Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ni chredaf y bydd neb sy'n ei alw ei hun yn Gristion mewn ffordd i wadu'r pwyslais hwn ar ffydd yr Eglwys yng Nghrist y Gair, Mab Duw. Daeth Crisi yn ddyn, meddai, er mwyn cynnig i ddynoliaetr iachawdwriaeth, rhodd fawr Duw. Ffocws arbennig ei deyrnasiad, medd Saward, yw'r Jiwbili fawr, sef y flwyddyn 2000, fel achlysur a fydd yn aiI-ennyn ynom wybodaeth c ffaith ganolog y ffydd: 'Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith' (loan 1:14). Ni chredaf y bydd net sy'n ei alw ei hun yn Gristion mewn ffordd i wadu'r pwyslais hwn. SAIL Ar y sail hon adeilada Saward y sistem a ddisgrifiwyd eisoes. Y pwynt nesaf, felly, yw mai diwinyddiaeth drindodaidd yw hon. Wrth i Grist ddatguddio'r Tad y mae'r Tad yn ei ddatguddio Ef fel y Mab. Hefyd, medd Saward, mae'r Pab yn rhoi pwyslais arbennig a chyson ar yr Ysbryd Glân' Pope John Paul's Christocentricity may even be called a Pneumatological Christocentricity' (t.23). Bu'r Arglwydd Iesu fyw ei holl fywyd o'i blentyndod hyd at farwolaeth y Groes gan gyflawni cenhadaeth ei Dad 'drwy allu'r Ysbryd Glân'. Yr hyn sy'n wreiddiol yng Nghristoleg y Pab, medd Saward, yw ei ddealltwriaeth o'r Ysbryd yn Aberth y Mab yr Ysbryd sy'n peri i gariad tragwyddol darddu o ddioddefaint. 'Pris' dyfodiad yr Ysbryd Glân yw ymwadiad y Crist. Gwerth y fath safbwynt yw iddo fod ynghlwm wrth brofiad y Cristion o hanes. Nid syniad mo'r Drindod ond ffaith a wreiddwyd mewn profiad a hanes. Mae disgrifiad Saward (tt.46-7) o waith technegol y Pab ar ddiwinyddiaeth ('Y Gair Ymgnawdledig' a 'Pechod') yn Am fod yr Oen di-fai yn dwyn pechodau'r byd mae gan bob pechod, ble bynnag a phryd bynnag y'i cyflawnir, gysylltiad â'r Groes drawiadol iawn oblegid y Groes, meddai, sydd yn esbonio i ni wreiddiau dyfnaf y drygioni sydd i'w cael ym mhechod a marwolaeth. Am fod yr Oen di-fai yn dwyn pechodau'r byd mae gan bob pechod, ble bynnag a phryd bynnag y'i cyflawnir, gysylltiad â'r Groes. Rhywbeth cyflawn a chyn- wysfawr, medd Saward, yw ymdriniaeth y Pab â Iachawdwriaeth a dyma thema sydd wedi ei hesgeuluso gan ddiwinyddion yn ddiweddar. Yr hyn a ddaeth i'm cof wrth ddarllen y tudalennau hyn oedd yr hen ddadleuon Cymraeg ynghylch yr lawn. Gogoneddus yn wir yw dealltwriaeth y Pab o'r hyn a gyflawnwyd gan y Crist atgyfodedig. 'The Resurrection confirms in a new way that Jesus is truly man Only a true man would suffer and die on the Cross. Only a true man could rise from the dead. To rise again means to return to life in the body' (Saward, t.53 yn difynnu Catechesi 7, t.108). Nid rhyfedd, felly fod y Pab yn synied am y cosmos fel rhywbeth sy'n canoli yng Nghrist. Cofiaf i gyfaill o ddiwinydd Catholig ddweud wrthyf rai blynyddoedd yn ôl fod y Pab yn arfer casglu diwinyddion, athronwyr a gwyddonwyr i'r Fatican brynhawn dydd Gwener er mwyn trafod problemau cosmolegol. Ei bwyslais cyson yw mai Crist yw canol a diben y cosmos. Mae yna arwyddocâd cosmig i'r Ymgnawdoliad Crist yw'r cyntafanedig o'r holl greadigaeth, fel y dywed yr Epistol at y Colosiaid (i.I 5). Felly pwysleisia'r Pab undod Crist â'r cnawd ac a'r holl fyd materol. CWESTIYNAU MAWR Mae cwestiynau mawr yn codi yn nehongliad y Pab o'r berthynas rhwng Crist a'r Eglwys ac â'r Ewcharist. Yn y fan hyn gwelwn hanfod y gwahaniaeth rhwng unrhyw ddiwin- yddiaeth Brotestannaidd a'r ddiwinyddiaeth Gatholig. Gadawaf i'r naill ochr rai problemau amlwg ynglŷn â phwysigrwydd Pedr ac arwyddocâd Mair Forwyn. Nid wyf yn eu dibrysio ond maent yn codi cwestiynau technegol. Dangosant sut y bydd deialog eciwmenaidd yn rhwym o godi problemau athrawiaethol dyrys. Dadl y Pab yn syml yw bod yr efengyl, fel rhywbeth sy'n canolbwyntio ar Grist, yn uno credinwyr mewn profiad sagrafennol. Ni allwn wahanu, meddai, Grist oddi wrth yr Eglwys. Dyma'r eiriau yn 1987: 'With Scripture and Tradition we must insist on the unbreakable bond that exists between Christ and His Church. between the Bridegroom and His Bride, between the Head and His members, between the Mother and her spiritual children' (Saward t.63).