlunio bywyd y Gymru Gymraeg, eto nid confensiwn ond argyhoeddiad oedd y Ffydd amryw o gymeriadau mwyaf cofiad- wy y nofelau hynny. Nid ystyriai neb mai YN ÔL LEIFIOR peth od oedd hynny, am fod pawb yn adnabod o leiaf rywun roedd gwir grefydd yn ysbrydiaeth ac yn gynhaliaeth iddo. NIWROSIS Ond bellach troes y rhod. Os ymddengys crefydd o gwbl mewn nofelau, storïau byrion a dramâu bellach, arwydd o rwybeth gwyrdröedig ydyw. Un niwrotig yw'r crefyddwr ar y gorau os nad un seicotig llwyr, un sy'n cuddio'i ddrwg dan gochl sancteiddrwydd. A chydnabod fod yna grefyddwyr rhagrithiol- bu hyn yn dir ffrwythlon ar gyfer llenorion Cristionogol erioed fel y tystia nofelau Daniel Owen, y ffasiwn bellach yw mynnu nad oes yna saint. Caiff y llenor ysgrifennu'r hyn a fyn am ryw, po fwyaf explicit gorau gyd, ond mae crefydd fel grym bywydol a ffyn- honnell rhinwedd a daioni allan ohoni. Neu mewn geiriau eraill, troes gwir grefydd yn dabw. DEDWYDDWCH Tabŵ arall y mae Islwyn Ffowc Elis yn ei grybwyll yw'r tabŵ yn erbyn dedwyddwch. 'Byd caled ydi hwn,' meddai. 'Ac mae pobl yn gas, yn sbeitlyd, yn faleisus, yn ddi- ddal 'Does neb yn cael Ilawer o bleser ac eithrio pan fydd o neu hi wedi cael llond cratsh o ffics cyffuriol neu newydd gael cyfathrach rhywiol Os oes pobol sy'n hapus yn eu bywydau bob dydd mae nhw'n unigolion od iawn a phrin' TABŴ Alltudiwyd hapusrwydd o fyd y llenor cyfoes, ac nid oes mo'r fath beth â daioni. Bellach nid y rhai addfwyn ond y sinigiaid a gaiff etifeddu'r ddaear. Nid oes neb sy'n wyn ei fyd. YMWRTHOD Wrth ymwrthod â'r Ffydd Gristionogol mae yna fwy nag un genhedlaeth ohonom, Gymry Cymraeg, wedi'n hamddifadu o ffrwythau'r ffydd yn ogystal: cariad, Ilawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, add- fwynder, hunan-ddisgyblaeth (Gal, 5:22-23). Byd di-Dduw yw byd y llenor Cymraeg cyfoes (er bod eithriadau, diolch am hynny), a phobl ddi-Dduw yw ei gymeriadau. Cyfyngwyd ar eu dynoliaeth, lawer ohonynt, gan derfynau cul eu cred, neu'n hytrach eu diffyg cred. Ond er mor ddigrefydd yw'n Ilên gyfoes, amhosibl yw i'n Ilenorion ymddihatru oddi wrth y math bynciau sy'n ganolog i'r Ffydd Gristionogol: ystyr bywyd a'i ddiben, perthynas pobl a'i gilydd, gwrthdaro a chymod, cariad a chasineb, a chymaint o bethau eraill yn ogystal. Gwyddai'r awduron beiblaidd am rymuster pechod, ond yn wahanol i'n llenorion cyfoes, gwyddent am ystyr gwaredigaeth hefyd. Mentrwn ddweud fod ein Ilenyddiaeth wedi bod ar ei chyfoethocaf pan adlewyrchodd y normâu hynny sy'n ymhlyg yn nhrefn greadigol Duw. Prysured y dydd pan fydd ein Ilenorion yn ailddarganfod y drefn honno a chwalu'r tabŵ rhyfedd sy ganddynt yn erbyn y gwir. D.D.M. Yn rhifyn nesaf Cristion: Bydd y Canon John Rowlands, Warden Coleg Mihangel, Llandaf, yn trafod gyrfa John Henry Newman ar achlysur canmlwyddiant a hanner ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig, a bydd y Tad John Fitzgerald a'r Parchg. Gwyndaf Jones yn dadlau ynghylch rhinweddau a gwendidau Catholigiaeth a Phrotestaniaeth. Hefyd y gyntaf o ddwy erthygl ar Fudiadau Crefyddot Newydd gan y Dr. Geraint Tudur. Bydd Owain Llŷr Evans yn sôn am 'ddirgelwch addoli'. Bydd colofnau Te Deum,Bagad Gofalon, Yn Fy Mhen a'rarlwy arfero! hefyd ar eich cyfer.