Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dennyss ar syfer adolias srwp \voeo yn synnleisfa tcch^n, x\r\ ^rwp bctosíwn nen'n syfarfon sweddi.) LLAWENHAU YN NUW Tra bo pawb yn ymgynnull caner 'Haleliwia, Haleliwia, Rhoddwn ddiolch i'n Harglwydd Dduw (Atodiad 893) Arweinydd: Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf, 'Gadewch i ni fynd i dy yr Arglwydd'. Y mae ein traed bellach yn sefyll O fewn dy byrth, O Jerwsalem. Pawb: Y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem. Distawrwydd: Cofiwch fod Duw yn ein mysg yn awr, yn rhannu'r amser hwn â ni. Ymlaciwch yn ei bresenoldeb a mwynhewch ei gwmni Meddyliwch am bopeth da a hyfryd yr ydych wedi ei dderbyn a'i fwynhau heddiw, a rhowch ddiolch i Dduw amdano Gofynnwch iddo eich llenwi â'i dangnefedd ac â'r llawenydd tawel, mewnol hwnnw a ddaw o gyfranogi o fywyd a bendithion Duw Arweinydd: Llawenhewch yn yr Arglwydd, chwi rhai cyfiawn; i'r rhai uniawn, gweddus yw moliant. Pawb: Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd. Arweinydd: Y mae'r cyfiawn yn gorfoleddu gerbron Duw ac yn ymhyfrydu mewn Ilawenydd. Pawb: Canwn yn llawen i'r Arglwydd, rhown wrogaeth i graig ein hiachawdwriaeth. Arweinydd: Diolch i ti, Arglwydd, am ddedwyddwch dy gwmni, am fwynhad cymdeithas â'n gilydd, am orfoledd moliant, am rin distawrwydd, ac am lawnder a llawenydd bywyd. Cynorthwya ni yn awr i ymryddhau o bob tristwch a gofid, i ymddiried yn dy gariad ac i dderbyn yn llawen a diolchgar bob bendith a ddaw i ni o'th haelioni di; trwy lesu Grist ein Harglwydd. Amen. Canu: 'Na foed cydweithwyr Duw Byth yn eu gwaith yn drist TlE BEVM Neges o lawenydd oedd gan y proffwyd Eseia i bobl Israel oedd mewn caethiwed ym Mabilon, sef fod Duw ar fin eu rhyddau ac adfer gogoniant y genedl. Y mae'r proffwyd yn gweld yr holl greadigaeth yn ymuno yng ngorfoledd a moliant y bobl-y diffaethwch yn blodeuo, afonydd yn dyfrhau'r anialwch, a'r deillion, y cloffion a'r llesg yn cael iachâd a nerth wrth iddynt ddychwelyd dan ganu i Seion. Darllen: Eseia 35:1-10. Arweinydd: Arglwydd, gwyddost yr hyn sydd ynom; gwyddost am ein hofnau a'n pryderon, Pawb: Ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd a thangnefedd. Y mae pob profiad o Dduw yn dod i blith ei bobl i'w hadfer a'u bywhau yn achos llawenydd. Mewn distawrwydd gweddïwn ar Dduw ddod ganol ein dryswch a'n gwendid ni i'n bywhau, i'n calonogi ac i'n llonni Cyflwynwn iddo unrhyw beth sy'n achos gofid a phryder inni -yn ein bywyd personol, yn ein hymwneud â phobl eraill, ym mywyd yr eglwys (Gellir rhoi cyfle i aelodau'r grWP rannu eu testunau gweddi â'i gilydd, naill ai trwy offrymu ymbiliau byrion neu trwy ofyn am weddfau'r grWp). Distawrwydd ein gwendidau a'n hansicrwydd. Gwyddost pa mor annheilwng ydym, pa mor euog a pha mor wan, ac ymbiliwn am dy faddeuant. Arglwydd, cyflwynwn i ti anghenion dy blant; y rhai sy'n byw o dan amgylchiadau anodd; y rhai sy'n dioddef gorthrwm a thlodi; y rhai sy'n araf nychu o brinder bwyd ac heb egni na gobaith i'w cynnal. Clyw ein hymbiliau ar eu rhan. Arglwydd, gweddiwn dros bawb sy'n drist: y rhai sy'n dioddef o ddigalondid, o iselder ysbryd ac ing meddwl; y rhai sy'n galaru ac yn ceisio dygymod â phangfeydd hiraeth. Cynnal a bendithia hwy. Boed i Dduw y cariad tragwyddol ein llenwi â phob llawenydd a thangnefedd. Amen. E. ap Nefydd Roberts