Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymhelliad pellach i Paul i redeg yr yrfa oedd ei statws yntau, a statws y Philipiaid hwythau, fel dinasyddion dinas Duw. Y cefndir i'r gair 'dinasyddiaeth' (Groeg, 'politeuma', y daw'r gair Saesneg 'politics' ohono) yw safle'r Philipiaid fel dinasyddion Rhufeinig, ond sydd â'u henwau ar lechres dinas Duw. Fel dinasyddion trefedigaeth Rufeinig yr oedd iddynt eu braint a'u cyfrifoldeb, ond mwy felly eu braint a'u cyfrifoldeb fel 'cyd-ddinasyddion â'r saint ac aelodau o deulu Duw' (Eff. 2:19; gw. Heb. XI:13; Iago 1:1; 1 Pedr 1:1)- dinasyddion yn cydnabod sofraniaeth Brenin y brenhinoedd, Hawliau Coronog y Gwaredwr. Yn ôl rheolau'r chwaraeon Groegaidd ni allai neb gystadlu ynddynt oni byddai'n ddinesydd Groegaidd. Braint y dinesydd oedd cystadlu. Cydiodd Paul yn y rheol honno a'i chymhwyso ato ef ei hun fel dinesydd y nefoedd yn meddu ar yr anrhydedd o fod yn un o redwyr Duw. Nid i unrhyw rinwedd ynddo'i hun, fel y cyfryw, y priodola Paul yr anrhydedd hwn, ond i'r ffaith iddo gael ei feddiannu (ei arestio) gan Grist, a'r meddiannu hwnnw fod yn gymhelliad iddo yntau 'feddiannu'r peth hwnnw y cafodd ar ei fwyn ei feddiannu gan Grist Iesu'. Byddwn yn cyfeirio weithiau, ac yn iawn felly, at ein hymchwil ni am Dduw, ymchwil y mae iddo anogaeth yn yr ysgrythurau Sanctaidd: 'Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael ef, galwch arno tra bydd yn agos' (Eseia 50:6); 'pan chwiliwch â'ch holl galon, fe'm cewch', medd yr Arglwydd (Jeremeia 29:13, 14). Y mae'r pwyslais hwnnw yn rial yn yr Ysgrythurau, ond mwy syfrdanol fyth yw'r pwyslais yn yr un ysgrythurau, sef bod Duw yn ein ceisio ni cyn inni erioed feddwl am ei geisio ef Yn rhagflaenu pob dim a wnawn ni, a phob dim a ddymunwn ni, y mae gras achubol Duw yng Nghrist. Dyma'r gwirionedd aruthrol yn Nameg y Ddafad Golledig ac yng ngerdd ryfeddol Francis Thompson, 'The Hound of Heaven'. Gedy'r Bugail Da y defaid cysurus a ffortunus ar eu porfa, a mynd allan i'r mynydd i geisio'r ddafad sydd ar goll. Ac yn ei gerdd yntau, disgrifia Francis Thompson, 'Heliwr y Nef (Duw), A dysgynnwrf gam Ac â dilestair lam yn ymlid enaid ac ffo rhaddo ef. 'A'r cariad dwyfol a orfu'. Ac onid dyna yw tystiolaeth ein profiad ni, a phrofiad saint y canrifoedd Cristionogol. Wrth fwrw trem yn ôl dros ein bywyd a'u hanes, pwy ohonom, hola John Baillie, a all, yn onest, ei ddisgrifio fel ymchwil awchus am Dduw. Ai ni a fu'n curo wrth ddrws Duw, neu ai Duw a fu'n curo wrth ein drws ni? Ai ni a fu'n chwilio amdano Ef, neu ai Ef a fu'n chwilio amdanom ni? A ganwn ni am ein cyflawniadau ni ein hunain, neu a ganwn am ei rodd rasol Ef? I'r cwestiynau hynny nid oes ond un ateb. Wrth geisio gweld dy wyneb, gwelais gur Dy ddyfal ymchwil am fy enaid i; Nid fi a'th geisiodd Di, fy Ngheidwad pur- Na, Ti a'm ceisiodd i. Nid yr fy meidrol rawd yn hyn o fyd Ond ateb, Arglwydd, i'th gymhellion Di; Cans ni bu dydd na chedwaist f enaid drud Erioed, fe'm ceraist i (cyf M. Loader o benillion Saesneg)