Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

uiihfif 0 gyfranwyr Fhîffyira Omnm Gweinidog Ebeneser, Eglwys y Bedydd- wyr, Rhydaman, yw John Talfryn Jones ac yn fardd cadeiriol Eisteddfod Môn. Brodor o'r Bala yw'r Dr. Dewi Arwel Hughes. Cyn ei benodi'n Gyfarwyddwr Addysg Ddiwinyddol gyda Tear Fund, bu'n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Cref- yddol, Prifysgol Morgannwg. Mae'r Dr. Alun Tudur newydd ddechrau ar ei weinidogaeth yn Ebeneser, Egiwys yr Annibynwyr, Caerdydd. Cyn hynny bu'n gweinidogaethau yn Wrecsam. Mae'r Dr. R. Geraint Gruffydd yn gyn- Athro'r Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn gyn-Lyfrgellydd Cenedlaethoi. Bu'n gyfarwyddwr Canolfan Uwch Efrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru hefyd. Gweinidog gyda'r Wesleaid oedd E.H. Griffiths cyn ymddeol. Mae'n byw bellach yn Y Rhyl. Mae Euros Wyn Jones ar Staff Coleg Unedig yr Annibynwyr, Aberystwyth. Eryn M. White Praidd Bach y Bugail Mawr Seiadau Methodistaidd De- Orllewin Cymru. Gomer 1995, £ 12.95. OOSDBD LLANFAIR-YM-MUALLT 1743 Bodiwn â pharch gofnodion yr hen gynghorwr prudd am stad eneidiau'r seiat yn Llanfair 'slawer dydd. Evan, dyddynnwr gwarrog, er cefnu ar bethau bas ei ienctid anghyfrifol, yn para'n wan mewn gras. Mali Tŷ Brith, a ddaethai trwy'r 'bwlch' ym more'i hoes, yn dwyn yn awr holl flagur yr Ysbryd yn ei moes. Elinor Ann, yn rhodio y llwybyr cul yn gry', a'r anterliwt a'r mabsant ymhlith y pethau a fu. mxmM2M Mae un yn croesawu gwahoddiad adolygu rhai llyfrau yn fwy brwdfrydig. Roeddwn yn falch iawn pan gefais wahoddiad adolygu'r llyfr arbennig yma. Y rheswm dros fy mrwdfrydedd yw'r argyhoeddiad ein bod yn gwybod rhy ychydig o lawer am hanes a natur y Seiat Fethodistaidd sy'n un o'r sefydliadau mwya creadigol yn hanes yr eglwys yng Nghymru. Yn ddiw- eddar roeddwn yn teithio o gwmpas rhannau o Loegr hefo un o arweinwyr dylanwadol yr eglwys Brotestannaidd yn Ne America. Y mae'n amlwg bawb erbyn hyn bod y Diwygiad Protestannaidd wedi cyrraedd y rhan fwya o America Ladin. Problem lawer o arweinwyr eglwysig Protestannaidd yw beth i'w wneud hefo'r holl ddychweledigion sy'n heidio i'w heglwysi. Y mae rhai ohonynt yn troi am help at hanes y Diwygiad Efengylaidd yn y ddeunawfed ganrif. Cant yn y 'bands' Wesleaidd batrwm o ddisgyblu diwygiad sy'n berthnasol iawn o hyd. Y ffurf Gymreig ar y 'bands' yw'r seiat. Gyda'r sôn am ddiwygiad ym Mhyrdain hefyd y dyddiau HEN LYFR SEIAT Tomos, gyfrwywr medrus, er llonder pawb, yn ôl yng ngwres y seiat wlithog o'i faith wrthgiliad ffôl. William y gof cyhyrog, 'r ôl ymgyndynnu cyd, yn rhydd yn awr o rwymau Diafol, y cnawd a'r byd. Mawryger hwy! Gwerinos streifus, ddi-ddysg a thlawd, a gyrchai yma'n gyson er gwaetha'r llach a'r gwawd. Cans onid da y gwyddent mai'r broblem fyth yw dyn, heb neb a all ei setlo holl ddyddiau'r hil, ond Un? JOHN EDWARD WILLIAMS hyn mewn cysylltiad â'r hyn a elwir yn 'fendith Toronto' prysured y dydd pryd y bydd yn rhaid ninnau ddechrau meddwl am beth i'w wneud hefo dychweledigion. Byddai gwybod rhywbeth o hanes a natur y seiadau yn siwr o'n helpu mewn sefyllfa o'r fath. Dyma esbonio fy mrwdfrydedd felly; credaf fod gwerthfawrogi arwyddocad y seiat yn baratoad pwysig ar gyfer adfywiad ysbrydol. Beth felly am gynnwys llyfr Eryn White? Mae'r gwaith yn seiliedig ar draethawd doethuriaeth ar y seiadau yn Ne-Orllewin Cymru rhwng 1737-50. Deunydd o'r cyfnod yma yw asgwrn cefn y gyfrol ond mae'n tynnu ar ddefnyddiau o'r tu allan i'r cyfnod yma hefyd. Mewn chwech pennod mae'n trafod lleoliad y seidau, eu harweinwyr, yr aelodaeth, 'Natur Apêl y Mudiad', 'Disgyblaeth a Threfn' ac yn olaf Treialon ac Erlid.' Mae nifer o fapiau a graffiau diddorol a defnyddiol yma a thraw trwy'r gyfrol. Ceir nifer o luniau du a gwyn o ansawdd canolig hefyd. Ar ddiwedd y gyfrol mae dau atodiad yn rhestru'r seiadau a rhai