Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ei ragymadrodd i'w lyfr heriol, Your God Is Too Small; dywed J.B. Phillips fod pobl heddiw yn cael anhawster ddod o hyd Dduw sydd yn ddigon mawr gyfarfod â'u hanghenion modern. Tra bo eu profiad o fywyd wedi tyfu mewn llu o gyfeiriadau, mae eu syniadau am Dduw wedi aros i raddau helaeth yn statig. Yn ôl J.B. Phillips dyma'r argraff a gaiff y sawl sydd y tu allan i'r Eglwys o agwedd Cristnogion hwythau heddiw, sef eu bod yn coleddu math o Dduw 'tŷ gwydr', gan geisio ei gyfyngu i dudalennau'r Beibl a rhwng muriau'r Eglwys. Yr hyn sy'n faen tramgwydd i'r dyn modern, yn ôl yr awdur, yw bod yr Eglwys yn euog o geisio ffitio Duw i mewn i'w phatrwm cyfyng hi ei hun, ac yn mynnu bod dynion yn cydymffurfio â'i gofynion neilltuol hi cyn y gellir eu cyflwyno iddo Ef. FFWLBRI l'r dyn yn y stryd nid yw hyn namyn ffwlbri trahaus. 'Os oes Duw o gwbl', meddai hwnnw'n ddig, 'mae Ef yma yn y cartref ac yn y stryd, yma yn y gweithdy ac yn y dafarn. Ac os yw'n wir fod diddordeb ganddo ynof fi, ac yn awyddus i mi ei garu a'i wasanaethu, yna mae'n rhaid ei fod ar gael i mi a phawb arall sydd mwen angen amdano heb ddim ymyrraeth gan y crefyddwyr proffesiynol. Os yw Duw yn Dduw, mae Ef yn anfeidrol fawr, yn haelfrydig ac yn odidog. Ni welaf sut y gallant ei gau yn eu blwch neilltuol hwy.' Yn yr hinsawdd grefyddol sydd ohoni mae'n berygl i'r Eglwys fynd yn fewnblyg a cheisio mesur ei llwyddiant neu ei haflwyddiant yn ôl safonau tymhorol yn hytrach na rhai ysbrydol. Y canlyniad yw iddi fynd yn fyr ei golwg a methu gweld bod bwriadau grasol Duw yn cael eu gweithredu trwy'r greadigaeth ac nad yw iachadwriaeth dyn yn ddim namyn rhan o'i arfaeth ddwyfol. Yn ei obsesiwn ynglŷn â'i DUW MEWN BLWCH Yn yr hinsawdd grefyddol sydd ohoni mae'n berygl i'r Eglwys fynd yn fewnblyg a cheisio mesur ei llwyddiant yn ôl safonau tymhorol yn hytrach na rhai ysbrydol iachawdwriaeth ei hun mae perygl i'r Cristion fethu amgyffred y syniad o arglwyddiaeth a gogoniant Duw yn ei greadigaeth ac mai ei brif ddiben ar y ddaear yw cydnabod a gogoneddu Duw yn holl gylchoedd ei fywyd. Yng ngeiriau John Calfin, 'Mae'n annheilwng mewn diwinydd i ganiatáu i ddyn fod mor gonsarnol ynghylch ei iachawdwriaeth ei hun yn hytrach na gwneud sêl dros ogoniant Duw yn brif ddiben ei fywyd'. DALLINEB YSBRYDOL Rydym yn euog o ddallineb ysbrydol oni welwn fod Ysbryd Duw yn gweithio'n gyson ac yn rymus yn a thrwy bobl a mudiadau na phroffesant yr un gred â ni. Fel y dwyed J.K. Stevenson, awdur God Outside the Church, 'Ein braint a'n cyfrifoldeb fel aelodau o Eglwys Crist yw cefnogi pob gwaith da, a sefyll gyda phawb a phopeth sydd â'u bryd ar ddyrchafu dyn a gosod gwerth arno fel personoliaeth'. Rydym mor gyfarwydd â gweld yn ein papurau newyddion ac ar y cyfryngau dystiolaeth feunyddiol o'r drygioni a'r anfadwaith sydd yn y byd nes colli golwg weithiau ar y daioni sydd ynddo, a gweld bod hwnnw'n brawf diymwad o bresenoldeb yr Ysbryd yng nghalonnau dynion, pa un a ydynt yn ei broffesu ai peidio. Nid yw'r Eglwys yn barod gydnabod bob amser yr ymdrech lew a wneir gan fudiadau dyngarol fynd i'r afael â'r problemau dyrys hynny sy'n blino dynion, nac i gyfaddef ychwaith ei methiant hi ei hunan i gyflawni ewyllys ei Harglwydd trwy weini mewn cariad a thosturi i fyd trallodus. CYFYNGU Ni ellir mewn unrhyw fodd felly geisio cyfyngu gweithgarwch yr Ysbryd i gylch gweithgareddau'r Eglwys a thybio mai ei braint a'i dyletswydd neilltuol hi yw mynd ag Ef allan i'r byd blith dynion, canys y mae'r Ysbryd allan yno eisoes gyda'r amheuwr, y carcharor, y dieithryn, a'r newynog, a lle bynnag y mae dynion yn MORfìAN D .IONES sefyll yn erbyn trais ac anghyfiawnder ac i fynnu eu hawliau. Mewn gair mae'n ofynnol i'r Cristion ddarganfod dimensiwn ehanach yr Ysbryd ar waith yn y byd secwlar, a cheisio cyflawni ewyllys Duw trwy sefyll gyda'r di-gred a chydweithio â hwy, gan eu caru a gweddio drostynt. CODI CROES Fe gofir J.R. Jones yn ei Iyfryn Yr Argyfwng Gwacter Ystyr ddadlau ei bod 'yn bryd inni ddilyn Paul Tillich yn ei ymdrech ddewr i weld posibilrwydd cyfiawnhad arall yn y ffydd Brotestannaidd, sef cyfiawnhad trwy ffydd anghrediniol-ymofynnol'. Pa un a ydym yn gallu derbyn y safbwynt hwn ai peidio, mae un peth yn sicr, sef ei bod yn Mae'n rhaid i'r Eglwys ddisgyn oddi ar ei cheffyl uchel a chael peth o Iwch a llaid strydoedd a charthffosydd y byd ar eu dillad rhaid i'r Eglwys ddisgyn oddi ar ei cheffyl uchel a chael peth o Iwch a llaid strydoedd a charthffosydd y byd ar ei dillad. Os yw'r Eglwys am chwarae ei phriod ran mewn cymdeithas, mae'n ofynnol iddi ddangos llawer mwy o gariad, gofal, a thosturi at fyd trallodus. Nid yw'r alwad i'r Eglwys yn wahanol i'r alwad i'r unigolyn, sef yr angen am iddi ymwadu â hi ei hun, codi ei chroes, a dilyn ei Meistr. Mae'n rhaid iddi hithau farw er mwyn byw, marw i'w rhwysg a'i bri, i'w gallu a'i chyfoeth, ac i bob defod a thraddodiad a fo'n rhwystr iddi i gyflawni ewyllys ei Harglwydd a'i gwir genhadaeth ar v ddaear. J.B. Phillips