Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEFWCH I GAEL EICH RHIFO Y geiriau uchod yw teitl llyfr a ddarllenais yn ddiweddar wedi'i gyhoeddi gan Ymgyrchoedd Gofal (Care Campaigns), ac y mae'n rhaid imi ddweud imi gael budd a bendith fawr o'i ddarllen. Fel y dywed y golygyddion, llyfr yw hwn ar gyfer y Cristion sy'n credu mai marw yw ffydd heb weithredoedd (Iago 2:26), ac sydd yn llawn consyrn am bobl eraill ac am ansawdd eu bywyd. Mewn gair, y Cristion sy'n barod i sefyll gael ei rifo, gan wybod mai ei fraint a'i gyfrifoldeb yw manteisio ar bob cyfle a ddaw i'w ran i wasanaethu ei gyd-ddynion. Yn y hinsawdd grefyddol sydd ohoni, heb unrhyw argoel o adfywiad ysbrydol yn ein tir, aeth llawer o Gristnogion i dybio na ellir disgwyl rhagor ganddynt na pharhau yn ffyddlon i'w heglwysi, a cheisio cadw'r drws ar agor, hyd nes y gwêl Duw yn dda dywallt ei Ysbryd arnynt. Yn y cyfamser, nid ymddengys eu bod yn llawn sylweddoli un o ofynion sylfaenol yr Efengyl sanctaidd sy'n rhoi'r pwyslais ar ddwyn ffrwyth mewn bywyd yn ôl dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu ei Hunan. Aethpwyd i feddwl am Dduw yn nhermau cyflawni defodau crefyddol yn unig a chadw'r rheini ar wâhan i fywyd yn gyffredinol; i gyfyngu Duw i'w gyfamod â'i gredinwyr, gan anghofio mai Arglwydd y cread cyfan yw Ef, bod ei gonsyrn Ef am holl genhedloedd byd, i fod yn Dduw nid cyfiawnhad yn unig, ond cyfiawnder hefyd. Gan fod y gorchymyn mwyaf oll yn ein cymell i garu Duw ac i garu cyd-ddyn, ni ellir cyflawni'n naill heb y llall. Mae esiampl yr Iesu ei hun yn ddigon o brawf o hyn. Daeth Ef i blith dynion i gydymddwyn â hwy yn eu hanghenion a'u gwasanaethu, gan fyned o amgylch gan wneuthur daioni. Mae'r iachawdwriaeth fawr yng Nghrist yn golygu anrhaethol fwy nag achubiaeth bersonol. Golyga hefyd ddyfodiad teyrnas nefoedd ar y ddaear a gweithredu ffydd a chariad yn gyffredinol yn holl amgylchiadau bywyd. CLWB CREFYDDOL Mae'r Eglwys heddiw mewn perygl o gael ei hystyried fel clwb crefyddol, a'i haelodau heb sylweddoli bod iddi hunaniaeth ddwbl. Pobl wedi'i galw allan o'r byd yw'r Eglwys, ond mae hi hefyd i ddychwelyd i'r byd i wasanaethu dynion ac i dystiolaethu i'w Phen a alwodd arni i fod yn halen y ddaear ac yn oleuni i'r byd. Ni all dyn honni bod yn Gristion mewn gwirionedd oni theimla yn ei galon dosturi angerddol at y byd yn ei angen a'i wae ac awydd dilys am fod o wasanaeth ymarferol i'w gyd-ddynion. Ond y drwg yw bod cynifer yn honni eu bod yn rhy analluog neu ddiymadferth i wneud dim, gan bledio, fel Moses gynt, na allant byth gyflawni'r gwaith y mae Duw yn galw arnynt i'w wneud. Tra bo llawer yn cydnabod bod angen gwneud rhywbeth i helpu eu cyd-ddynion, ac, yn barod i fod o wasanaeth, nid ydynt mor siwr y dylai'r Eglwys ymhel â gwleidyddiaeth. Yn hyn o beth tueddant i fod o'r un farn â rhai o'n gwleid- yddion, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli'r adain dde. Nid pregethu'r Efengyl bur yn unig a wnai John Wesley ond MORGAN D. JONES William Wilberforce larll Shaftsbury taranu hefyd yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol. Yn y ganrif ddiwthaf gwnaed llawer gan Gristnogion trwy gyfrwng gwrthdystio, dadlau cyhoeddus, a gweithredu cymdeithasol i wella amodau byw dynion. Nid oes ond rhaid meddwl am ddynion fel Wilberforce, Shaftsbury, George Muller a Robert Owen i weld cymaint y gall un dyn ei wneud i wella amgylchiadau ei gyd-ddynion. Eithr yn yr ugeinfed ganrif, o ganlyniad i'r ddau ryfel byd a'r dirwasgiad, fe gollodd yr Eglwys lawer o'i dylanwad ar gymdeithas. Yn ail hanner y ganrif, fodd bynnag, yn enwedig ymhlith ein pobl ieuainc, gwelwyd yr awydd am wneud rhywbeth ymarferol ynglyn â phroblemau fel cydraddoldeb hiliol, rhyddid yr unigolyn, a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng gwasanaethu cymdeithasol a gweithredu cymdeithasol. Diben gwasanaethu cymdeithasol yw llinaru dioddefaint ac adfyd dynion a gweini arnynt yn eu hangen. Diben gweithredu cymdeithasol yw ceisio dileu yn eu gwraidd y drygau hynny sy'n blino dynion trwy ddulliau gwleidyddol ac economaidd a thrwy newid strwythur cymdeithas. Rydym yn gyfarwydd â'r dywediad mai gwell yw dysgu dyn sut i bysgota na rhoi pysgodyn iddo. CYMHELLION GORAU Yn hyn o waith mae'n hollol bwysig fod y Cristion yn cael ei danio gan y cymhellion gorau. Y cymhelliad pennaf, wrth gwrs, yw ceisio efelychu esiampl Crist ei Hun a wasanaethai bawb yn ddiwahân. Yn yr ail Ie, gofynnir i'r Cristion gyflawni'r gwaith yn gwbl ostyngedig ac anhunanol, yn wahanol i'r Phariseaid a utganai o'u blaen. Yn drydydd, dylai'r Cristion ofalu fod ei ffydd yn dwyn ffrwyth yn unol â dysgeidiaeth Iesu ac anogaeth Iago. Yn bedwerydd, dylai ei gweld yn fraint ac yn ddyletswydd arno ddefnyddio'r doniau a roddodd Duw iddo i wasanaethu ei gyd-ddynion. Pa un a ydyw'r ddawn sydd ganddo yn fach neu yn fawr, dylai ei defnyddio hyd eithaf ei allu yng ngwasanaeth ei Arglwydd, a bod yn sianel i'w gariad a'i ras Ef.