Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

diwylliant y dydd yn unig yw ei gwaith, ond cyfrannu tuag at ffurfio'r diwylliant hwnnw. Wedi'r cwbl, y mae diwylliant yn rhywbeth byw. Fel y mae'r gair yn awgrymu y mae'n broses o ddi-wyll(t)io, o chwynnu'r elfennau anwar, dinistriol ohonom fel unigolion ac fel cymdeithas a phlannu yn eu lle wer- thfawrogiad o'r pur a'r da a'r creadigol. Y mae hynny'n cynnwys gwerthfawrogi a diogelu'r hyn yr ydym ni wedi ei etifeddu o'r gorffennol. A rhan o waith darlledu ydi'n helpu ni i fawrygu trysorau'r gorffennol. Pan bregethodd William Morris ar y radio o hen gapel Seilo, Caernarfon, ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol 1959, soniodd am y cylchgrawn Saesneg, The Gentleman's Magazine, a oedd yn boblogaidd yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yn cyfeirio yn un o'i rifynnau yn 1791 at farwolaeth William Williams, Pantycelyn. Ac meddai'r gohebydd, 'Y mae'n bur debyg mai ef oedd y bardd telynegol olaf a welir yn Ne Cymru, gan fod iaith y wlad yn raddol ddarfod am- dani.' Ac meddai William Morris, 'Dyma'r gwr fu'n ysbrydiaeth i godi crop ar ôl crop o feirdd telynegol ar ei ôl Mae'r Gentleman's Magazine wedi marw'n gelain erstalwm, a llawer un o'i dylwyth ar ei ôl, ond y mae Pantycelyn yn fyw, yn fyw yn yr oedfa yma heddiw.' Y mae Pantycelyn yn fyw ninnau, ac y mae darlledu wedi gwneud cymaint i'n dysgu am gyfoeth ein gorffennol. Ond y mae hefyd yn cyfrannu a ffurfio diwylliant heddiw ac yfory, ac y mae hynny yn ei dro yn codi cwestiynau ynglŷn â chwaeth ac ansawdd a safonau ystyriaethau a fu'n bwysig erioed ym myd darlledu. Yn y dyddiau cynnar, o dan deyrnasiad yr Arglwydd Reith, doedd dim cwestiwn mai'r ffydd Gristnogol oedd sail diwylliant a ffynhonnell gwerthoedd, chwaeth a Yr Arglwydd Reith yn agor Stiwdio Caerdydd wimam Morris safonau. Ond bellach y mae'n cymdeithas ni yn llawer iawn mwy secwlar ei naws ac yn blwralistaidd ei chrefydd. Ond tydi hynny ddim yn golygu nad oes lle mwyach i'r saf- bwynt a'r perspectif Cristnogol. I'r gwrthwyneb, ein tasg yw cyfrannu at y gwaith o ffurfio diwylliant ein cyfnod, a gwneud hynny trwy wahodd pobl i ystyried gyda ni y pethau sydd, yn ôl yr Apostol Paul, 'yn wir. yn anrhydeddus yn gyflawn a phur yn hawddgar a chan- moladwy a phopeth sy'n haeddu clod' (Phil. 4:8). CODI PONTYDD Un arall o amcanion darlledu yw codipon- tydd rhwng pobl. Marshall McLuhan a ddywedoedd fod y byd erbyn hyn yn ben- tref (the global village), a hynny oherwydd fod dulliau modern o gyfathrebu yn ein clymu wrth ein gilydd. Y mae'r hyn sy'n digwydd ar draws y byd yn digwydd hefyd yng Nghymru ac yn digwydd rhyngom fel Cristnogion. Fe gofiwn ddryswch William Jones druan yn teithio i fyny'r cwm yn y trên i gyfeiriad Bryn Glo a'r Northman bach yn methu'n lân â gwneud na phen na chynffon o sgwrs ei gyd-deithwyr. Y mae trigain mlynedd o ddarlledu Cymraeg wedi codi pontydd rhwng De a Gogledd, rhwng acenion ac ar- daloedd. Os yw Cymru'n fwy unol heddiw, ac yn fwy ymwybodol o'r amrywiaeth cyfoethog sydd o fewn ei hunoliaeth, i ddarlledu yn anad dim y mae'r diolch am hynny. Ac y mae pontydd yn cael eu codi hefyd rhwng unigolion. Erbyn hyn y mae 24% o gartrefi'n gwlad yn gartrefi un person, o'i gymharu â 12% ugain mlynedd yn ôl, a chanran uchel o'r rheini yn hen bobl yn byw ar eu pennau'u hunain, llawer ohonyn nhw'n unig, ond yn cael y radio'n gwmni Meicroffon Sain cynnar ac yn gysur mawr. Iddyn nhw y mae darllediadau crefyddol yn gyswllt byw ag addoliad capel ac eglwys, ac iddyn nhw y mae'n llythrennol wir mai 'O'r hyn a glywir y daw ffydd'. Yn yr un modd y mae darlledu crefyddol yn codi pontydd rhyngom fel Cristnogion o wahanol draddodiadau. Bellach yr ydym ni'n gwbl gyfarwydd â'n gwahanol ddulliau o addoli ac wedi dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd. Darlledu yn unig sy'n medru rhoi i ni'r profiad ecwmenaidd gwerthfawr hwn Sut ar ôl Sul. 'O'r hyn a glywir,' wrth werth- fawrogi addoliad ein gilydd, 'y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist.' ESTYN FFINIAU PROFIAD Amcan arall yw estyn ffinniau profiad. Diffin- iad enwog yr Arglwydd Reith o bwrpas darlledu oedd 'hysbysu, diddanu a dysgu'.