Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wel, meddai rhywun, sut mae mynd ati, a ble mae dechrau? Yr ateb amlwg, wrth gwrs, yw mai wrth ei draed y dylai'r Cristion ddechrau trwy fod yn ymwybodol o anghenion y gymuned y mae'n digwydd byw ynddi. Braint a chyfrifoldeb yr Eglwys yw dilyn esiampl ei Meistr trwy dosturio wrth y byd o'i hamgylch yn ei angen a mynd allan i weini arno. Dywedodd diwinydd enwog (ai Karl Barth?) y dylai'r Cristion ddal ei Feibl yn y naill law a'i bapur newyddion yn y llall yn feunyddiol er mwyn gweld ac ystyried anghenion a phroblemau'r byd yng ngoleuni'r Gair. Dywedodd diwinydd enwog dylai'r Cristion ddal ei Feibl yn y naill law a'r bapur newyddion yn y llall er mwyn gweld problemau'r byd yng ngoleuni'r Gair Y cam nesaf yw gweddïo am nerth ac arweiniad yr Ysbryd Glân er mwyn inni weld beth y gallwn ei gyflawni. Mae'n bwysig wedyn inni ddod i gysylltiad â Christnogion o eglwysi ac enwadau eraill, i gydgasglu adnoddau, ac i gefnogi ein gilydd mewn gweddi a gwaith. Yn olaf, mae'n bwysig ein bod yn dal i ehangu'n gorwelion. Yn rhy aml tuedda Cristnogion i gyfyngu eu sylw i'r problemau hynny'n sy'n codi yn eu heglwys neu eu cymuned eu hunain, gan anghofio ei bod yn ddyletswydd Cyhoeddiadau Gwasg Pantycelyn IOLO MORGANWG ceri w. LEWIS Astudiaeth drwyadl o waith a meddwl Iolo Morgannwg. Trafodir yr holl agweddau ar gynnyrch y bardd a'r ysgolhaig rhyfeddol hwnnw a theflir goleuni newydd ar ei bwysigrwydd yn hanes ein llên. Cyflwyniad anhepgor i waith llenor unigryw. Pris: £ 10.95. SACHAID O STRAEON BRENDA WYN JONES Y gyfrol gyntaf yng nghyfres Llyfrau Pen-blwydd. Llond sach o storÏau i'w darllen a'u mwynhau gyda phlant oddeutu chwech oed. Gwaith hen law! Darluniau byw gan Dafydd Morris. Pris: £ 4.95. Y GRAGEN JOHN REES JONES (ar gael erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol) Nofel gelfydd a deallus yn ymdrin â gwewyr prifathro a'i ymgais i adfer iechyd meddwl. Gwaith a ddaeth yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau 1995. Pris: £ 4.95. CAERNARFON Ffôn arnynt gymryd anghenion yr holl fyd i ystyriaeth. RHAI MEYSYDD Dyma rai o'r meysydd a nodir yn y llyfr: gofal am yr henoed, problem unigrwydd, teuluoedd un rhiant, dyled, yr amgylchedd, tai, y digartref, yr anabl, diweithdra, problem cyffuriau. Rhoddir pwyslais arbennig ar gyfrifoldeb y Cristion i chwarae rhan amlwg a buddiol ym mywyd ei gymuned trwy gysylltu â'r ysgolion a bod yn aelod o'r gymdeithas rhieni- athrawon, neu'n llywodraethwr; trwy fod yn aelod o blaid wleidyddol (yn unol â'i gred Gristnogol) neu'n gynghorydd lleol, a thrwy ddefnyddio'r cyfryngau i roi cyhoeddusrwydd i waith yr Eglwys a'r farn Gristnogol ar faterion y dydd. Heblaw hynny ceir awgrymiadau gwerthfawr ynglyn â'r hyn y gall yr aelod unigol ei wneud ar ei liwt ei hun i wasanaethu ei gyd-ddyn, megis ymweld yn gyson, gwneud cymwynas, megis siopa dros arall, codi'r ffôn, ysgrifennu llythyr, a gwahodd rhywun i rannu pryd o fwyd. Yn hyn oll rhoddir pwyslais neilltuol ar yr angen am weddïo i ofyn am fendith ac arweiniad Duw ar y gwaith a gyflawnir, gan gwbl gredu bod ganddo Ef allu i newid dynion ac amgylchiadau. Da o beth fyddai gweld ein heglwysi'n mynd at i ddarllen a thrafod cynnwys y llyfr gwerthfawr hwn. Mae'n hwyr bryd inni sefyll a chael ein rhifo.