Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aíl ran ymdriniaeth Emrys w. Evans ag Ymgyrch Herando Cortes ym Mecsico TRYSOR A THREIALON Tri diwrnod ar ôl Cortes gael mynediad ddinas Mecsico, sef Tachwedd 10, 1519, gofynnodd Monteswma am ganiatad godi capel yn un o'r palasau a oedd wedi ei gosod ar gyfer ei ddynion ac yntau. Cafodd y caniatad ar unwaith; yn wir, anfonodd Monteswma grefftwyr Astecaidd i gynorthwyo gyda'r gwaith. 'R oedd y Sbaenwyr wedi bod yn chwilio o gwmpas eu hunain. Wrth edrych ar un o'r muriau sylwasasant fod y mortar yn ffres ar un rhan, a chyda'u profiad o chwiliota mewn mannau a gwledydd cyn hynny, amheuwyd fod drws wedi ei guddio tu ôl i'r mur hwnnw. Er mai lletywyr, mewn enw beth bynnag, oeddent yn y palas imperialaidd, ni phetruswyd o gwbwl i dynnu'r mur i lawr. Yr oedd drws yno, ac wedi ei agor anfonasant ar unwaith am Hernando Cortes. TRYSORAU Wedi dyfod, a gweld trwy'r agoriad a wnaed, ni allai gredu yr hyn oedd o'i flaen. Yno yr oedd neuadd yn llawn o'r defn- yddiau mwyaf arbennig a chyfoethog, llestri gwerthfawr, gemau o bob math, ac aur ac arian, nid yn unig mewn ingotau, ond mewn crefftweithiau cywrain. Ysgrifennodd Bernal Dias, y croniclydd, a welodd y cyfan 'Gwr ifanc oeddwn i, ond ymddangosai i mi fod holl gyfoeth y byd yn yr ystafell yma' tros ysgwydd Cortes: 'Gwr ifanc oeddwn i, ond ymddangosai mi fod holl gyfoeth y byd yn yr ystafell yma'. Ystyriodd Cortes y darganfyddiad yma yn ofalus. Gorchmynnodd fod y drws i'w gau a'r mur i'w ail godi ar unwaith; gwyddai ei fod yn sefyll fel petai ar ochr mynydd tân a allai ffrwydro ar unrhyw foment. Wrth ystyried y lluoedd a wynebai'r fyddin fechan o Sbaenwyr yn y ddinas ddieithr, beth oedd eu gobeithion o ddwyn yr anturiaeth ben yn ddiogel? Wedi gweld y trysor, sut yn y byd yr oeddent i'w gael allan o'r ddinas heb i'r ymerawdwr a'i ryfelwyr eu gweld? Sut yr oeddent sicrhau grym tros y deyrnas hon a'i hecsploitio'n economaidd, fel yr oeddent wedi llwyddo eisoes ag ynysoedd anwaraidd y Byd Newydd? Fel y profodd Cortes, dim ond un ffordd, oedd sicrhau grym yn y brifddinas. Yr oedd wedi gweld eisoes statws cysegredig Monteswma yng ngolwg ei bobl; na feiddiai deiliaid yr Ymerawdwr godi bys yn erbyn neb oedd yn dal ei berson yn gaeth. Ymhen amser gwahoddiwyd Monteswma symud i mewn gydag ef, a thrwy hynny uno'r cartref imperialaidd a'i gartref yntau ei gorau. Palas Monteswma ar dudalen o'r Codecs Mendosa a wnaedyn 1540 arorchymyn Antonio Mendosa, llywodraethwr cyntaf y Sbaen Newydd i'r Ymerawdwr Siarl y Pumed i ddangos bywyd ac arferion Mecsico. OFFEREN Hwyrddydd yr un diwrnod gweinyddodd y Tadau Olmedo a Dias yr Offeren yn y capel newydd. Yn ystod y gwasanaeth yr oedd y trysor yn yr ystafell nesaf i'r chwith. I'r dde ohono eisteddiai ei berchenog, ymerawdwr ynghanol ei deyrnas, ac eto ddim mwy na gwystl ar drugaredd ychydig o ddieithriaid, yn gadael i'w uchelwyr ei gysuro y gorau y gallent. 'R oedd y Sbaenwyr i gyd, yn ôl Bernal Dias yn ymddwyn yn ddwys a difrifol yn ystod y defosiynau, 'Yn rhanog oherwydd y ddefod ei hunan, ac yn rhanog oherwydd ei ddylanwad llesol efallai ar y paganiaid oedd yn bresennol.' Hyd yn hyn, yr oedd Cortes wedi cael cyfres o Iwyddiannau di-dor, fel petai y Iwc i gyd wedi bod ar ei ochr. Yna daeth tri digwyddiad sydyn i newid y darlun yn llwyr. NEWID Cododd y cyntaf o blith y Sbaenwyr eu hunain. Wedi sicrhau fod Monteswma yn garcharor iddo, ni welai Cortes unrhyw reswm tros adael y trysor lle'r oedd. Fe'i symudodd un o neuaddau mawr y palas er mwyn asesu ei werth. Mae'n amlwg ei fod yn swm enfawr ac nid rhyfedd felly fod pob Sbaenaidd yn ceisio meddwl faint fyddai ei ran personol. Fel y digwyddodd yr oedd gan Cortes gynlluniau gwahanol i'w rannu. Fel cynrychiolydd brenin Sbaen credai fod ganddo hawl i ran go dda o'r ysbail. At hynny, onid efe oedd wedi talu am y llongau a'r 011 ynddynt? O ganlyniad yr oedd ganddo ddyledion yn aros i'w talu rhyw ddydd. Deddfodd Cortes fod y trysor i'w rannu fel a ganlyn: un rhan o bump i frenin Sbaen; rhan arall iddo'i hunan; trydedd rhan i Felascwes, llywodraethwr y brenin, gan fod Cortes weid anwybyddu ei orchymynion a hwylio ymaith a'i longau; pedwaredd rhan i'w dalu fel premiwm i'r uchelwyr ac arbenigwyr arfau ymhlith ei filwyr yn ogystal ag i'r garsiwn a wyliai'r arfordir ger Fera Crws. Yr oedd hyn yn gadael pumed rhan i'r milwyr cyffredin- 100 peso aur yr un-cyfran annigonol yn eu tyb hwy oedd wedi gweld maint y trysor, a chardod hollol o gofio yr hyn oeddent wedi ei gyflawni eisoes yn yr ymgyrch. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach digwydodd argyfwng mwy difrifol. Clywodd Cortes fod llynges wedi ei hanfon gan Felascwes yng ngofal gwr o'r enw Narfaes wedi glanio yn Fera Crws gyda'r pwrpas o ddwyn Cortes yn garcharor Ciwba dan gyhuddiad o wrthryfel agored. 'R oedd gan Narfaes 18 o longau gyda 900 o filwyr, a nifer o fagnelau mawrion. Yr oedd Cortes felly, nid yn unig yn eistedd megis ar ben casgen powdr yn Mecsico allai ffrywdro unrhyw funud, ond yn awr y n gorfod wynebu byddin o'i gydwladwyr, cryfach nag unrhyw lu arfog dan ei reolaeth ef. Yn wir, yr oedd fyddin a reolai Narfaes y mwyaf erioed a gasglwyd ynghyd frwydro yn y Byd Newydd. YSBÏWYR Cychwynnodd Cortes a'i fyddin dros wastadedd y Tiera Caliente ynghanol storm enbyd a glaw trwm. Daeth ysbiwyr a'r newydd iddo fod Narfaes wedi cyrraedd tref Cempoala. Afon yn unig felly oedd rhyngddo ef a'i elyn. Yn y cyfamser yr oedd (Parhad ar dud. 22)