Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o'i harweinwyr cynnar, llyfryddiaeth ardderchog a mynegai defnyddiol. Y mae yma doreth o ddeunydd ffres a diddorol yn y gyfrol. Ond mae'n gadael rhywun hefo cwestiynau hefyd. Yn y bennod gyntaf ar 'Leoliad y Seiadau' mae'n dangos yn glir mai mudiad gwledig ac nid trefol oedd Methodistiaeth ar y cychwyn. Mae'n cynnig nifer o resymau am hyn megis erledigaeth neu ddiffyg adlon- iant yng nghefn gwlad. Mae peth tystiolaeth i'r rheswm cyntaf ond damcaniaethu arwynebol iawn yw'r ail. Y syndod mi yw nad yw wedi cymryd ystyriaeth mai cymdeithas wledig oedd Cymru ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Wn ddim faint o dystiolaeth ddemograffig sy ond mae'n bur sicr y byddai mwyafrif llethol y boblogaeth yn byw yng nghefn gwlad yn 1735. Byddai hyn yn sicr o greu persbectif gwahanol iawn i'n heiddo ni sy'n byw ar ôl y Chwyldro Diwydiannol pan symudodd fwyafrif llethol y boblogaeth i'r trefi. Byddai edrych ar yr hyn sy wedi digwydd i'r eglwys mewn gwledydd fel Uganda neu Kenya yn ystod yr hanner can mlynedd dwethaf yn rhoi syniad da ni o awyrgylch Cymru'r Diwygiad Methodistaidd. Yn yr ail bennod ar yr 'Arweinwyr a Chynghorwyr' rhoir y sylw mwya i'r arwein- wyr amiwg megis Harris, Rowland a Hywel Davies. Mae hyn yn naturiol gan mai nhw sy wedi gadael mwya a olion ar eu hol. Troi gwair sy wedi ei droi yn drwyadl o'r blaen wneir yma. Ond d'oes dim dewis arall gwaetha'r modd gan nad oes digon o ddeunydd roi cnawd ar esgyrn y wybodaeth sy gennym am y y llu o gynghorwyr a stiwardiaid oedd yn cynnal y gyfundrefn seiadol o ddydd ddydd. Hwyrach y bydd casgliad y drydedd bennod ar 'Aelodaeth y Seiadau' yn peri syndod Pobl yn perthyn haenau canol cymdeithas oedd mwyafrif yr aelodau' [t.1 1 1]. Tybed? Daw i'r casgliad yma ar sail ewyllysiau nifer bychan iawn o'r aelodaeth gyfan yn y cyfnod 1737-50. Mae'r nifer bychan o ewyllysiau ynddo'i hunan yn dystiolaeth yn erbyn y casgliad uchod. Rwyn parhau gredu mai gweision a morynion cyffredin iawn oedd rhan fwya'r aelodau ar y cychwyn. Mae'r syniad mai rhywbeth i'r bobl gweddol gyfforddus eu byd oedd Methodistiaeth yn cael ei awgrymu hefyd yn y bumed bennod ar 'Ddisgyblaeth a Threfn'. Mae hyn yn enghraifft o wendid pennaf y gyfrol mae'r awdur wedi casglu toreth o wybodaeth ond mae'n wan yn aml pan geisia esbonio. Enghreifftiau o'r gwendid yma yw'r ddadl fod Methodistiaeth wedi lwyddo yng nghefn gwlad am nad oedd yno gymaint o adloniant ag yn y trefi a'i fod yn apelio at bobl fwy cysurus am ei fod yn rhoi pwyslais ar weithio'n galed ac yn y blaen. Nid bod rhywun yn beio'r awdur am hyn oblegid y cyfan a wna yw dilyn ffasiwn gyfoes ei disgyblaeth sy'n deddfu na ellir cymeryd rhesymau crefyddol dros weithredu ystyriaeth. Felly rhaid dod o hyd reswm economaidd, cymdeithasegol neu seicolegol esbonio unrhyw ffenomenon. Ni ellir cymryd yr ysbrydol o ddifri. Byddaf yn troi at y gyfrol yma drachefn a thrachefn rwyn sicr oblegid cyfoeth y wybodaeth sy ynddi ond mae angen astudiaeth arall, sy'n fwy ymwybodol o'r cyd-destun rhyng-genedlaethol cyfoes ac yn y ddeunawfed ganrif, i roi esboniad mwy boddhaol o natur ac arwyddocad y seiadau. DEWI ARWEL HUGHES, Cerddi Mathafarn, Dewi Jones, Gwasg Pantycelyn, 1994, £ 3.95 tt. 96. Casgliad o waith Dewi Jones neu Dewi Mathafarn fel y'i hadwaenir yng Ngwynedd -dyna yw'r gyfrol Cerddi Mathafarn. Os goddefwch rhyw bwt o fywgraffiad, fe ddywed ar y clawr cefn iddo dderbyn ei addysg yn Ysgol Ty'n-y- gongl, Ysgol Ramadeg, Llangefni, a'r Coleg Normal, Bangor. Bu'n athro yng Nghemaes a Llanfairpwll ym Môn, ac yn ddiweddarach fe'i apwyntiwyd yn Brifathro Ysgol Goronwy Owen. Credwch fi, mae rhywbeth hynod am Fôn. Mae 'na ryw swyn yn perthyn iddi, ac mae'n bendithio rhai o'i phlant â doniau rhyfeddol. Un o'r plant hyn, heb amheuaeth, yw Dewi Mathafarn, a bellach fe'i hadwaenir trwy Gymru benbaladr fel enillydd haeddiannol Medal Syr T.H. Parry Williams Er Clod yn Eistedd- fod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994. Gwr hynaws ydyw, a diymhongar hefyd. Ond nid am hynny rwy' am sôn. Yr hyn a ofynnwyd imi ei wneud ydyw rhoi gwerth- fawrogiad (byr) o'r gyfrol. Bûm yn meddwl am ychydig mai'r ffordd orau mi ddweud fy mhrofiad o'i darllen ydyw disgrifio'r teithiau yr euthum arnynt ar ei thudalennau hi. Mae'r bardd yn mynd â ni Lannau Menai (tud. 22), Benmon (tud. 43), yna i ben Mynydd Bodafon (tud. 22), at Nant y Pandy (tud. 85), nifer o leoedd eraill gan orffen ar y Stryd Fawr (tud. 77) pa Stryd Fawr fyddai honno tybed? Llangefni? Caergybi? Bangor? Fyddwch yn ei had- nabod yn dda, gan ei bod fel pob stryd fawr arall trwy'r wlad yn llawn prysurdeb a rhuthr, ond yn ddi-enaid, ac amhersonol. Fe â'r bardd â ni wedyn ar hyd llwybr natur, weld gwe pryf cop yn y coed Pryf Copyn (tud. 17), a Phiod y Môr yn hedfan fel be baent mewn angladd (tud. 11). Gwelwn ar hyd y llwybr diddorol hwn y Fronfraith (tud. 40) a'r Dryw (tud. 12), a nifer o anifeiliaid eraill, a phob un yn gwneud ein taith mor ddiddorol. Mae gan y bardd gerddi Crefyddol, rhai sydd yn dilyn llwybrau calendr y flwyddyn o'r Nadolig i'r Pasg, a cherddi eraill â naws emynyddol cryf iddynt. Gwn y gosodwyd un ohonynt, sef Tyn fi Atat (tud. 46) i'r emyn dôn 'Bro Cefni', gan Emyr Jones tôn a fu'n fuddugol yn Eisteddfod Môn ac fe'i cynhwyswyd mewn rhaglen Cymanfa Ganu ym Môn y llynedd. Ar y tudalennau hyn hefyd cawn loitran yn nghwmni dau o'r cymeriadau y mae'r bardd hwn wedi canu iddynt, pobl fel Richard Davies (tud. 44), a Gruffudd Roberts Braich Ddu (tud. 28). Disgrifiwyd un o'i gerddi, Distawrwydd (tud. 32) yw honno, fel 'un sy'n haeddu ei lle mewn unrhyw flodeugerdd o oreuon cerddi'r ugeinfed ganrif'. Cymerwch y soned 'Penmon' y soniais amdani gynnau fach. Mae'n dweud rhywbeth fan yna sydd fel gwireb. Mae pawb ohonom wedi sylwi ar y peth, ond am ei ddweud, mae hynny'n rywbeth arall. Mae'r bardd yn dweud wrthym nad oes dim byd yn para, mewn gwirionedd, er eu bod yn ymddangos yn ddigyfnewid. Ein hiraeth ni am ddihangfa yn oes aur ein doe sydd yn creu ynom ni ein hunain y teimlad nad oes dim yn newid, ond tywyll yw hynny. Wrth iddo edrych ar Draeth Penmon, gwêl y bardd hwn ei fod yn wir mai'r un yw'r traeth heddiw â ddoe, ond nid yr un yw'r tonnau (ac mae traeth Penmon yn garegog iawn!). Mae'r llinell "Run ffynnon gyfrin ond nid hwn yw'r dwr' yn adlais perffaith o Soned R. Williams Parry, 'Ymson ynghylch Amser': Hon ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dwy A foddodd Ddafydd Ddu (Cerddi'r Gaeaf) 'Rwy'n gobeithio, gyda hyn o nodyn, eich bod wedi'ch symbylu fynd allan brynu'r gyfrol hon. Clawr meddal sydd arni, a'i phris yw £ 3.95. Gallaf eich sicrhau y bydd gwledd yn eich aros o'i darllen hi: Bythgofiadwy arlwyon, O wir faeth gan wr o Fôn! JOHN TALFRYN JONES