Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMATEB I GREFYDD YR OES NEWYDD AIL YSGRIF GAN GERAINT TUDUR Pan fo Cristnogion yn dod ar draws y crefyddau newydd sydd ar hyn o bryd mor weithgar yma ym Mhrydain, gwelwn fod cryn ddryswch yn eu plith ynglyn â sut yn union y dylid ymateb iddynt. Yn gam neu'n gymwys, ystyriant y crefyddau hyn yn fygythiad, nid yn unig i Gristnogaeth, ond hefyd i'r drefn gymdeithasol yr ydym yn perthyn iddi. Er fod dymuniad cryf i'w gwrthsefyll, nid oes gan y mwyafrif o Gristnogion na'r awydd na'r hyder i fynd i'r afael â hwy, a hynny, gan amlaf, oherwydd eu hanwybodaeth ynglyn â'r hyn y mae llawer o'r crefyddau newydd yn ei ddysgu. O ganlyniad, yr hyn a welwn yn y gwersyll Cristnogol yw cymysgedd o ddifaterwch a phryder, mesur helaeth o swildod a diymadferthedd. Un peth y mae'n rhaid ei bwysleisio ar unwaith yw nad oes angen i Gristnogion ofni'r crefyddau newydd. Dros y canrifoedd mae Cristnogaeth wedi gorfod 'cystadlu' gyda phob math o grefyddau, sectau a chwltiau, ac er na fyddem yn cymeradwyo pob un o ddulliau ein cyndadau wrth iddynt wynebu her a sialens eu cyfnod, gallwn o leiaf ddweud nad peth newydd i Gristnogaeth yw gorfod sefyll ac amddiffyn ei hun. BRWYDRO YN ERBYN Y LLANW Wrth ddweud hyn mae'n rhaid inni sylweddoli ein bod, wrth gwrs, yn brwydro yn erbyn llanw ein diwylliant cyfoes. Dywed hwnnw wrthym fod dyddiau Cristnogaeth wedi dod i ben, ein bod yn byw mewn cyfnod ôl-Gristnogol, a bod y ffydd bellach wedi ei gwthio i gyrion bywyd lle bydd yn gwywo ac yn marw oherwydd ei bod yn gwbl amherthnasol i sefyllfa diwedd yr ugeinfed ganrif. Ofer inni wingo yn erbyn hyn, meddir; 'goddefgarwch' yw gair pwysig ein cyfnod ni, a 'goddefgarwch' yw gadael llonydd i bobl gredu a gwneud pa bethau bynnag sydd wrth eu bodd, beth bynnag fo'r canlyniadau. Nid oes gan Gristnogaeth hawl i fusnesa nac i ymyrryd. Lol yw'r propaganda hwn i gyd. I'r sawl sydd wedi cofleidio crefydd sy'n pwysleisio'r angen i ofalu am eraill, i garu cyd- ddyn ac i sicrhau lles cymydog, mae'r fath 'oddefgarwch' yn amhosibl. Yn wir, nid 'goddefgarwch' mohono ond difaterwch. Crefydd genhadol yw Cristnogaeth, chrefydd sy'n malio am dynged a thranc eraill. Dysgodd ei sylfaenydd nad yw pobl i fod mewn anwybodaeth am yr hyn y mae Duw wedi ei wneud drostynt; mae'r ffydd, felly, o ran ei natur yn anoddefgar tuag at unrhyw syniadau sy'n caethiwo meddyliau pobl ac yn eu hatal rhag derbyn maddeuant Duw. BYGWTH Pan fo crefyddau newydd yn awgrymu bod ganddynt ddysgeidiaeth sy'n cynnig iachawdwriaeth i'r unigolyn, a'r ddysgeidiaeth honno yn dilyn llwybr neu batrwm gwahanol i'r iachawdwriaeth yng Nghrist y tystiolaethir iddi yn y Testament Newydd, yna nid oes gan Gristnogion ddewis ond codi eu lleisiau. Fel y dywedodd Pedr wedi iddo gael ei ddal yn y Deml yn sôn am Iesu; 'nid oes iachawdwriaeth yn neb Geraint Tudur arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi i ddynion, y mae i ni gael ein hachub drwyddo' (Actau 4:12). O'r safbwynt Cristnogol, felly, mae unrhyw un sy'n awgrymu i'r gwrthwyneb yn bygwth nid y 'traddodiad' Cristnogol, na'r drefn gymdeithasol yr ydym ni yn perthyn iddi, ond yn hytrach eneidiau gwyr a gwragedd, a bechgyn a merched. LLWYBRAU ERAILL Prif \\Tthwynebiad Cristnogaeth i'r crefyddau newydd, felly, yw eu bod yn cynnig patrymau o iachawdwriaeth sy'n wahanol neu'n groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd. Yn y rhifyn diwethaf o Cristion, cyfeiriwyd at dri dosbarth o grefyddau newydd; y rhai sy'n cefnu ar y byd, y rhai sy'n manteisio ar adnoddau'r byd (hynny yw, adnoddau naturiol pobl) a'r rhai sy'n oddefol tuag at y byd. Y mae'r tri yn dysgu syniadau sy'n annerbyniol i Gristnogion. Gadewch i ni'n gryno iawn weld pam. CEFNÙ AR Y BYD Diau y byddai'r mwyafrif o Gristnogion uniongred yn dweud nad trwy berthyn i gwlt caeëdig y mae dod i berthynas â Duw na datrys problemau'r byd: ni ddaw dim mantais o encilio yn y fath fodd. Wrth gwrs, mae i'r cwlt ei fanteision; mae hefyd yn caniatau i'r rhai sydd yn perthyn fabwysiadu patrwm o fyw sy'n wahanol i'r gymdeithas lygredig y tu allan. Ond wedi dweud hynny, mae anfanteision hefyd. Er enghraifft, mae grwpiau caeëdig bron yn ddieithriad yn caniatau i un person ddylanwadu'n drwm arnynt a'u rheoli. Dyma ddigwyddodd yn hanes David Brandt Berg, Charles Manson, David Koresh ac eraill. Gwnaethpwyd 'y gwirionedd' yn eiddo i'r grwp bychan oedd wedi ei ynysu oddi wrth y byd; dim ond trwy wahoddiad yr oedd yn bosibl ymaelodi, ac wedi dod i berthyn yr oedd yn rhaid torri pob cysylltiad a theulu a ffrindiau er mwyn diogelu 'glendid' a 'phurdeb' Tra gwahanol yw dysgeidiaeth y Testament Newydd. Nid oedd Iesu yn gweddïo am i'w bobl gael 'eu Gymryd allan o'r