Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Etifeddiaeth Ragorol, Myfyrdod ar ddetholiad o'r Salmau gan Gareth Lloyd Jones (Cyhoeddiadau'r Gair, 1995) E7.95. Pa ffordd bynnag yr edrychir ar y gyfrol hon y mae'n gynhyrchiad hardd iawn. Trowch ei thudalennau ar antur ac fe'ch swynir gan ei diwyg, ei horgraff lân, y lluniau deniadol sydd mor gynorthwyol i'r testun, a'r golygu a'r is-olygu dengar sy'n hudo llygad y darllenwr at y testun. Ac mae'r cyfan wedi ei argraffu ar bapur o ansawdd sy'n rhoi graen a sglein ar y gyfrol. Byddai'r ystyriaethau hyn gyd yn ofer pe bai'r cynnwys yn siomi; byddai hynny fel pregethwr hardd ei berson, trwsiadus yr olwg, yn sefyll mewn pulpud gerbron cynulleidfa ddisgwylgar ac yntau heb ddim byd i'w ddweud. Ond nid felly yn hanes y gyfrol hon: mae sylwedd y gyfrol yn gweddu'n briodol i'w diwyg. Gwell imi geisio egluro beth yw natur cynnwys y llyfr. Aeth Gareth Lloyd Jones ati osod gerbron ei ddarllenwyr, destun 33 o Salmau'r Hen Destament. Yn eu plith y mae llawer o'r hen ffefrynnau, darnau porffor y Sallwyr a fu'n gynhaliaeth bobl Dduw mewn llawer oes. Ond mae ambell Salm arall, sydd heb for mor gyfarwydd, yn ennill ei phlwyf yma hefyd. Dethol a wnaeth yr awdur felly, ac 'roedd hynny'n anorfod. Dethol a wnaethai Gwilym H. Jones a Robert Beynon, ac eraill, wrth drafod cynnwys y Salmau gerbron Ysgolion Sut Cymru, am eu bod dan orthrwm gofod ac amser. Ac y mae'r awdur hwn eto wedi dangos fod ganddo reddf sicr ddethol yn ystyrlon. Fel y mae'r is-deitl yn egluro, myfyrdod ar ddetholiad o'r Salmau yw cynnwys y gyfrol. Nid fel esboniad y'i bwriadwyd. Pe bai angen esboniad ar ddetholiad o'r Salmau byddem yn troi at gyfrol yr Athro Gwilym H. Jones, Cerddi Seion a gyhoedd- wyd ym 1975. Mae bwriad y ddwy gyfrol yn wahanol. Esbonio'r testun Beiblaidd oedd pennaf fwriad Cerddi Seion, gellir tybio. Os llwyddwyd wrth wneud hynny ysbarduno myfyrdod, bu hynny'n elw. Ond cyflwyno myfyrdod ar gynnwys rhai o Salmau'r Hen Destament oedd bwriad awdur y gyfrol Etifeddiaeth Ragorol, nid ymdrin â manion esboniadaeth. Er hynny, dengys Gareth Lloyd Jones yntau ei fod yn hyddysg yn nirgelion esboniadaeth Llyfr y Salmau, ac y mae'n gosod y myfyrdodau hyn yn ddiogel yn eu cefndir cysefin o fewn addoliad cenedl Israel. Gallaf feddwl am enghreifftiau ym mywyd cyfoes Cymru lle y byddai'r gyfrol hon yn gaffaeliad. Fe'i rhown yn anrheg i'r gwr neu wraig o Gristion sydd am ddiwyllio a chyfoethogi meddwl ac ysbryd; byddai'n anrheg werth ei chael. Fe'i rhown ar fwrdd bach y claf, mewn ysbyty neu ar aelwyd, leddfu ei ofnau ac i ategu'r weddiau mewn awr argyfyngus; byddai ei derbyn mewn amgylchiadau felly yn gymwynas yn wir. Fe'i rhown yn llaw'r person sy'n arwain oedfa yn niffyg pregethwr lenwi pulpud; go brin y byddai angen i'r defaid newynog ddychwelyd o'r oedfa honno heb eu bwydo. Ac fe'i rhown yn gwbl fyddiog Gristion o Gymro o unrhyw draddodiad neu bwyslais diwinyddol heb betruso ynghylch apêl ei neges ar draws pob ffin enwadol. Fy ngharn dros ddweud hynny yw bod Gareth Lloyd Jones wedi caniatáu i'r Salmau lefaru â ni. Byddai'n anodd cweryla â chynnwys y gyfrol heb fod yn euog o gweryla â'r Ysgrythur ei hun. Ar dro, hefyd, ceir cyfeiriadau at emynyddiaeth Cymru, megis gwaith Edmwnd Prys neu Elfed, neu at emyn mawreddog Martin Luther, Ein feste Burg ist unser Gott, lle ceir yr emynau hynny'n adleisio geiriau'r Salmydd. Un o ffenomenâu'r blynyddoed diwethaf hyn yw'r twf rhyfeddol yn y diddordeb mewn ysbrydolrwydd. Fe'i ceir, nid mewn un grefydd yn unig, ond ar draws y cref- yddau, ac y mae'n apelio at yr hen a'r ifanc fel ei gilydd. Mae'r cyfryngau a ddefnyddir hybu'r ddisgyblaeth honno'n afrifed: Ysgrythur, litwrgi, cerddoriaeth, arluniaeth, cerfluniaeth ac ati. Yn ystod y Grawys eleni fe swynwyd llawer gan raglen deledu a daflai oleuni ar ystyr ac arwyddocâd y ffenestr lliw yng Nghapel Coleg y Brenin yng Nghaergrawnt. 'Roedd y rhaglen, o'i dechrau i'r diwedd, yn wrthrych-wers mewn ysbrydolrwydd. I mi, y mae'r gyfrol hon yn perthyn i'r un categori. Dyna pam yr wyf am ganmol ei diwyg glân, am fod y diwyg hwnnw'n lestr mor weddaidd i'r cynnwys, ac yn an- rhydeddu'r cynnwys â'i harddwch. MAURICE LOADER Amserlin y Beibl; Addasiad gan yr Athro Gwilym H. Jones o destun gwreiddiol gan Dr. David Payne. (Cyhoeddiadau'r Gair, 1994) £ 3.25. Rhaid imi gyfaddef fod y term 'amserlin' yn ddieithr braidd. Ond, ar y llaw arall, mae'n anodd dod o hyd i air amgenach fynegi cynnwys y gyfrol fechan a deniadol hon. Efallai mai eisiau cyfarwyddo âr term dieithr sydd, a phwy a wyr nad y gyfrol hon fydd yr union gyfrwng gynorthwyo'r Cymry wneud hynny. Ynddi, rhoes yr Athro i'r darllenwyr fras- olwg ar linell-amser oes y Beibl, o ddyddiau Abraham hyd ddinistr Jerwsalem yn O.C. 70. Gwnaeth hyn mewn dau fodd: yn gyntaf, trwy adrodd prif symudiadau'r hanes hwnnw sy'n gefndir i'r ddau Desta- ment, ac yn ail, trwy gyfrwng siart Iliwgar sy'n glymedig wrth dudalennau canol y llyfr ond sy'n gwaeddi am gael ei ddatod, a'i osod ar fur mewn ystafell ddosbarth, neu mewn Ysgol Sul, neu'n wir yn stydi'r gweinidog, er mwyn rhoi canllawiau diogel fyfyrwyr y Beibl o bob oedran, a'u galluogi i'w osod yn erbyn cynfas hanes secwlar yr un pryd. A chan fod cronoleg y Beibl yn bwnc digon dyrys ar y gorau, ardderchog o syniad oedd ymddiried y dasg o ddynodi'r canllawiau wr sy'n dra hyddysg yn yr hanes hwnnw. Bras-olwg sydd yma, felly, ond bras-olwg y mae gwir alw amdano, nid yn unig ar gyfer y sawl sy'n cymryd ei gamau petrus cyntaf maes, ond, yn ogystal, ar gyfer y myfyriwr aeddfetach sydd mewn perygl ar dro o fethu â chanfod y goedlan gyfan gan gymaint ei ddiddordeb mewn ambell bren unigol o fewn y goedlan honno. MAURICE LOADER