Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BAGAD GOFALON Buom, fel swyddogion y capel, yn trafod yn ddiweddar natur aelodaeth eglwys gan gyffwrdd â chwestiynau fel, Beth sy'n gwneud aelod? Siwd mae diffinio aelodaeth? Pryd mae aelodaeth yn dod i ben? ac yn y blaen. Prin, wrth gwrs, gall unrhyw gapel yn y dyddiau rhain osgoi ystyried cwestiynau o'r math yma. Problem ddigon ymarferol a ysbard- unodd ein trafodaethau ni, sef ein hymrwymiad ariannol i'r enwad, a'r ffaith fod nifer ar lyfrau'r capel sy'n cyfrannu dim i'r coffrau. Roedd rhai felly yn teimlo y dylid cwtogi ein swm i'r enwad gyfateb â'r nifer nid ansylweddol hyn. Tra bod eraill yn dadlau fod enw unigolyn ar ein llyfrau yn dangos ein bod yn ei gyfrif ef/hi yn aelod llawn-cyfraniad neu beidio, ac felly bod cyfrifoldeb moesol arnom i gyfrannu drostynt i'r enwad. Yn y diwedd dyma'r ddadl a gariodd y dydd, ac fel dywedodd un swyddog, 'Ydi hi'n iawn cosbi'r enwad am flerwch yr eglwys leol a'n methiant fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn?' CYTÛN Beth bynnag, 'roedd pawb yn gytûn fod yn rhaid edrych ar y mater yn syth, ond wedi dechrau arni dyma sylweddoli yn gloi bod y fusnes ymhell o fod yn rhwydd. Gwnaethpwyd y sylw fod sawl capel yn gweithredu polisi pendant ar fater cyf- rannu. Os nad yw aelod yn cyfrannu am gyfnod penodedig, e.e. tair blynedd, dilëir yr enw oddi ar restr yr aelodau. 'Mater rhyngddo i â Duw yw maint fy nghyfraniad i'r capel' meddai Ond beth am rywun fel Richard, aelod ffyddlon, sydd â syniadau go gryf ar fater datgelu cyfraniadau aelodau unigol. 'Mater rhyngddo i â Duw yw maint fy nghyfraniad i'r capel', meddai, ac mae'n gwrthod defnyddio'r amlenhi wythnosol. Nawr bob tro bydd Richard yn yr oedfa, bydd y casgliad rhydd dipyn yn fwy nag arfer. Er na ellir profi'r peth, y tebygrwydd yw ei fod Y ÖUGAIL CYFRANNU ef yn cyfrannu gyda'r gorau, ond ar yr adroddiad blynyddol does dim byd wrth ei enw, a hynny ers llawer mwy na thair blynedd. Dydi ef erioed wedi cwyno am y sefyllfa, ond o weithredu'r polisi uchod gan ddileu ei enw fel aelod, prin y byddai'n hapus! Prin chwaith byddem ninnau'n gweithredu'n deg. Neu cymerwch Anne, hen wraig ymhell dros ei phedwar ugain. Bu Anne a'r capel yn annatod o'i dechreuadau. Fel y clywais hi'n dweud fwy nag unwaith, i'r capel yn y siawl y cariwyd hi gyntaf gan ei mam. Bu'n ffyddlon dros y blynyddoedd ac yn cyfrannu yn ôl ei gallu. onid cam o'r mwyaf a hi fyddai dileu ei henw? ANNE Bellach y mae mewn cartref henoed, gyda'r meddwl wedi dirywio. Nid yw hi'n nabod neb sy'n galw. Yn ddigon naturiol y mae'n methu gwneud unrhyw drefniadau ariannol, a does neb arall chwaith yn gwneud ar ei rhan hi. Felly y mae yna fwlch gwag ar ôl enw Anne ar yr adroddiad blynyddol. Unwaith eto, onid cam o'r mwyaf a hi fyddai dileu ei henw? 'Rwy'n gwybod mai enghreifftiau eithafol yw rhain, ac nad ydynt mae'n debyg yn gynrych- ioladol o drwch y rhai sydd ddim yn cyfrannu, ond o osod rheol lawr mae'n anodd iawn dechrau gwneud eithriadau, fel dywedodd sawl un oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Bues innau yn meddwl wedyn, am sawl un rwyf wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, a gollodd eu haelodaeth, heb yn wybod iddynt bron, ac yn aml heb iddynt wir fwriadu gwneud. Gall newid mewn amgylchiadau gwaith, symyd ty, cyfrifoldebau teuluol ychwanegol, plant yn gorffen â'r Ysgol Sul, olygu bod pobl yn colli'r arfer o fynd oedfa. Heb neb o'r capel yn galw, gwanhau wnaeth y cysylltiad, daeth diwedd ar gyfrannu, ac yn hwyr neu hwyrach dyma ddileu'r enw oddi ar y rhestr. A thybed faint o enwau sydd ar Iyfrau capeli, fyddai mwy na thebyg wedi eu hen ddileu onibai am ffyddlondeb diacon neu garedigrwydd aelod arall, ac yn arbennig cariad mam? 'Rwy'n gwybod mai prin gyffwrdd a wnaethom â ffyrdd eraill o ddiffinio aelodaeth, e.e. ffyddlondeb, credo, ymroddiad, tystioleth neu wasanaeth. Ar lawer ystyr rwy'n ddiolchgar am hynny, aeth y cyfarfod yn ddigon hir fel yr oedd! Daw rhain wrth gwrs â'u problemau dyrys eu hunain gyda hwy, yn bennaf mae'n siwr, sut yn ymarferol fyddai eu gweithredu yn y dyddiau sydd ohoni? Penderfynwyd gennym gadw pethau fel y maent am y tro, ond bod yn rhaid parhau i drafod y mater pwysig yma. Yr oedd pawb hefyd yn gytûn fod yn rhaid gweithredu strwythur bugeiliol mwy effeithiol, heb ddibynnu'n gyfangwbl ar y gweinidog. Meithrin y cysylltiadau yw'r unig ffordd i ddyfnhau perthynas yr aelod unigol a'r capel, gan ei helpu i ddod yn aelod nid yn unig o'r sefydliad ond, yn bwysicach o lawer, o gorff Crist.