Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CENHADWR CEREDIC Trigain mlynedd i eleni bu farw un o genhadon dylanwadol Gogledd Ddwyrain yr India, Prif-athro ac efengylydd tanbaid, John Ceredig Evans. Ganwyd ef yn 1855 yn fab i John ac Elizabeth Evans, Cei Newydd. Teulu'r môr oedd ei deulu, ac yn ei fachgendod fe ddilynodd yntau eu llwybrau. Enillodd gymwysterau ond fe'i hargyhoeddwyd o alwad yr Efengyl. Ymrodd i addasu ei hun. Bu yn Ysgol Ramadeg Llandysul am ddwy flynedd, yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, am dair blynedd ac am dair blynedd arall ym Mhrifysgol Glasgow. Ymgymerodd â bugeilio eglwys Bresbyteraidd Gilead (Saesneg), Nant-y-moel yn 1884. Ordeiniwyd ef yn Llanelli 4 Awst 1885. Priododd gyda Sarah Williams ac aethant allan o borthladd Lerpwl, yn un o wyth o genhadon a chenhadesau Cymraeg, gan gyrraedd mewn pryd i'r Henaduriaeth a gynhelid yn Shillong (19-21 Tachwedd 1887) a chael eu synnu gan yr olygfa, sef tyrfa o fil a phedwar cant o Gasiaid yn addoli a chlywed yr hen alawon Cymreig yn cael eu canu gydag arddeliad. DYSGEDIG Am mai J. Ceredig Evans oedd y dysgedicaf o'r tri Gweinidog yn y fintai o wyth penodwyd ef gynorthwyo y Parchg. Ddr. John Roberts, gwr o Goris yn y Sefydliad Diwinyddol yn ogystal â gofalu am yr Ysgol Normalaidd yn Cherra. Yn ychwanegol disgwylid i'r Cardi arolygu y gwaith cenhadol mewn nifer o bentrefi yng nghymdogaeth Cherra, sef Mawsmai, tair milltir o Cherra, Mauphu, naw milltir o Cherra, Mawkybor, chwech milltir o Cherra a Lailyndop, saith milltir o Cherra. gan D. BEN REES Yn 1890 penderfynwyd symud yr Ysgol Athrawol Shillong a'i huno a'r Ysgol Uwchradd Mawkhar a gychwynwyd gan un o blant Môn, T. Jerman Jones, a hefyd yr Ysgol Uwchradd fechan a berthynai i'r Llywodraeth. Yn gynnar yn y flwyddyn 1891 gwnaed y tair yn un Ysgol y Llywodraeth, yr hon a gynhelid mewn adeilad yn perthyn i'r Genhadaeth, wedi ei helaethu gyda chymorth grant gan y Llywodraeth ac ar dir yn perthyn i Genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg. Gosodwyd y cyfrif- oldeb ar J. Ceredig Evans fel Prifathro a bu wrth y gwaith hyd 1914. Nid hyn oedd ei unig gyfrifoldeb, ef oedd Cenhadwr Dosbarth Mawlai a Thrysorydd y Genhadaeth yn India o 1894 hyd 1929. Cafodd brofedigaeth fawr pan bu farw ei briod (hithau yn un o ferched Sir Aberteifi) yn Shillong ar 13 Rhagfyr 1891. Bu mewn enbydrwydd. Daeth hen wreigan i'w gysuro gan lefaru'n grefyddol ddí-deímlad 'Ewyllys yr Arglwydd a wneler.' Trodd ati yn gwbl ddi-amynedd, fel y medrai, a 'Ewyllys yr Arglwydd yn wir! Peidiwch â lolian wraig' meddai 'Ewyllys yr Arglwydd yn wir! Peidiwch â lolian wraig.' Tra ar ymweliad â Chymru yn 1893 priododd gyda Ellen Williams o'r Eglwys Newydd, Caerdydd a bu yn gymorth amhrisiadwy iddo am gyfnod hir. HAU'R HAD Heuodd ef yr had yn helaeth ar Fryniau Casia ac yn y cyfnod (1914-29) cadwodd ei gysylltiad ag addysg fel arolygwr yr ysgolion, yn genhadwr, ac yn gynrych- iolydd effeithiol ar gyngor Assam. Fel cyd- nabyddiaeth o hyn derbyniodd fedal arian Kaisar-i-Hind yn 1914 a'r deyrnged fwyaf o law'r Llywodraeth pan gafodd fedal aur Kaisar-i-Hind yn 1922. Pan ymwelodd â Chymru yn 1921-2 etholwyd ef yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol ac yn Llywydd Cynhadledd yr Eglwysi Saesneg, anrhydedd anghyffredin na chafodd neb arall yn holl hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Y ddwy swydd yn yr un flwyddyn! Gwr amlochrog ydoedd, yn meddu ar bersonoliaeth gref, a thân amlwg yn ei anerchiadau. Dylanwadodd yn helaeth ar filoedd yn ystod y cyfnod hir o 42 o flyn- yddoedd y bu'n cenhadu. Fel y dywedodd un o'i gyd-genhadon, Sydney Evans (brawd-yng-nghyfraith Evan Roberts, y Diwygiwr). 'Carai Gymru a'r Cei yn anger- ddol, a charai Khasia a Shillong yn fwy angerddol fyth' 'Carai Gymru a'r Cei yn angerddol, a charai Khasia a Shillong yn fwy angerddol fyth.' Teimlai ei fod yn perthyn Khasia a Khasia iddo yntau. Ac ar ôl ymddeol o'r India Orllewin Cymru siaradai o hyd ac o hyd am Casia, ac am yr hyn a welodd, yr Henaduriaeth yn tyfu'n Gymanfa â'r Gymanfa honno yn datblygu yn bedair Cymanfa, â'r eglwys ar y maes yn ymuno greu Eglwys Unedig Gogledd India. Teimlai fod Casia yn wlad gwyrthiau gras-fe wnaed cenedl o'r Casiaid ac Eglwys o'r credinwyr, a gweler ôl llaw arweinyddiaeth Ceredig Evans ar y ddwy. Yn nwy flynedd a deugain ei lafur fe aeth 4,401 o Gristnogion yn 47, 564 ar y Bryniau ac yn 90,083 ar yr holl faes cenhadol, ac erbyn ei farw yr oedd 4,401 bellach yn rhifo 12,136. Mewn hiraeth am y bobl a garai yng Nghasia ac nis gwelsai ers 1929, mynnodd ymweld â hwynt yn 1933-4 a dychwelodd yn llawn asbri Gei Newydd. Y Maes Cenhadol Ar Fryniau IẄasia A Tmntia EMYNYDDIAETH Cyfrannodd yn helaeth emynyddiaeth. Cyfieithodd lawer a chanwyd un o'i gyfeithiadau ar ddiwrnod ei arwyl yng Nghei Newydd yn iaith y Casi, sef yr emyn 'Dyma gariad fel y moroedd,' eiddo yn wreiddioli Gwilym Hiraethog (William Rees: 1802-1833). Meistrolodd yr iaith Gasi a bu'n gefn mawr i'r Pwyllgor a roddodd gyfieithad diwygiedig o'r Testament Newydd i bobl Casia. Cadwodd yn ifanc ei ysbryd a meddyliai