Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

leslJ @&M 'M 'ŵjrW Cawn olwg yma ar erthygl a ysgrifennodd y Parchedig David Wyre Lewis, gweinidog eglwysi Bedyddiedig Seion, Nefyn, a Chaersalem, Morfa Nefyn, ar athrawiaeth y Geni Gwyrthiol yn rhifyn Medi 1904 0 'Seren Gomer'. Ni ddywed pam iddo ddewis y testun hwn, ond dywed fod anfodlonrwydd llawer yn ei gylch yn adlewyrchiad o 'gyflwr meddyliaeth yr oes bresennol ynglyn â genedigaeth lesu Grist'. Mae'n bosibl iawn i'w ddiddordeb yn y cyfoes ddylanwadu ar ei ddewis. Dywed fod dau beth yn bennaf gyfrifol am y sefyllfa oedd ohoni: Yr arfer o feddwl yn wyddonol oedd mor gyffredin i'r oes; a dylanwad Uwchfeirniadaeth. O dan y pen cyntaf, noda amharodrwydd meddwi yr oes dderbyn syniadau heb yn gyntaf eu profi. O dan yr ail ben, noda fygythiad Uwch- feirniadaeth ar athrawiaeth y geni gwyrthiol. 'Mae'n ddiddadl', meddai, 'fod athrawiaeth y geni gwyrthiol yn gynwysedig yng nghredo yr eglwys o'r amser boreuaf hyd yn bresennol'. Ond, i barhau yng nghredo'r eglwys, mae'n rhaid i'r athrawiaeth 'gael ei sail yn y gwirionedd ei hun'. Y cwestiwn a gwyd felly yw 'a oes seiliau digonol i'r athrawiaeth yn yr efengyl'? SEILIAU Mae Wyre yn rhannu'r damcaniaethau PETER HARRIES DAVIES am y geni gwyrthiol i dri dosbarth: Y damcaniaethau sy'n gweld yr hanes yn ffug; y damcaniaethau sy'n ei weld fel dameg am burdeb lesu; a'r damcaniaethau sy'n ei weld yn llythrennol wir. Mae wedyn yn edrych ar y gwahanol ddamcaniaethau hyn o dan bedwar pwynt: Y syniad mai chwedlau ofergoelus yw sail yr hanes; distawrwydd Marc, loan, a Paul; yr hanes fel y ceir ef ym Mathew a Luc; a pherthynas y tybiaethau hyn â gwaith cyfryngol yr lesu. O dan y pwynt cyntaf, dywed fod cenhedloedd paganaidd y byd yn arfer cysylltu genedigaeth eu gwroniaid â chyfryngiad dwyfol. Roedd hyn yn wir am Augustus a Bwda, ac fe honnir i'r chwedloniaeth ofergoelus hon adael ei hôl ar lenyddiaeth yr Iddew. Cyfeirir at enedigaeth Samson a Samuel fel enghreiff- tiau o hyn, ynghyd â genedigaeth loan Fedyddiwr, ac wrth gwrs, genedigaeth lesu Ei Hun. Mewn beirniadaeth o'r safbwynt hwn, cyhudda Wyre gefnogwyr y safbwynt o fod yn euog 'o ceisio amddifadu Israel o bob hawl i wreiddolder, a rhoddi pob clod i'r pagan'. Yn coleddu'r safbwynt hwn, ond yn gwrthod y farn mai dylanwad paganiaeth oedd yn gyfrifol amdano, oedd dynion a gredent fod y chwedlau i'w priodoli yn hytrach i'r 'ymwybyddiaeth grefyddol sydd mewn dyn briodoli pob mawredd i Dduw'. Tueddai'r Iddew olrhain popeth yn ôl at Dduw, ac felly ni allai gyfrif am Samson, Samuel, ac loan, heb eu priodoli Dduw. Os oedd hyn yn wir am y tri hyn, pa faint mwy oedd yn wir am yr lesu? Yn ôl y safbwynt hwn felly, er mai chwedlau ofergoelus yw sail hane� y geni gwyrthiol, yr oedd 'iddynt ystyr a meddwl crefyddol'. Yn debyg i hanes y creu, edrychid ar y chwedlau hyn fel geiriau damegol yn cyfleu neges grefyddol. DISTAWRWYDD O dan ail bwynt, cyfeiria Wyre at ddistawrwydd yr efengyl gynharaf (Marc) am y geni gwyrthiol, distawrwydd yr epistolau cynharaf (eiddo Paul), a distawrwydd ysgrifau diweddaraf y Testa- ment Newydd (eiddo loan). Pam fod hyn felly? Yn ôl yr esgob Charles Gore, cyfyngwyd tystiolaeth yr apostolion i'r cyfnod y buont yng nghwmni'r lesu, a chan nad oeddent yn llygaid-dystion o'i enedigaeth, ni allai'r geni gwyrthiol fod yn rhan o'u dysgeidiaeth. Nid oes pwys mawr yn nistawrwydd loan oherwydd distaw yw ef am ddigwyddiadau pwysig eraill ym mywyd yr lesu, e.e. Ei Fedydd. Amcan Paul yn ei Iythyrau oedd gwrthwynebu cyfeiliorn- adau'r eglwysi yr ysgrifennai atynt, ac felly nid oedd angen iddo yntau gyfeirio'n fanwl at y geni gwyrthiol. 'Yr unig gasgliad rhesymol ellir dynnu oddiwrth ddistawrwydd yr apostolion hyn', meddai Wyre, 'ydyw nad ydyw yn brawf digonol dros nac yn erbyn yr athrawiaeth o'r geni gwyrthiol'. CYSONDEB O dan y trydydd pwynt, cyfeiria at anghysondebau'r hanes ym Mathew a Luc, e.e. ceir rhestrau achau gwahanol yn y ddwy efengyl. Ceisiai'r ysgol a gynrychiolir gan yr esgob Gore a William Sanday gyfrif am y rhestrau achau gwahanol drwy honni fod Mathew yn ysgrifennu ei achau yntau ar gyfer y cenhedloedd. Yn ôl yr un ysgol, rhydd Mathew olwg Joseff o'r hanes, ac fe rydd Luc olwg Mair ohono. Golygai hyn fod yr hanesion wedi dod yn wreiddiol oddi wrth Joseff a Mair, ac wrth ymateb i hyn, dywed Wyre fod yr ymgais hon egluro'r anghysondebau yn bosib ac yn ddigon tebygol o fod yn wir.