Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yma mae DESMÔND DAVIES yn trafod hanes Yr wythnos wedàiam Undeb Crístnogol Yn flynyddol, bellach, neilltuir y drydedd wythnos yn Ionawr i weddïo am undeb Cristnogol. Tybed sut y daeth yr arfer hwn i fod? Fe fu gweddïau am undeb rhwng Cristnogion yn rhan o litwrgi'r eglwys erioed, ond yn ychwanegol at hyn bu rhai unigolion a mudiadau, yn arbennig yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, yn ceisio hybu'r ymdeimlad o undod yng Nghrist. Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif cychwynn- wyd mudiad yn yr Alban i weddïo ar y cyd am adfywiad ysbrydol ac ymweliad yr Ysbryd Glân, ac yn fuan lledodd ei ddylanwad i Loegr ac i'r Unol Daleithiau, ac yn ôl drachefn i'r Iseldiroedd, yr Yswistir a'r Almaen. Bu cysylltiadau agos rhwng y mudiad hwn a nifer o ddiwygiadau grymus, o'r naill du i'r Iwerydd, a rhoddwyd mynegiant i'r amcanion a'i ddelfrydau gan Jonathan Edwards yn ei Humble Attempt. Syrthiodd mantell Jonathan Edwards ar James Haldane Stewart, cyfreithiwr a ordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Lloegr, ac a gyhoeddwyd, ym 1821; ei Hints for a General Union of Christians for Prayer for the Oùtpouring of the Holy Spirit. Trefnodd Stewart gyfarfodydd rheolaidd i weddïo am undeb; cymhellodd Gristnogion o wahanol draddodiadau ac enwadau i ddod ynghyd iddynt, ac awgrymodd y dylid neilltuo Llun cyntaf y flwyddyn i ddeisyf am ddawn yr Ysbryd. CYNLLUN Gwelir mai'r Eglwys Anglicannaidd ynghyd â rhai Catholigion unigol a fu â'r rhan flaenllaw yn y datblygiadau hyn. Wrth iddo ymweld â Rhydychen ym 1840 bu Ignatius Spencer, gwr a brofodd dröedigaeth i'r ffydd Rufeinig ac a ordeiniwyd i'r offeiriadaeth, yn taer erfyn ar Newman a Pusey i geisio ffordd i hyrwyddo gweddi gyson am undeb. Er mai llugoer oedd ymateb Pusey, aeth Newman ati i gyhoeddi A Plan of Prayer for Union, ond prin fu cefnogaeth yr esgobion iddo. Ym 1857 sefydlwyd The Associationfor the Promotion of the Unity of Christendom, y gymdeithas gyntaf a ffurfiwyd i weddïo'n benodol am undeb rhwng Cristnogion â'i gilydd. Yr oedd aelodaeth ohoni'n agored i Anglicaniaid, Pabyddion ac aelodau o'r Eglwys Uniongred. Ym 1901 galwyd ar eglwysi'r Alban i neilltuo Hydref 13 yn ddiwrnod gweddi, ac ar Ebrill 25, 1906 ymddangosodd llythyr yn y Times, wedi ei lofnodi gan archesgobion Caergaint a Chaerefrog, pennaeth Eglwys Esgobol yr Alban a chynrychiolwyr Eglwysi Rhyddion Lloegr a'r Alban, yn galw ar bob cynulleidfa i offrymu gweddi am undeb Cristnogol yn ystod gwasanaeth boreol y Sulgwyn. WYTHNOS NEILLTUOL Hyd y gellir dyfalu, Paul Watson (offeiriad yn Eglwys Esgobol yr Unol Daleithiau, golygydd cylchgrawn yn dwyn yr enw, The Lamp, ac un a ymunodd yn ddiweddarach ag Eglwys Rufain), oedd y cyntaf i awgrymu mai'r wyth niwrnod rhwng Ionawr 18 (Gwyl Cadair San Pedr) a Ionawr 25 (Gwyl Tröedigaeth Sant Paul) oedd yr adeg fwyaf addas i weddïo am undeb. Yn Rhagfyr 1909 rhoes y Pab Pius X ei fendith ar y cynllun, ac yn ddiweddarach galwodd y Pab Benedict XV ar bob adran o'r Eglwys Rufeinig i gadw'r wyl. Wrth reswm, 'roedd apêl yr wythnos yn gyfyngedig am fod yr arlliw cwbl babyddol a oedd arni yn faen tramgwydd i'r mwyafrif o Gristionogion nad oeddent yn perthyn i'r eglwys honno. EWYLLYS DUW Tua'r flwyddyn 1930 clywyd llais un o'r arweinwyr ecwmenaidd pwysicaf a gynhyrchwyd gan Eglwys Rufain. 'Roedd Paul Couturier, offeiriad yn Archesgobaeth Lyons, ac un a berchid yn fawr ar gyfrif ei hynawsedd a'i ysbryd gwylaidd, wedi hen sylweddoli bod yr Wythnos Weddi, fel ag yr oedd ar y pryd, yn cau allan nifer sylweddol o frodyr a chwiorydd yng Nghrist. Ag yntäu'n llwyr argyhoeddedig mai ewyllys Duw oedd i'w eglwys fod ynun, aeth ati i lunio gweddi a phatrwm gwasanaeth a fyddai'n dderbyniol gan bob