Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifennaf y meddyliau hyn adeg gŵyl y feudwyfa hon, wrth fyfyrio ar Efengyl y Gweddnewidiad. Dyma eiriau a ddaw i glustiau filoedd o gredinwyr yn y Dwyrain ac yn y Gorllewin ar yr hen wyl hon sy'n rhan o etifeddiaeth gyffredin y Ffydd. Geiriau ydynt sy'n taro weithiau ar y glust, ac yn cyffwrdd â rhywbeth yn yr enaid, i rai. I eraill, fe fydd yn Efengyl fel unrhyw Efengyl foreol. I rai, fe fydd yn creu awydd am fangre lonydd, hyd yn oed os na fydd modd ei chael. Cafodd un Apostol rwystredigaeth debyg. Ond i eraill, daw y geiriau hyn ag arwyddocâd a all gyffwrdd â holl haenau eu bodolaeth. Cofiaf mai ar y chweched o Awst y cefais fy hun yn dringo unwaith lethrau mynydd- oedd Meteora yng ngwlad Groeg flynydd- oedd yn ôl (1972), er mwyn gweddîo mewn hen, hen fynachlog a safai bron yn y cymylau. Yna yr oeddwn mi gofiaf fel y ddoe-pan ddaeth y geiriau, 'Fe'u harweiniodd at fynydd uchel o'r neilltu' yn syfrdanol fyw imi. Ers talwm yr unig fodd i gyrraedd y fynachlog oedd drwy gymorth ysgol wedi'i phlethu o raffau neu mewn basged, ar ddiwedd rhaff, ac ni arferid adnewyddu'r rhaff tan i ryw ddamwain atgoffa'n myneich am y rheidrwydd. O'R NEILLTU Diddorol fod man 'o'r neilltu' wedi'i chodi yn ein dydd yn yr Ynys Werdd. Tuedd ysbrydoledd ein hoes yw mynd i gyfeiriad arall. Hyd yn oed yn y mynachlogydd hynny sy'n swyddogol 'ddistaw' gwelir yn aml ryw duedd tuag at gyd-rannu ac ymbalfalu yn nyfnderoedd Deinamig y Grwp, ac anodd yw dod o hyd i'r hen enciliad hollol ddi-stŵr yr arferid ei gynnal yn gyson. Paham y dylid mynd at y fath eithafion daearyddol er mwy bod 'ar wahân'? Efallai y dylwn esbonio fy mod yn 'sgrifennu'r geiriau hyn yn un o'r mannau mwyaf anghysbell imi eu gweld erioed. Ar ddiwrnod arterol, ni ddywedaf nemor ddim wrth unrhyw fod dynol. Yr unig swn cyson yw rhu gwynt y Gorllewin. Y mae bodolaeth dyn yn y gornel anghofiedig hon o'r Cread 'ar wahân' i'r fath raddau nes y perir i'r unigolyn ar adegau amau unrhyw 'raison d'etre' dilys. Eto i gyd, yn erbyn pob rheol a rheswm dynol, yn y fawnog ddiffaith hon y tyfodd yr eglwys fach harddaf a welais erioed a hynny o ddim. Paham? DISGLEIRIO Dychwelwn at y chweched. Pa beth a welodd y breuddwydwyr? Awgryma'r Groeg anodd (deagrégorésantes- 'pervigilantes') ymdrech go lew i gadw'r llygaid yn agored. Mentref ddweud i'r tri ŵr weld rhywbeth go anarferol mor anarferol nes iddo dwymo eu holl fod mewn modd Yn yr ysgrif hon mae'r meudwy Y brawd DEWI (seff y bardd a'r mynach ALUN IDRIS), yn rhannu i brofiadau wrth fyfyrio ar weddnewid ein Harglwydd I GOLEUNI TABOR Tua'r wawr sylwodd fod wyneb y sant yn disgleirio fer yr haul nid anhebyg i'r hyn ddigwyddodd i San Seraffim o Sarov, yn nes at ein hoes ni. Daeth ymwelydd i'w weld ac aros gydag ef mewn gweddi drwy'r nos ('pervigilans'). Tua'r wawr sylwodd fod wyneb y Sant yn disgleirio fel yr haul. Gwyddai'r Sant i'w ymwelydd weld y ffenomen, ac esboniodd mai hyn ydoedd oedd yr hedd, y tangnefedd dyfnaf, a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i garai. Diddorol yw sylwi mai Goleuni Goleuni disglair o'r mwyaf, y Golau Anghreëdig yw'r hyn sy'n cyfateb yn y Dwyrain i'r 'stigmata' neu'r clwyfau yn y Gorllewin. Yn wir, y teimlad a geir wrth fynd i fewn i eglwys Uniongred yw ymdeimlad â'r Atgyfodedig. Tan yn ddiweddar y duedd yn y Gorllewin ydoedd ein hatgoffa'n hunain am yr hyn a ddaeth cyn y trydydd dydd. Beth sydd a wnelo hyn â'r bywyd yma ar begwn eithaf Ewrob? TRIOEDD Tri pheth, fel pob peth anghydffurfiol! Y mae yma Amser. Er mwyn i Amser gael amser i fod, rhaid wrth absenoldeb peirianwaith amseryddol, gan gynnwys Er mwyn i Amser gael amser i fod, rhaid wrth absenoldeb peirianwaith amseryddol, gan gynnwys dulliau i'w ladd dulliau ei ladd. Er mwyn adnabod ergydion Amser, rhaid wrth ddim oll ond Amser-Amser o'r fath sy'n tician. Yma y mae Diddymdra. Er mwyn dod wyneb yn wyneb â Duw, rhaid wrth eangderau maith. Yn bennaf oll, rhaid wrth absenoldeb bodau dynol. Y mae yma bresenoldeb-gwir Bresenoldeb a dweud y gwir, y Gwir Bresenoldeb Ei Hun, a hynny, drwy drefn Rhagluniaeth (ac awdurdod yr Archesgob) yn y gell ei hun, gan fod capel yn ei chornel. A phan ddaw'r tri hwn at ei gilydd, fy mhrofiad innau yw fod rhywbeth yn digwydd rhywbeth na all ddigwydd yn hawdd yn unman arall ar y ddaear. Efallai mai dyna yn union paham y dymunodd Tragwyddol Ragluniaeth ddewis yr erwau diffaeth hyn yn fangre i'w theyrnasiad. SAIN NORMALRWYDD Bellach aeth yr oriau yn ddiwrnod a'r diwrnod yn ddyddiau lawer. Ysgrifennais y myfyrdodau a hithau eto'n dyner. Mae bellach yn ddyddiau ffyrnig, a minnau'n dal yma, gyda chaniatád fy Abaty. Bu raid imi fod yn absennol am bythefnos yn unig ers mis Mehefin, a rhyfedd rhyfedd tu hwnt-ydoedd sain normalrwydd y byd. Beth, wedi hynny, yw normalrwydd? A ydyw'n hoes yn agosach at wirionedd pethau, o fod yn symud yn gyflymach? Tybed a ydoedd yr Apostol byrbwyll gynt yn agosach rywfaint at graidd pethau wrth ddeisyf hamdden i adeiladu pabell ychydig ar wahân? Y mae yma berygl wrth nesàu gormod at y Golau Anghreëdig. Teimlaf eisoes fod posibiliadau dod yn rhydd o'r wefr hon yn dyddiol leihau.