Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL 'Pwy yw'r lesu hwn a ddaeth iGalilea gynt ac sy'n bod atom unwaith eto y nadolig hwn? Does dim rhaid ni chwilio ymhell oherwydd mae'r testun hwn yn rhoi i ateb iawn. Ef yw'r un a ddaeth ac sy'n dal i ddod 'gan gyhoeddi Efengyl Duw' (Marc 1:14). Mae'r cyhoeddwr yn datgan yn hyglyw ac ar lafar neges yr efengyl, y newyddion da o lawenydd mawr, neges sy'n herio pob gwawd ac sy'n rhoi terfyn ar bob tristwch. Mae'r ymadrodd hwn yn dangos nad cyhoeddi ei neges ei hun a wna lesu ond datgan efengyl Duw gan wneud hynny yn enw'r Tad. Nid yw efengyl Duw yn cynnwys newyddion ynghylch cyflwr y byd a'i bethau. Ni rydd olwg ar y byd a nid llwyfan ar gyfer y byd mohono. Yn hytrach newyddion da ynghylch Duw ydyw, pwy ydyw a beth mae ef yn ei ddymuno ar ein cyfer ni. Yr hyn yw'r nadolig yw dyfodiad lesu atom gan gludo'r neges hon oddi wrth Dduw Dyna pam y dylai pob gwr a gwraig, hyd yn oed y rheini sydd yn y digalondid mwyaf, fedru codi ei galon adeg y nadolig YR AWR YN TARO 'mae'r amser wedi ei gyflawni'. Mae'r awr wedi taro, nid y chwarter awr neu'i hanner awr neu'i tri-chwarter awr ond yr awr Mae'r hen awr wedi mynd heibio, mae'r newydd wedi cyrraedd. Mae teyrnas Dduw ar wawrio. Mae'r nadolig wedi dod! Mae awr fawr gwledydd y byd wedi pasio'n barod: y Prydeinwyr a'u hymerodraeth, y Ffrancwyr a'u cenedl, Hitler a'i Reich a fyddai'n para am fil o flynyddoedd, yr Americanwyr a'u hawydd anniwall i brynu'r holl fyd a'u harian, y Rwsiaid a'u gormes Comiwnyddol a ninnau'r Swiss gyda'n hunanddigonolrwydd a'n hunangyfiawnder. Mae eu awr hwy wedi dod ac wedi mynd. Mae'r awr wedi taro, yr hen a aeth heibio, wele'r newydd yma. Mae teyrnas Dduw wrth law! Mae'r nadolig wedi dod. WRTH LAW Ond beth yw ystyr hyn? Mae'n ymwneud â rhywbeth a ddigwyddodd unwaith mewn hanes. Disgynnodd teyrnas Dduw o'r nefoedd i'r ddaear, o dragwyddoldeb i fyd amser. Nawr, yma, heddiw mae Duw yn arddangos ei ogoniant a'i rym. Daeth Duw ei hun hyd atom gan gipio'r awenau allan o'n dwylo am ni fethu mor druenus ym mhopeth a wnaethom fel unigolion ac fel pobl. Cipiodd yr awenau eisoes, dyna ystyr 'ac y mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos'. Mae'r hwn sy'n ein caru ni yn anrhaethol fwy nac yr ydym yn ein caru ein hunain wedi gweld ein gwae a'n trueni, y trueni a'n hamgylchynodd pan fynnwyd gennym wneud ein gorau hebddo. Gwelodd y caledi, y trasiediau, yr erchyllterau, yr anghyfiawnder a'r anhrefn a ddeilliodd o'n hanufudd-dod, a mynnodd ddod atom. Daeth y Duw goruchel yn Dduw agos, daeth Duw'r nefoedd yn Dduw'r ddaear, yn gymorth, yn Achubydd ac yn Waredwr. Gweithredodd erein mwyn, dyna ystyr dyfodiad ei deyrnas ef! Mae ef wedi'n galw-er ein hanneilyngdod ac wedi'n tywys tuag at ei gartref gan agor y drws i ni a rhoi i ni ein allwedd ein hunain, mae ef wedi'n gwahodd ni at ei fwrdd ac wedi rhoi o'i fara ac o'i win. Gweithredodd ef fel tad i ni. Rhoes ni gartref. cartref na chawn ni fyth mo'n troi allan ohono. Nid dieithriaid byddwn mwyach, na phlant amddifad na Mair a'r Baban lesu chrwydriaid ond pobl iddo ef. Dyma a wnaeth. Yn hyn daeth y deyrnas yn agos. GORCHYMYN Ond erys gorchymyn ni'r nadolig hwn, sef 'Edifarhewch a chredwch yr Efengyl'. Heb y cynnwys, di-fudd yw'r gorchymyn. Sut allwn edifarhau onid ydyw'r deyrnas yn ymyl? Ond mae'r neges wedi'i chyhoeddi gan lesu. Yn hyn mae'r pregethu yn cyrraedd ein clustiau a'n calonnau, ein cydwybod a'n bywydau. Yr unig ymateb teilwng i'r neges hon yw i ni edifarhau a chredu, nawr, yma, heddiw ac yn ddi-oed. 'Edifarhewchl' Bydd yr ymadrodd hwn yn cyffroi ynom deimladau o ofid, cywilydd a dwyster. Ac mae hyn yn gwbl briodol. Mae edifeirwch yn golygu'n bod yn rhoi'r gorau Y NADOLIG HWN Albrecht Dürer i'r pethau hynny a dybiasom gynt oedd yn bwysig ac yn angenrheidiol ac yn anhepgor, mae'n golygu troi ar ein sawdl a chychwyn ar hyd llwybr cwbl newydd. Oherwydd dyfodiad y deyrnas gwelsom bethau yn eu gwir oleuni, dechreuodd pethau'r byd golli'u blas a throi'n syrffed arnom. Mae gofid a chywilydd am yr hyn a fu yn gwbl weddus, ond nid yw hynny yn newid y ffaith fod edifeirwch, yn ôl trefn yr efengyl, yn anturiaeth gynhyrfus a gorfoleddus dros ben. Mae'r hwn sy'n edifarhau yn ymdaclu yn ei ddilad gorau oherwydd beth yw dechreuad edifeirwch ar wahân i'r ymdeimlad fod teyrnas Dduw wrth law? Beth a wnawn wrth edifarhau ond symud o dywyllwch oleuni, o'r hen awr a'i holl ofid newydd-deb eirias awr Duw Wrth edifarhau deuwn i mewn i'r ty a agorodd Duw ar ein cyfer ac eistedd a bwyta wrth y bwrdd a ddarparodd y Tad er ein mwyn. O'r diwedd gallwn anadlu'n rhydd, daethom yn fyw drachefn! SEFYLL YN YMYL IESU 'a chredwch yr Efengyl' Wrth gredu'r efengyl croesawn y newyddion da a ddatganwyd nid gan ddyn ond gan Dduw, ei feddiannu a'i groesawu a pheri iddo ymwreiddio ynom fel y bydd yn dwyn ffrwyth yn ein bywydau Ystyr credu ar ei symlaf yw sefyll yn ymyl yr un a ddygodd y newyddion da atom, sefyll yn ymyl lesu Grist. Ei awr ef yw'r awr sy'n taro. Awr ei ddyfodiad ef ydyw, awr ei enedigaeth ef ac felly awr y nadolig. Beth yw teyrnas Dduw ar wahân iddo ef Mab y Tad yn disgyn o'r nefoedd i'r ddaear er mwyn ein gwneud ni yn blant Dduw? Ef yw'n cartref ni. Ef yw'r ty agored a'r bara a'r win sydd ar y bwrdd wedi'u darparu ar ein cyfer. Ef yw efengyl Duw, y newyddion da am yr hyn mae Duw wedi ei gyflawni drosom. Ef yw Gair Duw, wedi'i lefaru i ni yma, heddiw ac yn awr. Gelwir arnom dalu sylw iddo yn ddi-oed. Mae credu'r efengyl yn golygu credu ynddo ef ac mae edifarhau yn golygu troi ato ef ac ymddired ynddo a'i ddilyn. Dyma wir gyfarchiad yr ŵyl, sef ein bod yn talu sylw iddo ac i'w orchymyn, ein bod yn peidio ag oedi dim ond ein bod yn credu ynddo yn syth! Boed Dduw ganiatáu i ni ddathliad gwirioneddol y nadolig hwn! Boed iddo ganiatáu ei ras i lawer onid i bawb, i'r byd i gyd sydd mewn dirfawr angen am gael clywed y newyddion da a'r gorchymyn, am gredu'r efengyl a thrwyddi ddod adnabod lesu Grist. Amen.' Karl Barth, o bregeth a bregethwyd yn Basel ar 23 Rhagfyr 1956.