Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YN bbiu ae YN wm ©re iwca, nwisi m umm CYFWELIAD CASfl M. JONES AG Pff=AN GRUFFYDD Os ewch chi weld Ifan Gruffydd, anghofiwch y syniad o ddarganfod y person go iawn y tu ôl i'r cymeriadau cyfarwydd o'i gyfresi teledu poblogaidd, oherwydd fe gewch chi'r argraff wrth siarad ag e fod na fwy nag un person yn dod at ei gilydd greu y cymeriad byrlymus yma. Efallai mai un o'r rhesymau am hyn yw ei fod, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, yn dipyn o eithafwr. Mae e'n dueddol o weld pethau'n ddu neu'n wyn, neu weithiau'r ddau ar yr un pryd. Wrth siarad â fe, fe glywch chi lais y storïwr cefn gwlad, llais yr athronydd, ac weithiau llais y pregethwr a phob un fel petai yn siarad gyda'r un argyhoeddiad. Mae cyfweld ag Ifan fel mynd ar daith grombil ei feddwl a dargan- fod yn eu tro symylrwydd a chymhlethdod, ochr olau ac ochr dywyll bywyd, ffydd ac anffyddiaeth a'r rheiny gyd yn cydfyw mewn tensiwn hynod, hynod greadigol. Beth sy'n ddiddorol wrth siarad ag ef yw ei fod yn weddol ymwybodol o'r gwahanol ochrau yma i'w bersonoliaeth, ac mae'n gweld cysylltiadau cyson rhwng y cwbl comedi, ffydd a bywyd mae nhw gyd yn rhan o'r un rhwydwaith rhesymegol sy'n rhoi ystyr a siap realiti. Wrth wrando arno, mae'r cwbl yn dod at ei gilydd greu cymeriad unigryw a dadleuol iawn ar brydiau. Mae Ifan Gruffydd yn un sydd wedi llwyddo cyrraedd enwogrwydd, a hynny heb orfod gadael ei fro enedigol. Mae'n siwr fod ffraethineb naturiol cefn gwlad yn gefndir i'w yrfa fel comedïwr. Wrth siarad ag ef, does dim dwywaith fod ei blentyn- dod, byd o chwarae dychmygus ac o greu cymeriadau, yn feithrinfa bywsig i'w dalent amlwg bortreadu pobl. 'Roeddwn i'n unig blentyn ar y ffarm doedd dim llawer o blant eraill o gwmpas. Roeddwn i'n creu rhyw fyd fi'n hunan. Wrth edrych yn ôl, 'roedd rhaid fod gen i ddychymyg anhygoel .o'ni'n dueddol o greu ffrindiau o fewn sefyllfa arbennig, er enghraifft, wrth chwarae ffarm, creu dyn arall ar y ffarm neu was.' Mewn oes lle mae rhieni'n gwario cymaint ar deganau, tybed ydy plant hed- diw yn cael yr un cyfle ddatblygu'u dychymyg? 'Does dim byd yn lladd dychymyg yn fwy nag arian. Does dim byd gwell na chael mynd mas i chwarae a chreu chwarae roedd beic yn gallu troi'n fÿs neu drên, neu'n dractor-popeth.' Beth am y profiadau cyntaf o gomedi, pwy sy'n aros yn y cof fel dylanwadau? 'Dwi'n cofio mynd gyda'n rhieni i gyng- herddau i Dregaron unwaith neu ddwy dwi'n cofio parti Stag's Head a bois y Puwiaid yn gwneud eu comedi a'u sgetsus. O'n i tua wyth oed a dwi'n cofio dweud, fel mae plant yn dweud, 'dyna 'dwi am wneud!' Ond falle mae'r dylanwad mawr oedd y teledu yn dod i t9 ni pan o'n i tua deuddeg oed. Cyn hynny, allen i ddim dweud mod i'n deall yn iawn beth oedd comedi. Wrth sôn am ddyfodiad y teledu i'w gartref am y tro cyntaf, mae rhywun yn ym- wybodol fod ei rhyfeddod fel plentyn wrth wylio'r bocs hud yng nghornel y 'stafell yn dal yn fyw iawn iddo. Oes 'na rai rhag- lenni'n aros yn y cof? 'Dwi'n cofio gweld 'Sunday night at the London Palladium' a gweld comediwyr fel 'Steptoe and Son', Harry Worth' ffilmiau y 40au a 'r 50au ac yn arbennig yr 'Ealing Comedies' roedd 'na ryw 'atmosphere' iddyn nhw rhyw realiti iddyn nhw sydd ddim yn perthyn i ffilmiau 'nawr.' Ond beth amdano fe fel perfformiwr, oes na rhyw fath o gomedi sy'n apelio'n fwy na'i gilydd? 'Ambell waith, mae hi'n braf fod mewn cymeriad, er enghraifft, Idwal. Mae e'n gymeriad bach y'ch chi'n gallu edrych ar fywyd hollol o chwith mae'r byd yn od iddo fe a 'r byd yn ei weld e'nod ond mae e'n eitha normal yn ei lygad 'i hunan. Tasen i'n dweud 'ijôcs e, fydden nhw ddim yn ddoniol. Mae e'n dangos mor 'ridiculous' yw'r byd real, normal. ba raddau mae perthynas â'r gynulleid- fa yn rhan o gael comedi weithio? 'Mae na rhywbeth am fynd allan i ddi- ddanu cynulleidfa mae e wastad yn her ac yn hunllef y'ch chi'n twlu'ch hunan i bwll newydd bob tro. Mae rhyw awgrym fod na berygl yn per- thyn i'r perfformio byw sy'n creu cyffro a dychryn iddo ar yr un pryd. Ydy'r teledu fel cyfrwng, gyda'i sgriptio tyn a'i offer technegol, yn gallu torri ar draws y berthynas yna? I Ifan, mae 'na berygl deledu golli cysylltiad gyda'r gynulleidfa am fod byd y 'cyfryngau' a bywyd go iawn yn gallu bod mor wahanol. 'Mae 'na rai sy'n creu rhaglenni sydd heb fod "in touch" gyda realiti bywyd y Cymro cyffredin ac mae nhw'n fethiant ac mae teledu yn gallu sbwylio comedi os nad yw wedi ei gynhyrchu a'i gyfarwyddo'n ofalus. Wrth siarad ag Ifan, mae rhywun yn ymwybodol o bwysigrwydd a gwerth ei gynulleidfa iddo, fel petai e'n meddwl amdanyn nhw fel pobl yn hytrach na rhyw fôr o wynebau dienw. Ar ei orau, mae comedi yn gallu bod yn ddathliad o bobl ac o gymeriadau, hefyd yn gallu bod yn greulon iawn weithiau, yn gyfrwmg dyn- nu i lawr, fychanu pobl? 'Ydy, mae e' fel bywyd ei hunan. Un diwrnod, mae bywyd yn gallu bod yn hunllef i chi a diwrnod arall mae e'n gallu bod yn ddathliad. Po fwyaf wnewch chi eistedd i lawr a dadansoddi bywyd, mae bywyd yn greulon, yn hunllef. Petaswn i'n anffyddiwr heddiw bydden i'n meddwl fod bywyd yn "very bad joke". O’r diwrnod mae e 'n cael ei eni mae e' ar hewl marwolaeth mewn ffordd. Ta faint mor Iwyddianus y'ch chi, mae marwolaeth yn aros pawb.