Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Astudiaeth Feiblaidd Pobl Dduw (3) Rhedwyr Duw Cyflwyno'i neges mewn iaith ac arddull y bydd pobl yn eu deall yw cyfraniad pob cyfathrebwr da; cyfrinach na bu neb yn fwy o feistr arni na'r apostol Paul. Gwyddai ef yn dda am y chwaraeon Rhufeinig a Groegaidd ac am y diddordeb ysol ynddynt. I'r Rhufeiniaid ac i'r Groegiaid, fel ei gilydd, yr oedd chwaraeon yn ymylu ar fod yn grefydd, fel y mae 'rygbi' a 'phêl droed' yn ymylu ar fod felly yn ein gwlad ni. Pe bai Paul yn ysgrifennu heddiw, synnwn i ddim na fyddai'n troi'n aml ar dudalennau cefn ein papurau dyddiol am ei idiomau a'i eglurebau. Ac o fyd y chwaraeon y tynnodd un o'i ddelweddau mwyafbyw, bachog ac ystyrlon i gyflwyno'r hyn sy'n oblygedig yn yr ymadrodd 'pobl Dduw', sef delwedd y rhedwr. Enghraifft dda o'i ddefnydd o'r ddelwedd honno yw ei gyffes yn y drydedd bennod o'i Lythyr at y Phüipiaid; 'Yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gau Grist Iesu nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu, ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.' A bwrw y dymunid cael crynodeb cynhwysfawr o bererin- dod ysbrydol Paul, byddai'n anodd taro ar ddim rhagorach na'r hyn a geir yn y bennod hon. Crynhoi, ynddi, medd un esboniwr, ei orffennol (1-11), ei bresennol (12-16) a'i ddyfodol (17-21). Ar ddechrau'r bennod fe'u cyflwynir i Paul 'y cyfrifydd' a 'gyfrifai bob peth yn golled ac bwys rhagoriaeth y profiad a adnabod Crist Iesu ei Arglwydd' (79); ac ar ei diwedd gwelir Paul 'yr estron', â'i 'ddinasyddiaeth yn y nefoedd yn disgwyl y Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist' (20-21), ac ar ganol y bennod cyfarfyddwn â Paul, y rhedwr, 'yn cyflymu at y nod i ennill y wobr' (14-45). Wrth ddarllen ei ddisgrifiad ohono'i hun fel rhedwr ni ellir peidio â theimlo ei fod yn ysgrifennu ar ras gan gyflymed y symuda o gymal i gymal. Y mae'r disgrifiad yn un byw eithriadol, fel sy'n gweddu wrth ddisgrifio rhedwr, ac yn ymrannu'n rhwydd fel hyn: (1) Y Cymhelliad i redeg; (2) Cyfarwyddyd ar sut i redeg, ac yn (3) y Clod am redeg. Sylwn, yn y rhifyn presennol, ar y pen cyntaf, a chwblhau yr astudiaeth yn y rhifyn nesaf. Y CYMHELLIAD I REDEG Serch bod y Gredo Olympaidd swyddogol yn pwysleisio nad ennill oedd y brif gamp yn y chwaraeon ond ymroi i gymryd rhan ynddynt, mae'n anochel bron fod meddwl a bryd pob cystadleuydd ar gipio'r wobr, ac, o'i chipio, ennill clod ac anrhydedd nid iddo ef ei hun yn unig ond hefvd i'w deulu a'i ddinas. Pan ddychwelai adref byddai hynny i sŵn banllefau ac i gyffro cyhwfan baneri. Ai'r darlun hwnnw, tybed oedd gan Pedr yn ei feddwl wrth ysgrifennu, 'y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein _E. Stanley John Eric Liddell Harglwydd a'n Gwaredwr Iesu Grist' (2 Pedr 1:11), a chan Paul wrth ein rhybuddio 'bydd yn rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw' (Rhuf. 14:10). Mae'n ddiddorol nodi mai'r gair Groeg 'bema' a gyfieithir vn 'frawdle' oedd vr union air a ddefnyddiodd am y man lle safai'r dyfarnwyr yn y chwaraeon olympaidd i dderbyn y buddugwyr ac i rannu iddynt eu gwobrau. Profiad cyffrous i'r Cristion yw rhedeg 'yr yrfa sydd o'i flaen' (Heb. 11:12), eithr mwy cyffrous fyth y profiad o sefyll gerbron y 'bema' a derbyn oddi ar law yr Arglwydd Dduw, y Barnwr cyfiawn, 'dorch anllygredig a roddirn am gyfiawnder' (2 Tim. 4:8). Yn ddiau, yr oedd meddiannu'r profiad hwnnw, ac ennill v dorch yn gymhelliad cryf i Paul i 'redeg yr yrfa i'r pen, ac i gadw'r ffydd' (2 Tim. 4:7). Nid yw'r wobr i'w diystyru. Er y myn rhai nad er mwyn y wobr y rhedant ac yr ymdrechant. nid oedd ar Paul gywilydd i gydnabod ei fod yn rhedeg amdani. 'Oni wyddoch', meddai 'am y rhai sy'n rhedeg mewn ras eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Fel hwythau rhedwch i ennill. Y mae pob mabolgampwr' yn rhedeg 'er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae gennym ni un anllygradwy' (1 Cor. 9:24, 25); hynny yw, y mae'r dorch sy'n wobr cyfiawnder yn un nad yw ei dail yn gwywo. Ond yn nefnydd Paul o'r gair 'ennill' nid oes awgrym o drechu eraill a chael y blaen arnynt. Cydweithrediad ac nid cystadleuaeth sy'n nodweddu'r rhedegfa Gristionogol; cytgan ydyw ac nid unawd. Yn y rhedegfa hon nid oes neb yn colli oherwydd yr un wobr sydd i bawb 'fydd wedi rhoi eu serch ar ymddangosiad Duw' (2 Tim. 4:8). Dyma sicrwydd y fendith i bawb sydd â'u hymddiriedaeth yn Nuw, sy'n arfer hunan ddigyblaeth arnynt eu hunain, ac sydd, ar waethaf pob caledi, yn ymdrechu'n lew i gadw'r ffydd.