Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crist yw'r Ateb: y Pab a'r Her Eciwmenaidci gan JOHN HEYWOOD THOMAS Dim ond wedi i mi ddarllen llyfr diddorol ac amserol John Saward* ar ddiwinyddiaeth y Pab Ioan Paul II daeth rhifyn Medi 1995 o'r Cristion i'm llaw. Efallai dylwn ddweud yn gyntaf fy mod eisoes yn gyfarwydd a Saward fel awdur. Anglicanwr o ysgolhaig a fu yn Rhydychen ydyw, ac a ysgrifennodd lyfr hynod werthfawr ar y syniad o' ffolineb mewn llenyddiaeth Gristnogol. Erbyn hyn y mae'n Babydd ffyddlon sy'n hybu datblygiad yr Eglwys Gatholig ym mlynyddoedd olaf y ganrif'hon. Teg hefyd yw dweud i mi gael fy nisgrifio fel Ánnibynwr a oedd ganddo gydymdeimlad mawr ag Eglwys Rufain! Felly fe ddarllenais y llyfr gyda rhywbeth mwy na diddordeb a'r rhifyn arbennig ó Cristion yn yr un modd. A dyma fí nawr yn ysgrifennu'r pwt yma yn Am hanner can mlynedd a rhagor mae John Henry Newman wedi bod yn un o'm arwyr ystod wythnos weddi dros Undod Cristnogol; ac yn yr ysbryd hwnnw yr wyf am godi cwestiwn pwysig ynglyn â'n bywyd eglwysig Cymreig. Yn gyntaf'rwyf am droi'n ôl at rifyn Medi o Cristion. Am hanner can mlynedd a rhagor mae John Henry Newman wedi bod yn un o'm arwyr. 'Rwyf yn ei ddarllen yn aml ac ar hyn o bryd rwy'n darllen bywgraffiad clasurol Ian Ker ohono am yr ail waith. Nid rhyfedd felly oedd y teimlad o wefr a gefais wrth ddarllen llith y Canon John Rowlands ar arwyddocâd tröedigaeth Newman, a bu fy ymateb i erthygl y Tad John Fitzgerald yr un mor gyffrous. Teimlais erioed mai un o wendidau Newman oedd ei fethiant i weld gwirionedd y traddodiad Anghydffurfiol. Mae'n bosibl ei fod *John Saward, Christ is the Answer: The ChristCentred Teaching of Pope John- Paul II, T. & T. Clark, 1995. yn ormod o Sais; ond beth bynnag yw'r rheswm, efe, mi gredaf, sydd fwyaf i'w feio am fod Prydain ers canrif wedi meddwl am eciwmeniaeth yn nhermau problem y berthynas rhwng yr Eglwys Anglicanaidd ac Eglwys Rhufain. Dyna pam mae trafodaeth y Tad Fitzgerald mor iach oblegid y mae'n trin y broblem fel un sy'n canoli ar natur eglwys ac yn pwysleisio fod undod catholig eisoes ar gael yn Nuw. Pwyslais Anghydffurfiaeth, fel y traddodiad Diwygiedig clasurol, yw mae yn Nuw y mae catholigrwydd yn bod ac nad oes gan neb hawl i'w ddiffinio ar wahân i Dduw; nid i ni y perthyn yr hawl i benderfynu ei hyd a'i led. Diddorol iawn felly oedd darllen yr erthyglau ar ôl darllen am ddiwinyddiaeth y Pab, ac wrth feddwl am undod eglwysig teimlaf fod yma sialens arbennig i eciwmeniaeth Gymraeg. ARWR Fel y dywedais eisoes, mae Newman yn un o'm arwyr. 'Roedd ef nid yn unig yn un o'r meddylwyr mwyaf a fagwyd yn Eglwys Loegr erioed ond 'roedd hefyd yn un o arwyr mawr hanes Cristnogaeth. Daeth llawer o bethau i'm meddwl wrth ddarllen yr erthgyl; ond un o'r mwyaf pwysig oedd craffter dadansoddiad Newman o ystyr bod yn aelod o eglwys. Wedi ei dröedigaeth ni chafodd fywyd hawdd; ond fel Ilawer un arall ni wnaeth hynny'n rheswm dros beidio â pharhau'n aelod o'i eglwys. Gwelodd yn eglur iawn fod yna wahaniaeth pwysig rhwng bod yn anfodlon ar ystad yr Eglwys Rufeinig a thorri cysyiltiad â hi. Yn fy marn i, ef oedd y diwinydd a ddeallodd yn well na neb arall ym Mhrydain ar y pryd ystyr y cysylltiad rhwng aelodaeth eglwysig, awdurdod a rhyddid meddwl. Dyma'r hyn a ddywed yn ei Ddyddiadur: 'To submit to the Church mean this, first that you will receive as de fìde whatever she proposes de fide; that you will submit to the Schola Theologum, when unanimous, in matters of faith and morals as being sure that it is forbidden to condratict them that you obey the commands of the Church in act and deed, though as a matter of prudence etc. you think that other comments would be better. You are not called upon to believe defìde anything but what has been promulgated as such You are not called upon even to believe or act against the moral law at the command of any superior.' (Letters and Diaries, XX, t.545) Dyma'r safbwynt a ddatblygodd mewn modd mor feistrolgar yn ei lith enwog, Letter to the Duke of Norfolk,lle mae'n egluro'r gwahaniaeth rhwng y pethau a ellir eu amau ynglỳn a'n ffydd a'r hyn sy'n hanfodol i ffydd. Dywed y mae Newman ei fod ef am sefyll ar wahân i'r lluaws hynny a oedd yr adeg honno (1863) am ddiffinio awdurdod y Pab fel rhywbeth anffael- edig. Pwysleisia mai ffydd sy'n bwysig a bod pwysigrwydd eglwys a'i sefydliadau yn deillio o hyn eu hunig bwysigrwydd yw bod yn gyfryngau ffydd.